1. Cyflwyniad

Os ydych yn ystyried allforio nwyddau, dylech holi a oes angen trwydded allforio. Bydd hynny’n dibynnu ar beth fydd yn cael ei wneud â’r eitem ac i ble rydych yn ei hallforio.  Mae’n drosedd allforio nwyddau a reolir heb y drwydded gywir, felly mae’n bwysig holi gynta.  Efallai y bydd angen trwydded hyd yn oed os ydych ond yn allforio nwyddau am gyfnod dros dro e.e. mynd â rhywbeth i arddangosfa. 

Mae yna fesurau rheoli ar gyfer allforio: 

Anifeiliaid a phlanhigion 

  • anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid 
  • planhigion a chynnyrch planhigion 

Cyffuriau, meddyginiaeth a dyfeisiau meddygol

  • cyffuriau a meddyginiaethau 
  • dyfeisiau meddygol 

Sylweddau cemegol ac ymbelydrol 

  • cemegion 
  • sylweddau sy’n teneuo’r oson a nwyon wedi’u fflworeiddio 
  • sylweddau ymbelydrol 

Diemyntau a gweithiau celf 

  • diemyntau 
  • gweithiau celf, antîcs a nwyddau o bwys diwylliannol

Gwastraff 


Nwyddau y gellir eu defnyddio i arteithio neu fel cosb eithaf 


Nwyddau technoleg, diogelwch, arfau tanio neu amddiffyn (gan gynnwys nwyddau deuddiben)

  • arfau tanio, bwledi ac ati ac offer cysylltiedig 
  • nwyddau, gwasanaethau a thechnoleg filwrol
  • eitemau a all fod â dibenion sifil a milwrol 

Rhaid ichi edrych hefyd a oes sancsiynau neu waharddiadau.  Cyfyngiadau gwleidyddol ar fasnach yw sancsiynau a gwaharddiadau, yn erbyn gwledydd penodol i gynnal neu adfer heddwch neu ddiogelwch rhyngwladol. 
 

2. Anifeiliaid a phlanhigion

2.1       Allforio anifeiliaid a chynnyrch anifeiliaid

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am reoleiddio allforion anifeiliaid byw a chynnyrch anifeiliaid fel cig, nwyddau llaeth, bwyd anifeiliaid anwes a gwlân.

Mae'r rheoliadau sy'n ymwneud ag eitem benodol sy’n cael ei hallforio yn gallu amrywio'n fawr.  Mae ffactorau fel y wlad yr allforir iddi, y rhywogaeth, natur y cynnyrch anifeiliaid a'r defnydd a wneir o’r eitemau i gyd yn effeithio ar yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni.

Darllenwch y canllawiau ar fewnforio ac allforio anifeiliaid byw neu gynnyrch anifeiliaid ar wefan gov.uk

 

2.2       Allforio planhigion a chynnyrch planhigion

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am reoleiddio allforion planhigion a chynnyrch planhigion.

Wrth allforio planhigion a chynnyrch planhigion a reoleiddir i wledydd eraill, mae angen i chi:

  • holi’r awdurdod iechyd planhigion yn y wlad yr allforir iddi a oes angen tystysgrif ffytoiechydol ar eich planhigion (os nad yw’r manylion i’w gweld ar wefan IPPC. Os nad ydych yn deall y gofynion, cysylltwch â'ch awdurdod neu arolygydd iechyd planhigion yn y DU)
  • holi a oes angen profion labordy ar samplau o’ch planhigion i sicrhau eu bod yn ddi-bla ac yn ddi-glefyd neu er mwyn gallu cynnal archwiliadau tymor tyfu arnynt - cysylltwch â'ch arolygydd iechyd planhigion lleol
  • gwneud cais i awdurdod iechyd planhigion perthnasol y DU am dystysgrif ffytoiechydol cyn allforio
  • cofrestru fel gweithredwr proffesiynol, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny

Os ydych yn allforio fel dinesydd preifat (nid ydych wedi cofrestru fel cwmni neu unig fasnachwr), cysylltwch ag APHA i gael gwybod sut i wneud cais. E-bostiwch planthealth.info@apha.gov.uk.

