Busnes Cymru
Gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru yw Busnes Cymru. Mae gennym ganolfannau rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru, ac rydym yn cynnig cymysgedd o gymorth ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, yn ogystal â gweithdai hyfforddiant a chyngor i unigolion.
Canolfannau Rhanbarthol Busnes Cymru
O ddatblygu cynlluniau busnes i sicrhau cyllid a chyflogi mwy o staff, gall ein timau cynghori ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i helpu eich busnes dyfu a gwella ei botensial cymaint â phosibl. Cysylltwch â’ch canolfan ranbarthol Busnes Cymru i gael gwybod sut y gallwn gynnig cymorth i chi yn eich ardal leol.
Dechrau eich busnes
Mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth penodol ar gyfer y cam cyn dechrau busnes ac ar gyfer busnesau newydd. Drwy ddefnyddio nifer o ddulliau diagnostig ar gyfer busnesau, bydd ein timau cynghori yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gweithredu cynhwysfawr ac i’ch helpu i oresgyn unrhyw heriau sy’n codi.
Tyfu eich busnes
O chwilio am gyfleoedd am gyllid i archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd, mae gan Busnes Cymru yr arfau sydd eu hangen i’ch helpu wrth ichi geisio ehangu a thyfu eich busnes trwy ein rhaglenni Cynghori Busnes a Rheoli Cysylltiadau Twf.
Nod rhaglen Cynghori Busnes Twf yw canfod y pethau sy’n rhwystro twf a mynd i’r afael â nhw. Mae’r cymorth arbenigol hwn yn cynnwys asesiad diagnostig o’r busnes, sy’n canfod unrhyw ffactorau sy’n rhwystro twf. Yn dilyn hyn, gellir rhoi sylw i’r ffactorau hyn trwy gymorth wyneb-yn-wyneb, rhwydweithio, canfod cyfleoedd cyllido a gweithdai.
I fusnesau sy’n cynllunio twf sylweddol neu wrthi’n tyfu’n sylweddol, mae cymorth ar gael gan ein Rheolwyr Cysylltiadau. Dyma wasanaeth arbenigol sy’n cyfuno’r amrywiaeth unigryw o wasanaethau a gynigir gan Busnes Cymru gyda phartneriaid a rhwydweithiau a ddewiswyd yn ofalus.
Gwasanaethau a chymorth arbenigol