Adnoddau Ar-lein

Mae adnoddau ar-lein gwych ar gael yma i’ch helpu i wella eich sgiliau busnes a chael gwybod mwy dros eich hun!

Mae adnoddau ar-lein gwych ar gael yma sy’n gallu eich helpu i wella eich sgiliau busnes a chael gwybod mwy dros eich hun!

 

Cliciwch y dolenni ar y chwith i weld yr adnoddau

Cracking Ideas

Beth bynnag yr ydych yn ei greu neu’n bwriadu ei greu, bydd dysgu am eiddo deallusol yn fodd o wneud yn siŵr eich bod yn cael y clod yr ydych yn ei haeddu. Celf neu apiau: technoleg sy’n arbed amser neu fywydau: mae’r safle yma yn dangos i chi sut i ddiogelu eich syniadau gwych.

 

Cewch hyd i ystod eang o ddeunyddiau dysgu ac addysgu sy’n ymwneud ag eiddo deallusol yn ogystal â phrosiectau a gweithgareddau ysbrydoledig i bobl o bob oed. Ewch amdani!

 

Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.

IP Tutor - Addysg Bellach ac Uwch

Mae’r teclyn e-ddysgu DPP rhyngweithiol yma sydd wedi’i achredu yn helpu myfyrwyr a darlithwyr i ddeall hawliau eiddo deallusol h.y. nodau masnach, patentau, hawlfraint a dyluniadau, ac mae’n defnyddio astudiaethau o achosion i ddangos pam mae eiddo deallusol yn bwysig.

 

Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.

IP Tutor Plus - Addysg Uwch

 

Mae Tiwtor Eiddo Deallusol a Mwy yn helpu darlithwyr i ddeall hawliau eiddo deallusol (nodau masnach, patentau, hawlfraint a dyluniad) ac mae’n dangos sut bydd eiddo deallusol o ddefnydd yng ngyrfaoedd eu myfyrwyr yn y dyfodol.

 

Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.

BOSS

Mae BOSS yma i’ch helpu chi a’ch busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein. Datblygwch eich busnes gyda BOSS!

Dod o Hyd i Arian

Gall penderfynu ble i fynd i ddod o hyd i arian a dewis yn ddoeth fod yn dalcen caled. Mae ein hadran am arian yma i’ch helpu.

Dalenni ffeithiau

Gallwch ofyn am hyd at 3 dalen ffeithiau fesul cyfeiriad e-bost. I gael mwy na 3 dalen ffeithiau, ffoniwch ein llinell gymorth 03000 6 03000 neu defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio byw.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Canllaw Busnes Cymru

Cewch hyd i ganllawiau am gynllunio busnes, dewis enw ar gyfer eich busnes, a phob math o faterion eraill!

Cwis Cymathu i Swyddi 

  • Gallwch gymathu eich sgiliau a’ch diddordebau gyda dros 700 o swyddi i greu syniadau busnes yn benodol i chi.
  • Mae’r Cwis Cymathu i Swyddi yn rhoi’r rhesymau pam y dewiswyd pob swydd ac mae’n eich galluogi i edrych arnyn nhw’n fanylach.
  • Bydd gweld pa gymwysterau a sgiliau gwaith sydd eu hangen ar gyfer eich swydd ddelfrydol yn eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.

Ysgogydd Menter

Cewch wybod pa mor fentrus yr ydych mewn gwirionedd drwy lenwi’r teclyn hunanasesu yma. Mae’n ffordd wych o’ch helpu i ddeall rhagor am eich hun - eich ysgogiadau, sgiliau, agweddau er mwyn llwyddo. Ar ol gwneud y cwis, cewch adroddiad personol sy’n crynhoi eich agweddau at fenter. 

 

Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.

Cwis Bydd Gwaith 

        

      Cwblhewch y cwis gweithlu’r dyfodol i ddarganfod pa fyd gwaith rydych chi'n perthyn iddo.

 

      Drwy glicio’r ddolen yma, fe gewch eich tywys i wefan allanol.