Gallwch gysylltu ag awdurdodau iechyd planhigion y DU i weld a oes angen tystysgrif ffytoiechydol ar y planhigion a’r cynnyrch rydych yn bwriadu eu hallforio.

Yr awdurdod planhigion perthnasol yng Nghymru a Lloegr yw'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).  Cysylltwch ag arolygydd iechyd planhigion a hadau lleol APHA  neu â'r Ganolfan Masnach Ryngwladol (CIT):

 

CIT Plants Headquarters
Foss House
Kings Pool
1-2 Peasholme Green
York

Ffôn: 0300 1000 313 – wrth ffonio, dewiswch opsiwn 2

E-bost: planthealth.info@apha.gov.uk

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk i weld a oes angen trwydded neu dystysgrif ffytoiechydol i allforio planhigion a chynnyrch planhigion.  Maen nhw’n cynnwys gwybodaeth ar sut i ail-allforio i wlad arall eitemau sydd wedi’u mewnforio.

3. Cyffuriau, meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol

3.1       Allforio cyffuriau a meddyginiaethau

Rhaid ichi gael caniatâd i allforio:

  • cyffuriau a reolir megis opioidau, rhai ysgogyddion neu sylweddau seicotropig
  • rhai cyffuriau y gellir eu defnyddio mewn chwistrelliadau marwol y tu allan i’r UE
  • meddyginiaethau ar gyfer pobl neu anifeiliaid

Cyffuriau a Reolir

Gallwch chwilio’r rhestr o gyffuriau cyffredin a reolir i weld a yw’ch cyffur yn un a reolir ac a oes angen trwydded y Swyddfa Gartref arnoch i’w allforio.  Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw drwydded ddomestig sydd ei hangen arnoch i fod â’r cyffur yn y DU.

Os nad yw’r cyffur ar y rhestr ond eich bod yn credu y gallai fod ganddo nodweddion cyffur a reolir, darllenwch y ddeddf berthnasol i weld a yw’n cael ei reoli. Mae dolen ar y rhestr o gyffuriau cyffredin a reolir i gysylltu â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

I wneud cais am drwydded y Swyddfa Gartref i gael allforio cyffuriau a reolir i unrhyw le yn y byd, bydd angen ichi gofrestru ar gyfer trwydded cyffuriau a reolir y Swyddfa Gartref  a logio i mewn ar ôl cofrestru.

Mae yna ffurflen wahanol os ydych yn allforio cyffuriau a reolir i Ynysoedd y Sianel.  E-bostiwch channel_islands@homeoffice.gov.uk am fanylion.

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk .

Cyffuriau y gellir eu defnyddio mewn chwistrelliadau marwol

Os ydy’r cynnyrch rydych yn ei allforio’n cynnwys sylwedd a allai gael ei ddefnyddio mewn chwistrelliadau marwol, rhaid ichi ategu’ch cais am dystysgrif allforio’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) â thrwydded allforio gan y Gyd-uned Rheoli Allforion (Export Control Joint Unit yr Adran Fasnach Ryngwladol). Gallwch ei huwchlwytho ar y cais ar-lein.  Darllenwch hefyd am y mesurau rheoli ar gyfer allforio nwyddau arteithio a'r gosb eithaf gan gynnwys cyffuriau y gellir eu defnyddio mewn chwistrelliadau marwol.

Cadwch at y rheolau ar gyfer allforio barbitwradau.

Meddyginiaethau

I allforio meddyginiaethau i bobl ac anifeiliaid, rhaid ichi:

  • ofalu bod gennych drwydded gwneuthurwr cyffuriau, cyfanwerthwr a marchnata - os nad oes, gwnewch gais am drwydded
  • holi a oes angen tystysgrif allforio arnoch – cysylltwch â’ch mewnforiwr neu’r awdurdod yn y wlad rydych yn allforio iddi.

Os oes angen tystysgrif allforio arnoch, mae sut i ymgeisio amdani’n dibynnu a ydych yn allforio meddyginiaethau i bobl neu anifeiliaid.  Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk.  Sylwch fod rheolau ychwanegol os yw’ch meddyginiaeth wedi’i haraenu mewn cynnyrch anifeiliaid neu'n ei gynnwys  fel gelatin.

