1. Cyflwyniad

Mae’n allweddol ystyried sut rydych am gludo a dosbarthu’ch nwyddau wrth gynllunio i fasnachu’n ryngwladol. Mae’n hanfodol eich bod yn dewis y dull mwyaf addas o gludo’ch nwyddau ac yn cael y dogfennau priodol i sicrhau bod eich dulliau o fewnforio neu allforio’n effeithlon ac yn gost-effeithiol.  

Mae hefyd yn bwysig cytuno ymlaen llaw pwy sy’n gyfrifol am dalu costau cludiant ac am yswirio’r nwyddau tra byddant yn cael eu cludo. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r Incoterms® priodol. 

2. Cludo a dosbarthu nwyddau

Mae pedair prif ffordd o fewnforio ac allforio – ar y ffordd, y rheilffordd, mewn awyren neu long – er y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un math o gludiant o bosibl. Pan fyddwch yn dewis, bydd angen i chi hefyd benderfynu a ydych am ymdrin â’r logisteg eich hun, neu roi’r cyfrifoldeb  am anfon eich nwyddau ynnwylo rhywun arall.

Gwybodaeth am ddosbarthu nwyddau masnachol yn rhyngwladol ar y ffordd, y rheilffordd, mewn awyren neu long: allforion, tollau, rheoliadau a rheoli cludiant  gan gynnwys cludo nwyddau peryglus.

Darllenwch y canllawiau ar sut i allforio nwyddau drwy’r post

3. Dogfennau

Mae sicrhau bod gennych y dogfennau priodol yn rhan hanfodol o fasnachu’n rhyngwladol. Mae gwaith papur cywir a thrylwyr yn lleihau’r perygl y bydd oedi neu y bydd problemau’n codi.

Mae’n bwysig cydweithredu â phawb arall sy’n rhan o’r contract i sicrhau bod y gwaith papur yn  gywir. Er enghraifft, os ydych yn cludo nwyddau i gwsmer dramor, dylent ddweud wrthych pa waith papur sydd ei angen yn eu gwlad nhw. Os ydych yn ymdrin â gwlad lle nad ydynt yn siarad Saesneg, gall fod yn syniad da darparu un set o ddogfennau masnachol yn yr iaith leol. 

Mae’n bosibl yr hoffech gymorth gyda’r gwaith papur. Mae llawer o fusnesau’n defnyddio  cwmni arall i anfon eich nwyddau ar eich rhan.  Cewch hyd i gwmni i anfon eich nwyddau ar wefan BIFA .

Fodd bynnag, dylech gofio mai yn y pen draw, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y dogfennau priodol gennych chi. 

4. Dogfennau cludiant rhyngwladol

Mae angen dogfennau cludiant i roi cyfarwyddiadau i’r cludydd ar yr hyn y dylid ei wneud â’r nwyddau. Gellir eu defnyddio i drosglwyddo cyfrifoldeb dros y nwyddau yn ystod y daith ac, weithiau, i drosglwyddo perchnogaeth.

  • Os ydych yn allforio nwyddau, fel arfer bydd angen i chi lenwi Cyfarwyddyd Cludo Cargo i’w Allforio yn rhoi manylion eich nwyddau, a sut y byddant yn cael eu cludo, i’r cwmni sy’n eu hanfon ar eich rhan.
  • Byddwch hefyd, fel arfer, yn llenwi  Nodyn Cludo Safonol, yn dweud wrth y porthladd sut i drin y nwyddau. 
  • Dylai’r cludydd ddangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y nwyddau e.e. bil llwytho neu deithrestr. Dylech gadw unrhyw ddogfennau fel tystiolaeth rhag ofn y bydd problemau’n codi’n ddiweddarach gyda’r cludiant.
  • Mae Nodyn Llwyth CIM yn rhoi manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo. Os ydych yn llwytho nwyddau peryglus, rhaid i chi hefyd lenwi nodyn nwyddau peryglus. Darllenwch y canllawiau ar  symud nwyddau peryglus.
  • Mae’n bosibl y bydd angen i chi yswirio’r nwyddau ac y bydd angen i chi hefyd ddarparu prawf o’r yswiriant i’ch cwsmer, yn enwedig os ydych yn trosglwyddo’r gost ymlaen. Dylech drafod pa ddogfennau sydd eu hangen gyda’ch cwsmer a’ch cwmni yswiriant. Darllenwch y canllawiau o fewn ein Hyb Allforio ar yswirio nwyddau sy’n cael eu cludo.

