Menter wrth astudio neu weithio

Gallwch bob amser feddwl fel entrepreneur hyd yn oed os nad ydych am ddechrau eich busnes neu ddim yn teimlo’n gwbl barod eto, oherwydd eich bod yn dal i astudio neu fod gennych swydd. Mae cyflogwyr hefyd yn chwilio am weithwyr mentrus, felly gall bod yn intrepreneuraidd gynnig llu o gyfleodd i chi, nawr ac yn y dyfodol.

 

Cael eich ysbrydoli gan y bobl fusnes ifanc anhygoel hyn yng Nghymru! 

 

Mae bod yn entrepreneur yn golygu cael agwedd benodol a meddwl mewn ffordd arbennig. Mae entrepreneuriaid yn gallu sylwi ar gyfleoedd a gweld beth sy’n bosibl. Gallwch wneud hyn yn eich swydd hefyd. Gall dangos agwedd bositif a bod yn rhagweithiol greu cyfleoedd i chi, hyd yn oed os ydych yn gweithio i rywun arall. Gallai eich helpu i gael swydd haf, dyrchafiad neu fonws. Gallai eich annog i roi cynnig ar rywbeth newydd a denu mwy o gwsmeriaid a helpu eich cyflogwr i wneud mwy o elw.

Gall y model canlynol eich helpu i fod yn fwy entrepreneuriadd yn eich gwaith:


Bydd agwedd bositif yn y gwaith yn eich helpu i gyrraedd eich targedau.

Er enghraifft, mae bod yn fodlon mynd y tu hwnt i’r hyn sydd yn nisgrifiad eich swydd er mwyn helpu eraill, cymryd y cam cyntaf er mwyn creu ffyrdd gwell o weithio, neu ddod o hyd i gyfleoedd newydd, yn dangos i gyflogwyr eich bod yn frwdfrydig, yn greadigol ac yn uchelgeisiol. 

Gallwch ddangos agwedd bositif yn y gwaith mewn sawl ffordd a bydd eich cyflogwr a’ch cydweithwyr yn eich gwerthfawrogi oherwydd hynny.

Nid dyfeiswyr neu ddylunwyr yn unig sy’n cael bod yn greadigol. Yn y gwaith, gall creadigrwydd olygu pob math o bethau gan gynnwys meddwl am syniadau newydd, sylwi ar gyfleoedd a meddwl am sut i wneud rhywbeth yn well.

I’ch helpu i fod yn greadigol, beth am feddwl am sut y gallwch ddatrys problem yn eich swydd. Beth allech ei wella, ei addasu neu ei newid?  A oes cyfleoedd y gallech eu hystyried?

Rydych yn treulio llawer iawn o’ch amser yn gweithio gyda phobl eraill yn y gwaith, felly mae meithrin perthnasoedd positif yn hollbwysig.

Mae hyn yn golygu cyfathrebu’n dda er mwyn cyfleu syniadau yn ogystal â gwrando ar syniadau a safbwyntiau pobl eraill a’u gwerthfawrogi.

Efallai na fyddwch yn cytuno â’ch cydweithwyr bob amser - ond sut rydych yn delio â hyn sy’n gwneud gwahaniaeth. Weithiau, gallwch ddarbwyllo eraill eich bod yn iawn. Ar adegau eraill, rhaid i chi dderbyn bod syniadau pobl eraill yn well. Mae entrepreneuriaid yn sylweddoli hyn.

Mae creu perthnasoedd da gydag eraill yn y gwaith, bod yn aelod da o dîm a gwybod sut i gael y gorau ohonoch chi eich hun ac eraill, yn gallu mynd â chi yn bell, os ydych yn gweithio i’ch hun neu i rywun arall.

Mae entrepreneuriaid llwyddiannus yn bobl eithriadol o brysur fel arfer ac mae sawl tasg yn mynd â’u sylw i gyd bob dydd. I allu ymdopi â llwyth gwaith o’r fath, mae’n bwysig bod yn drefnus fel bod pob tasg yn cael ei orffen mewn trefn neu yn ôl blaenoriaeth.

Os na fyddwch yn drefnus, rydych mewn perygl o beidio â chwblhau eich llwyth gwaith dyddiol neu gyflawni tasg bwysig. Os oes rhaid i chi ruthro am nad oes gennych ddigon o amser oherwydd eich bod yn anhrefnus, gall hynny hefyd amharu ar safon eich gwaith.

Os ydych yn gweithio i’ch hun neu i eraill, gall bod yn drefnus eich helpu i fod yn llwyddiannus iawn.

Peidiwch ag anghofio, os ydych chi yn y coleg neu'r brifysgol gallwch siarad â'ch pencampwr entrepreneuriaith i ddysgu mwy am fusnes wrth astudio.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi syniad rydych chi am ei droi yn realiti neu gofrestru ar gyfer canllaw cychwyn a mwy o wybodaeth am gefnogaeth a chymorth Syniadau Mawr Cymru