3.2       Allforio dyfeisiau meddygol

Efallai y bydd angen Tystysgrif Gwerthu’n Rhydd (CFS) arnoch i allforio dyfeisiau meddygol.  I gael gwybod, darllenwch reolau mewnforio’r wlad rydych yn allforio iddi. I’ch helpu, defnyddiwch erfyn Import Controls yr Hyb Allforio.

Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) sy’n gyfrifol am roi CFS ar gyfer dyfeisiau meddygol. Mae’r MHRA ond yn rhoi CFS fel gwasanaeth i allforwyr dyfeisiau meddygol o’r DU.  

Cyn gwneud cais

Gallwch ond archebu CFS ar gyfer dyfeisiau meddygol a dyfeisiau diagnostig in vitro (IVD) sydd wedi’u cofrestru gyda’r MHRA ar ei System Cofrestru Dyfeisiau Ar-lein (DORS).  Chewch chi ddim CFS ar gyfer dyfeisiau meddygol diagnostig in vitro a ddefnyddir i werthuso perfformiad.

Dim ond gwneuthurwr yn y DU, Person Cyfrifol o’r DU neu Gynrychiolydd gydag Awdurdod yng Ngogledd Iwerddon sy’n cael archebu CFS.  Bydd rhaid profi bod gan y dyfeisiau meddygol rydych yn eu hallforio y marciau perthnasol (UKCA, CE, CE UKNI) i ddangos eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol y DU 2002 (fel y'u diwygiwyd) sy’n rhoi’r hawl iddynt gael eu gwerthu ym marchnad y DU.

Tystysgrifau Gwerthu’n Rhydd

Nid yw’r CFS yn golygu bod y Llywodraeth yn cymeradwyo’r cynnyrch sy’n cael ei enwi ar y dystysgrif.

Bydd yr MHRA yn rhoi CFS wahanol gan ddibynnu ar leoliad y gwneuthurwr, Person Cyfrifol y DU neu’r Cynrychiolydd gydag Awdurdod, ac ar y marc cydymffurfio,.

Ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban), bydd MHRA yn cyhoeddi CFS ar gyfer marc UKCA gan ddatgan y gellir gwerthu'r ddyfais feddygol yn rhydd ym marchnad Prydain Fawr.

Cyhoeddir y tystysgrifau MHRA hyn fel dogfennau PDF gyda llofnod electronig.

Nodwch na fydd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn gallu rhoi tystysgrif ‘apostille’ ar ddogfennau PDF gan MHRA. Bydd angen Notari arnoch i archwilio’r dogfennau gyda'r MHRA i gadarnhau eu bod yn ddilys, a gall wedyn ardystio’r tystysgrifau, os yw hynny'n ofynnol gan y wlad yr allforir iddi. Ar ôl eu hardystio y bydd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn rhoi tystysgrif ‘apostille’.

Darllenwch y canllawiau llawn ar sut i wneud cais am CFS ar wefan gov.uk.

4. Cemegion a sylweddau ymbelydrol

4.1       Allforio cemegion

Yn yr UE, nid oes rheolau arbennig oni bai’ch bod yn allforio cemegion a reolir, er enghraifft y rhai sydd â defnydd milwrol.  Y tu allan i'r UE, rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer cemegion peryglus, yn ogystal â'r rheolau ar gyfer unrhyw gemegion a reolir.

Mae’r rheolau allforio yn cwmpasu cemegion unigol yn ogystal â chymysgeddau (a elwir hefyd yn baratoadau). Er enghraifft, paent, inc, glud neu olew. Mae rheolau arbennig ar gyfer cynnyrch sy'n cynnwys cemegion sydd o dan gyfyngiadau llym y tu allan i'r UE.

Trwyddedau ar gyfer cemegion a reolir

Efallai y bydd angen trwydded arnoch i allforio:

Os ydych chi’n cyflenwi cemegion y gellir eu defnyddio i wneud ffrwydron, edrychwch beth yw gofynion y wlad sy'n eu mewnforio o ran y gyfraith a chrynodiadau.

Rhaid rhoi gwybod ar unwaith trwy’r llinell atal brawychiaeth ar 800 789 321am unrhyw beth drwgdybus.