Darllenwch drosolwg ar sut i lenwi’r prif ddogfennau’n ymwneud â chludo nwyddau yn y canllawiau ar  lenwi dogfennau cludo nwyddau.

5. Dogfennau masnach ryngwladol

Mae gwaith papur priodol  yn rhan bwysig o wneud a derbyn taliad.  Mae casgliadau dogfennol a chredydau dogfennol yn ddulliau o dalu a ddefnyddir yn aml ym maes masnach ryngwladol. Drwy ddefnyddio gwaith papur arbennig, mae’r perygl i’r cwsmer fethu talu neu i’r cyflenwr fethu cyflenwi’i nwyddau’n llai:  

Weithiau, mae angen dogfennau arbennig i allforio nwyddau.

  • Mae’n bosibl y bydd angen medru dangos o ba wlad y daeth y nwyddau er mwyn bod yn gymwys i dalu tollau ar gyfradd ffafriol. Darllenwch y canllawiau ar fasnachu ffafriol.
  • Mae’n bosibl y bydd angen tystysgrif tarddiad arnoch. Gall eich Siambr Fasnach ddarparu’r rhain.
  • Mae rhai gofynion arbennig yn y DU ynghlwm wrth rai nwyddau a reolir, fel arfau tân, meddyginiaethau, planhigion a chynhyrchion anifeiliaid – er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen trwydded
  • Dylech holi a oes angen unrhyw ddogfennau arbennig i fodloni rheoliadau gwlad dramor. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen dogfennau i ddangos bod eich nwyddau’n bodloni safonau cynnyrch lleol. Ymchwiliwch i farchnadoedd tramor.
  • Rhaid anfon gwaith papur priodol gyda nwyddau peryglus. Darllenwch y canllawiau ar lenwi dogfennau cludo nwyddau
  • Mae prosesau symlach ar gyfer allforio nwyddau dros dro e.e. os ydych yn cymryd samplau i arddangosfa dramor. Darllenwch y canllawiau ar allforio nwyddau dros dro o’r DU. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y dogfennau sydd eu hangen arnoch, dylech ofyn am gyngor. Caiff nifer o fusnesau gymorth gan gwmnïau sy’n anfon nwyddau ar eich rhan. 

6. Contractau masnach ryngwladol ac Incoterms®

Termau masnachol safonol a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol ac a ddefnyddir mewn contractau gwerthu yw ‘Incoterms’. Cânt eu defnyddio i sicrhau bod y gwerthwr a’r prynwr yn gwybod:

Y set gyfredol o Incoterms® yw Incoterms® 2020. Mae copi o’r termau llawn  ar gael gan y Siambr Fasnach Ryngwladol.

Caiff Incoterms® eu defnyddio mewn contractau ar fformat 3 llythyren a’r lleoliad a nodir yn y contract (e.e. y porthladd neu’r man lle mae angen casglu’r nwyddau). Mae llawer o’r termau’n addas ar gyfer unrhyw ddull o gludo nwyddau; mae eraill yn addas ar gyfer cludo nwyddau ar y môr ac hyd dyfrffyrdd mewndirol yn unig.

I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys y termau a ddefnyddiwyd cyn 1 Ionawr 2011, ewch i wefan y Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC) .

Mae hefyd enghreifftiau o gontractau a chymalau ar gael gan yr ICC.

Sylwch nad yw TAW wedi’i chynnwys yn yr Incoterms felly bydd angen i chi nodi pwy sy’n talu TAW yn y wlad sy’n mewnforio’r nwyddau.  

  • pwy sy’n gyfrifol am dalu am gludo’r nwyddau, gan gynnwys yswiriant, trethi a thollau
  • o ble y dylid casglu’r nwyddau ac i ble y mae angen eu cludo
  • pwy sy’n gyfrifol am y nwyddau yn ystod pob cam o’r daith

7. Incoterms® 2020 ar gyfer unrhyw ddull o gludo nwyddau

EXW (‘Ex Works’)

Rhaid i'r gwerthwr sicrhau bod y nwyddau sy'n cydymffurfio â'r contract ar gael i’r prynwr ar bwynt ac mewn man dosbarthu y cytunir arnynt.  Rhaid i'r gwerthwr dalu am y gweithrediadau archwilio a phacio ac, ar gais y prynwr, rhoi cymorth i drefnu dogfennau ar gyfer allforio / cludo/ mewnforio / diogelwch.

