Digwyddiadau tramor
Gall ymweld â’r farchnad fod yn rhan hollbwysig o ennill a chadw busnes, boed hynny’n golygu mynychu neu arddangos mewn arddangosfa neu sioe fasnach, neu ymweld â'r farchnad a chwsmeriaid posibl. Dewiswyd y marchnadoedd a'r arddangosfeydd yn ein rhaglen i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru.
O achos COVID-19, efallai y bydd Rhaglen Digwyddiadau Tramor Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn gorfod cael ei newid ar fyr rybudd. Os hoffech ymweld â marchnad allforio neu arddangosfa fasnach dramor a chael yr wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â’r Tîm Allforio trwy glicio ar y botwm ‘mwy o wybodaeth’ wrth ymyl y digwyddiad. Bydd unrhyw ymweliadau â marchnad neu arddangosfa fasnach dramor yn y dyfodol yn gorfod cadw at reoliadau Llywodraeth Cymru a’r cyfyngiadau yn y farchnad dan sylw.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau isod ffoniwch 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.