Rhagsylweddion cyffuriau

Efallai y bydd angen trwydded arnoch i gadw neu allforio rhagsylweddion cyffuriau.

Cemegion peryglus

I allforio rhai cemegion peryglus y tu allan i Brydain Fawr, rhaid ichi:

Cynnyrch sy’n cynnwys cemegion o dan gyfyngiadau llym

Bydd angen rhif RIN arnoch os ydych yn allforio cynnyrch sy’n:

  • Cynnwys cemegyn sydd yn rhan 2 neu 3 o Atodiad 1
  • Yn cael ei ystyried yn erthygl gan y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Mae hyn yn cynnwys cynnyrch fel batrïau a ffonau.

Nid oes angen ichi ddilyn y rheolau allforio ychwanegol ar gyfer sylweddau a chymysgeddau cemegol.

 

4.2       Allforio sylweddau sy’n teneuo’r oson a nwyon wedi’u fflworeiddio

Rhaid cael trwydded i allforio sylweddau sy’n teneuo’r oson (ODS) a rhaid ichi gofrestru ar gyfer cyfrif ODS os ydych am weithio gyda:

  • ODS
  • offer sy’n cynnwys ODS

Wedi ichi gael cyfrif, rhaid ichi wneud cais am drwydded ODS cyn mewnforio neu allforio ODS a/neu offer sy’n cynnwys ODS.  Mae angen trwydded i fewnforio ac allforio ODS at y dibenion canlynol, ymhlith eraill:

  • deunyddiau crai ar gyfer proses ddiwydiannol
  • cyfryngau prosesu
  • gwaith labordy a dadansoddi
  • halonau at ddibenion critigol, er enghraifft system diffodd tanau ar awyrennau
  • awyrennau
  • dibenion milwrol
  • dinistrio
  • anadlyddion dos penodol (allforio)

Bydd angen trwydded fewnforio neu allforio arnoch i fasnachu ag Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Rydych yn cael masnachu pob grŵp o sylweddau a reolir ac a reoleiddir â Jersey ac Ynys Manaw. Dim ond sylweddau grŵp 1 a grŵp 3 y cewch eu masnachu â Guernsey.

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk

Mae’n drosedd mewnforio neu allforio ODS heb drwydded fewnforio neu allforio neu fewnforio neu allforio ODS at unrhyw ddibenion eraill.  Gallech gael eich erlyn.  Gweler polisi gorfodi a sancsiynau Asiantaeth yr Amgylchedd.

 

4.3       Allforio sylweddau ymbelydrol

Ffynonellau ymbelydrol a reolir

Mae Gorchymyn Allforio Ffynonellau Ymbelydrol (Rheoli) 2006 yn rheoli allforio rhai ffynonellau ymbelydrol actif iawn fel y’u diffinnir o dan God Ymddygiad yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) ar Ddiogelu Ffynonellau Ymbelydrol.

Cafodd ei gyflwyno fel rhan o ymrwymiad rhyngwladol Llywodraeth y DU i leihau'r risg y gall ffynonellau ymbelydrol gwympo i ddwylo brawychwyr neu grwpiau troseddol sy’n ceisio codi arian at ddibenion brawychol. Mae gan wledydd eraill fesurau rheoli tebyg ar gyfer mewnforio ac allforio ffynonellau ymbelydrol actif iawn.

Rheolir ffynonellau ymbelydrol penodol sy’n cael eu hallforio yn ôl eu lefel o ymbelydredd. Mae'r gorchymyn yn diffinio 2 lefel, eitemau Categori 1 ac eitemau Categori 2. Rydym yn eu disgrifio isod.

Mae'r rhestr o ffynonellau ymbelydrol rheoledig i'w gweld hefyd yn Rhestr Ffynonellau Ymbelydrol Genedlaethol y DU sy'n rhan o Restrau Rheoli Allforion Strategol y DU.

Darllenwch y canllawiau llawn ynghylch pa ffynonellau ymbelydrol y bydd angen trwydded i'w hallforio a sut i wneud cais am un ar wefan gov.uk.

