Cychwyn Busnes yn Rhan-amser
Mae’n gam mawr cychwyn dy fusnes dy hun, ond nid oes rhaid i ti neidio yn syth i mewn iddo yn llawn amser.
Os wyt ti dal mewn addysg, os oes gen ti blant ifanc neu eisiau sicrhau y bydd dy syniad busnes yn gweithio, efallai y byddai’n well i ti gychwyn busnes ar sail rhan-amser i ddechrau.
I gael gwybod mwy darllenwch y canllaw Busnes Cymru Gychwyn Busnes Rhan Amser
- Gelli barhau mewn gwaith cyflogedig â diogelwch incwm rheolaidd nes bod y busnes yn weithredol
- Gelli ddefnyddio sgiliau rwyt ti wedi’u dysgu yn gweithio i gyflogwr i ddechrau, a datblygu dy fusnes dy hun
- Mae’n ffordd o gael incwm os oes gen ti ymrwymiadau fel gofalu am ddibynyddion
- Gelli brofi os oes marchnad ar gyfer dy gynnyrch neu wasanaeth
- Os oes gen ti hobi y byddet yn treulio amser arno pryn bynnag, byddet yn gallu gwneud arian o dy ddiddordebau
- · Dod o hyd i’r amser i redeg y busnes – gall gymryd mwy o amser nag y byddet yn dybio
- · Gallai fod yn anodd canolbwyntio ar dy waith cyflogedig, yn enwedig os oes problem yn y busnes
- · Efallai y bydd angen mwy o amser i’r busnes newydd ddatblygu a dod yn hyfyw