FCA (‘Free Carrier’)

Mae'r gwerthwr yn danfon y nwyddau i ofal y cludwr / person mewn man neu bwynt a enwir.  Mae'r gwerthwr yn eu clirio ar gyfer eu hallforio ac yn talu pob tâl a godir am glirio.  Trefnir y cluciant gan y prynwr (neu gan y gwerthwr yn ôl risg a chost y prynwr).

CPT (‘Carriage Paid To’)

Mae'r gwerthwr yn danfon y nwyddau at y cludwr mewn man y cytunir arno ac yn clirio'r nwyddau ar gyfer eu hallforio.  Mae'r gwerthwr yn contractio ar gyfer cludo'r nwyddau i'r pwynt y cytunwyd arno yn y gyrchfan.

CIP (‘Carriage and Insurance Paid’)

Fel CPT, a hefyd: rhaid i'r gwerthwr brynu yswiriant cargo i'r man y cytunwyd arno yn y gyrchfan a enwir, a rhaid iddo ddarparu tystiolaeth o yswiriant i'r prynwr.

DPU (‘Delivery at Place Unloaded’)

Mae'r gwerthwr yn danfon y nwyddau sy'n cael eu dadlwytho o'r cerbyd cludo mewn terfynfa a enwir mewn lle a enwir yn y wlad sy'n gyrchfan.  Y prynwr sy’n clirio’r nwyddau i’w mewnforio; rhaid i'r gwerthwr gynorthwyo yn ôl y gofyn.  Nodwch - mae DPU yn disodli DAT (Delivered at Terminal) from Incoterms® 2010.

DAP (‘Delivered at Place’)

Mae'r gwerthwr yn danfon y nwyddau sy’n cael eu rhoi ar gael i’r prynwr mewn man a enwyd, ac yn cyrraedd ar gludiant yn barod i’w dadlwytho.

DDP (‘Delivered Duty Paid’)

Fel DAP, a hefyd: mae'r gwerthwr yn talu'r holl dollau ac yn clirio'r nwyddau i'w mewnforio i wlad y prynwr.  

8. Incoterms® 2020 ar gyfer y môr a dyfrffyrdd mewndirol

Rhaid i'r gwerthwr ddanfon y nwyddau i fan gerllaw llong a enwebwyd gan y prynwr a sicrhau bod nwyddau'n cael eu clirio i'w hallforio.  Rhaid iddo hefyd dalu taliadau porthladdoedd a dociau hyd at y pwynt hwnnw.

Defnyddir y term hwn yn gyffredin ar gyfer cargo trwm neu swmpgyflewnad (ee generaduron, cychod), ond nid ar gyfer nwyddau sy'n cael eu cludo mewn cynwysyddion gan fwy nag un math o drafnidiaeth (fel arfer defnyddir FCA ar gyfer hyn).

FOB (‘Free on Board’)

Rhaid i'r gwerthwr ddanfon y nwyddau i fwrdd y llong a enwyd.  Rhaid i'r gwerthwr sicrhau hefyd fod y nwyddau'n cael eu clirio i'w hallforio. Ni ddefnyddir y term hwn ar gyfer nwyddau a gludir mewn cynwysyddion gan fwy nag un math o drafnidiaeth (fel arfer defnyddir FCA ar gyfer hyn).

CFR (‘Cost and Freight’)

Mae'r gwerthwr yn danfon y nwyddau i fwrdd llong ac yn talu’r costau contractio ar gyfer cludo'r nwyddau i'r porthladd cyrchfan a enwir.

CIF (‘Cost, Insurance and Freight’)

Fel CFR, a hefyd: Mae'r gwerthwr yn contractio yswiriant cargo i'r pwynt cyrraedd y cytunwyd arno yn y gyrchfan a enwir ac mae'n rhaid iddo ddarparu tystiolaeth o ddiogelwch yswiriant i'r prynwr.  

9. Dyrannu costau i’r prynwr/gwerthwr yn ôl rheolau Incoterms® 2020

Please visit the following link to view this table data - https://businesswales.gov.wales/export/cy/dyrannu-costau-ir-prynwrgwerthwr-yn-ol-rheolau-incotermsr-2020