5. Diemyntau a gweithiau celf

5.1       Allforio diemyntau

Nid oes angen trwydded na thystysgrif i allforio gemwaith, aur na metelau gwerthfawr ond fe fydd i allforio diemyntau (garw) heb eu caboli. Ond ni chaniateir allforio cerrig gwerthfawr a lled-werthfawr, eitemau aur ac arian a nwyddau moethus i Ogledd Corea neu Syria.

Efallai y bydd gan rai gwledydd reolau ynghylch mewnforio rhai nwyddau. Dylech holi’ch mewnforiwr. Fe welwch brif reolau pob gwlad ar yr erfyn Import Controls yn yr Hyb Allforio.

Dim ond gwledydd sy'n rhan o Gynllun Ardystio Proses Kimberley (KP) sy’n cael mewnforio ac allforio diemyntau garw. Bydd diemyntau o wledydd eraill yn cael eu hatafaelu.

Proses Kimberley sy’n rheoleiddio’r fasnach ryngwladol mewn diemyntau garw a rhaid cael tystysgrif KP i allforio diemyntau garw o’r DU.

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk.

 

5.2       Allforio gweithiau celf, antîcs a nwyddau o bwys diwylliannol

Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am reoleiddio allforio gweithiau celf, antîcs a nwyddau o bwys diwylliannol. Mae gweithiau diwylliannol yn cynnwys:

  • gweithiau celf
  • celfi
  • antîcs
  • cyfryngau cludiant
  • llawysgrifau
  • eitemau archeolegol

Efallai y bydd angen trwydded arnoch, hyd yn oed os ydych yn allforio i’r UE neu’n allforio am gyfnod dros dro.  Mae gwaharddiad ar gyflenwi gweithiau celf, darnau casglu ac antîcs i Ogledd Corea a Syria.

Darllenwch y canllawiau llawn gan gynnwys sut i wneud cais am drwydded ar wefan gov.uk.

 

6. Gwastraff

Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoli mewnforion ac allforion gwastraff, hynny law yn llaw ag Asiantaeth yr Amgylchedd Llywodraeth y DU.

Mae angen caniatâd ysgrifenedig (gan 'Awdurdodau Cymwys' yr holl wledydd dan sylw) i allforio a mewnforio mathau penodol o wastraff i'w hadfer, hynny cyn symud y gwastraff. Rhaid i chi gydymffurfio ag ystod o ofynion eraill, yn enwedig y gofyn i ddarparu Gwarant Ariannol a llofnodi contract ysgrifenedig dilys â'r safle adfer (allforion) neu gynhyrchydd y gwastraff (mewnforion).

Darllenwch ragor o wybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

7. Nwyddau y gellir eu defnyddio i arteithio neu eu defnyddio fel cosb eithaf

Mae gwaharddiad neu gyfyngiadau ar allforio nwyddau o’r DU os gallan nhw gael eu defnyddio ar gyfer:

  • arteithio
  • rhoi’r gosb eithaf
  • rhoi triniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol

Rheolir y nwyddau hyn gan y Rheoliadau ar Nwyddau Arteithio.

Ymhlith y nwyddau a reolir gan y Rheoliadau hyn y mae cyffuriau a ddefnyddir i ddienyddio trwy chwistrelliad marwol. Mae deddfwriaeth y DU yn gosod rheolau hefyd ar allforio pancwroniwm bromid a propofol i'r Unol Daleithiau.

Mae'r Rheoliadau ar Nwyddau Arteithio yn rhestru tri chategori o nwyddau:

  • y rheini nad oes diben ymarferol iddynt heblaw am roi’r gosb eithaf, arteithio neu roi triniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol arall
  • y rheini y gellir eu defnyddio’n ddilys i orfodi'r gyfraith ond y gellid eu defnyddio i arteithio neu i roi triniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol arall
  • y rheini y gellid eu defnyddio i roi’r gosb eithaf

Gwaherddir allforio'r categori cyntaf o nwyddau, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol.  Gall y ddau gategori arall o eitemau gael eu hawdurdodi â thrwydded allforio.

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk.

8. Nwyddau technoleg, diogelwch, arfau tanio neu amddiffyn (gan gynnwys nwyddau deuddiben)

8.1       Allforio arfau tanio, bwledi ac ati ac offer cysylltiedig

Mae arfau tanio, eu rhannau, eu cydrannau, eu hategolion neu eu bwledi ac ati neu feddalwedd a thechnoleg gysylltiedig yn nwyddau strategol a reolir. Oni bai bod eithriad, bydd angen trwydded i allforio arfau tanio rheoledig o'r DU i wlad arall.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • unigolion
  • busnesau, gan gynnwys gwerthwyr arfau tanio cofrestredig
  • allforion parhaol a dros dro, megis ar gyfer arddangosfa, cystadleuaeth neu ar gyfer gwyliau

Mae'n drosedd allforio nwyddau rheoledig heb y drwydded gywir. Mae cosbau'n amrywio gan ddibynnu ar natur y drosedd.

Canllaw yn unig yw’r wybodaeth hon. Nid oes iddo rym cyfraith. Cyn allforio, dylech ddarllen y darpariaethau cyfreithiol sydd mewn grym ar y pryd. Lle bo angen cyngor cyfreithiol, dylai allforwyr wneud eu trefniadau eu hunain.

Gallwch gadarnhau a yw eich eitemau'n eitemau a reolir a dod o hyd i'r cofnod rheoli priodol gan ddefnyddio:

Os nad yw’ch eitemau yn eitemau a reolir, does dim angen ichi ofyn am drwydded oni bai bod gennych bryderon ynghylch y defnyddiwr neu’r wlad sy'n mewnforio.

Darllenwch y canllawiau llawn gan gynnwys y mathau o drwydded a sut i wneud cais amdanyn nhw ar wefan gov.uk.

 

8.2      Allforio nwyddau, gwasanaethau a thechnoleg filwrol

Mae angen trwydded i allforio nwyddau, gwasanaethau a thechnoleg filwrol a reolir.

Mae angen trwydded rheoli masnach cyn cynnal rhai gweithgareddau:

  • cyflenwi neu ddanfon rhai eitemau o un wlad i wlad arall
  • cytundeb i gyflenwi neu ddanfon rhai eitemau o un wlad i wlad arall
  • unrhyw weithgaredd fydd yn hyrwyddo cyflenwi neu ddanfon rhai eitemau o un wlad i wlad arall

Darllenwch Restrau Rheoli Allforion Strategol y DU i weld a yw’ch nwyddau, meddalwedd a’ch technoleg yn rhai a reolir neu beidio.

Gallwch ddefnyddio’r Gwiriwr Nwyddau ac OGEL hefyd i:

  • Weld a yw’r eitemau yn rhai a reolir
  • Nodi’r cofnod rheoli priodol

Gallwch ofyn am drwydded trwy SPIRE, y system trwyddedu allforion ar-lein.  Y Gyd-uned Rheoli Allforion  (ECJU) sy’n gyfrifol am SPIRE.

 

8.3       Allforio eitemau sydd â dibenion sifil a milwrol

Eitemau deuddiben yw’r eitemau hynny y gellir eu defnyddio at ddibenion sifil a milwrol (gan gynnwys meddalwedd a thechnoleg). Mae'r term hefyd yn cynnwys yr holl nwyddau sydd â dibenion nad ydynt yn rhai ffrwydrol neu sy'n cynorthwyo mewn unrhyw ffordd i weithgynhyrchu arfau niwclear neu ddyfeisiau ffrwydrol niwclear eraill.

Gall rheoliadau sancsiynau o dan Ddeddf Sancsiynau ac Atal Gwyngalchu Arian 2018 fod yn berthnasol hefyd i weithgareddau sy'n ymwneud ag eitemau deuddiben. Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i'r DU gyfan (gan gynnwys Gogledd Iwerddon).

Gallwch asesu’ch nwyddau, meddalwedd a thechnoleg ar sail Rhestrau Rheoli Allforion Strategol y DU i  weld a ydynt yn rhai a reolir ai peidio.

Gallwch ddefnyddio’r Gwiriwr Nwyddau ac OGEL hefyd i:

  • Weld a yw’r eitemau yn rhai a reolir
  • Nodi’r cofnod rheoli priodol

Os nad yw’ch eitemau wedi'u rhestru ar Restrau Rheoli Allforion Strategol y DU, efallai y bydd angen trwydded arnoch o hyd o dan Reolau’r Defnyddiwr Terfynol neu’r sancsiynau a'r gwaharddiadau masnach.

Gallwch ddefnyddio SPIRE, y system trwyddedu allforion ar-lein i wneud cais am bob math o drwyddedau allforio.

Mae’n drosedd allforio eitemau a reolir heb y drwydded allforio gywir.

Mae’r gosb yn dibynnu ar natur y drosedd ond mae’n amrywio o:

  • Ddiddymu’ch trwydded
  • Atafaelu’ch nwyddau
  • Dirwy a/neu garchar am hyd at 10 mlynedd

Darllenwch y canllawiau llawn ar wefan gov.uk.

9. Sancsiynau a gwaharddiadau

Mae'r DU yn defnyddio sancsiynau at nifer o ddibenion gwahanol, gan gynnwys cefnogi polisi tramor a diogelu’r wlad, yn ogystal â chadw’r heddwch a diogelwch rhyngwladol, ac atal brawychiaeth. Mae sancsiynau’n gallu cynnwys gwaharddiadau arfau, sancsiynau masnachu a chyfyngiadau masnachol eraill.

Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) sy’n gyfrifol am bolisi cyffredinol y DU ar sancsiynau. Mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) yn cynnal sancsiynau masnachu a chyfyngiadau masnachol eraill ac mae ganddi gyfrifoldeb am drwyddedu sancsiynau masnachu.

Gwaharddiadau arfau, sancsiynau masnachu a chyfyngiadau masnachol eraill

Mae gwaharddiad arfau’n effeithio ar y fasnach mewn eitemau milwrol neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â hi. Gall y Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE) neu'r DU osod gwaharddiad arfau.

O dan y Ddeddf Sancsiynau, mae gwaharddiad arfau’n cynnwys gwaharddiadau ar allforio, cyflenwi, danfon, darparu a throsglwyddo eitemau milwrol ac ar ddarparu cymorth technegol, gwasanaethau ariannol a chyllid, a gwasanaethau broceriaeth sy'n gysylltiedig ag eitemau milwrol.

Mae sancsiynau masnachu yn fesurau rheoli ar gyfer:

  • mewnforio, allforio, trosglwyddo, symud, darparu a chaffael nwyddau a thechnoleg
  • darparu a chaffael gwasanaethau sy'n ymwneud â nwyddau a thechnoleg
  • darparu a chaffael rhai gwasanaethau anariannol eraill
  • cynnwys pobl y DU yn y gweithgareddau hyn.

Efallai y bydd eithriadau penodol lle caniateir i bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd a fyddai fel arall wedi’i wahardd. Efallai y bydd hefyd yn bosibl cael trwydded i’ch caniatáu i gymryd rhan mewn gweithgaredd a fyddai fel arall wedi’i wahardd.

Mesurau i reoli masnach

Mae'r DU yn gosod mesurau rheoli hefyd ar gyfer masnachu a broceru nwyddau milwrol rhwng gwledydd tramor. Maen nhw’n ymwneud â gweithgareddau penodol, gan gynnwys broceru, mewn cysylltiad â nwyddau a reolir.

Pan fydd nwyddau’n glanio yn y DU wrth deithio rhwng un wlad a gwlad arall, ystyrir eu bod yn cael eu hallforio pan fyddant yn gadael y DU a byddant felly’n destun rheolau transit

Ym mis Mehefin 2006, mabwysiadodd Cymuned Economaidd Gwledydd Gorllewin Affrica (ECOWAS) gonfensiwn ar arfau bach ac arfau ysgafn, eu bwledi ac ati a deunyddiau cysylltiedig eraill, a moratoriwm ar fewnforio, allforio a gweithgynhyrchu arfau ysgafn. 

Ni fydd y DU yn rhoi trwydded i allforio arfau bach ac arfau ysgafn, cydrannau na bwledi oni bai bod Comisiwn ECOWAS yn cyhoeddi eithriad i'w foratoriwm.

Darllenwch y canllawiau llawn, gan gynnwys rhestr o wledydd sy'n destun gwaharddiad arfau, sancsiynau masnachu a chyfyngiadau masnachol eraill ar wefan gov.uk.