Hafan Modelau Rôl

Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn ymuno â’r rhwydwaith fel model rôl, llysgennad ifanc neu siaradwr, i gyd mewn un lle. Cewch hefyd fanylion sut i fod yn rhan o Syniadau Mawr Cymru a sut i ffynnu fel rhan o’r rhwydwaith.

Modelau Rol a pobl ifanc

Drwy ymuno â rhwydwaith Syniadau Mawr Cymru fel model rôl, llysgennad ifanc neu siaradwr achlysurol, gallwch wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc ledled Cymru, gan eu hannog i fod yn agored i syniadau a chyfleoedd newydd drwy entrepreneuriaeth a busnes. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich stori entrepreneuriaeth bersonol ac yn eich cefnogi drwy’r cyfan.


Dewch i weld sut mae Siân yn defnyddio’r
wefan cyn sesiwn

Pobl fusnes go iawn yw’r ‘modelau rôl’ sydd â straeon diddorol, llawn ysbrydoliaeth sy’n ennyn dychymyg pobl ifanc ac sy’n cyfathrebu'n ddidwyll am yr hyn sydd tu ôl i fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maen nhw’n rhannu eu brwdfrydedd am greadigrwydd a llwyddiant ac yn helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain.

Gofynnir i fodelau rôl baratoi Gweithdy Llawn Ysbrydoliaeth y byddan nhw’n ei gyflwyno i bobl ifanc fel arfer rhwng 13 a 24 oed mewn digwyddiadau a dosbarthiadau a drefnir mewn lleoliad addysgol neu gymunedol.  Fel arfer, mae’r gweithdai hyn yn para am tuag awr a byddan nhw’n cynnwys dweud stori a gweithgareddau. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar safleoedd ysgolion, colegau a phrifysgolion drwy’r cydlynwyr rhanbarthol.

Darllenwch y proffiliau  i gael blas o’r amrywiaeth eang o berchnogion busnes sy’n aelodau o rwydwaith y Modelau Rôl ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymrwymo i helpu i godi ymwybyddiaeth am entrepreneuriaeth, a drwy fod yn rhan o’r rhwydwaith model rôl amrywiol, gallwch hyrwyddo agwedd gadarnhaol “gallu gwneud” a herio canfyddiadau am gychwyn busnes gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, a hefyd mewn grwpiau cymunedol. Mae hefyd gyfleoedd cyffrous i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis Bŵtcamp i Fusnes,  Dathlu Syniadau Mawr, neu  Cystadleuaeth Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Cynradd - Y Criw Mentrus!

Drwy ddod yn 'fodel rôl', gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Cymru drwy eu hannog i gychwyn eu busnesau eu hunain ac agor eu meddyliau i syniadau newydd a’r cyfleoedd sy’n bodoli.

Dyma 5 rheswm gwych dros roi cynnig arni:

  • Cewch gyfarfod â pherchnogion busnesau tebyg eraill

  • Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc

  • Gallwch herio syniadau a chanfyddiadau ynghylch entrepreneuriaeth

  • Gallwch ysbrydoli pobl ifanc mewn sefydliadau addysgol

  • Gallwch herio’ch hunan drwy wneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd newydd

    Drwy gymryd rhan yn y prosiect a rhoi o’ch amser yn wirfoddol, rydych yn dangos eich ymrwymiad i’r gymuned ac mae hyn yn ysgogi ymgysylltiad rhwng cyflogwyr a’r byd addysg. I gydnabod hyn, telir cyfraniad bach tuag at unrhyw gostau a ysgwyddir gan fodel rôl wrth gymryd rhan yn y prosiect.

Cliciwch yma i weld meini prawf yr hyn sydd ei angen i ymuno â’r rhwydwaith.

Y Broses Ymgeisio

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf ac yn dymuno ymgeisio i fod yn fodel rôl, bydd angen ichi lenwi’r Ffurflen Gais sy’n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich proffil busnes, gan gynnwys eich profiad o fod yn entrepreneur.

Cam 1 – Paratowch nodiadau – rydym yn eich cynghori i baratoi nodiadau i gefnogi eich cais mewn dogfen Word ar wahân cyn lansio’r cais gan nad yw’r ffurflen gais yn caniatáu ichi ‘Cadw’ ar ôl ichi ddechrau. Defnyddiwch y templed Eich Stori / Eich Busnes i baratoi a chadw’ch atebion y gallwch chi wedyn eu copïo a’u gludo i’r ffurflen gais. Cofiwch gadw hwn gan y bydd hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr hyfforddiant sefydlu.

Cam 2 – Adolygu trefniadau – Bydd gofyn ichi gadarnhau eich bod yn cytuno â’r trefniadau a ganlyn drwy gwblhau a chyflwyno eich cais:

  • Telerau ac Amodau Syniadau Mawr Cymru

  • Cytuno â’r Datganiad DDD a deall sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon

  • Creu eich proffil ar y dudalen straeon llawn ysbrydoliaeth y model rôl

  • Cod Ymddygiad - i’w gyflwyno yn ystod yr hyfforddiant sefydlu

  • Polisi Preifatrwydd

  • Cytuno i gynnal gwiriadau

  • Cytuno i fynychu hyfforddiant sefydlu

    Os hoffech chi wybod mwy am gyfrifoldebau diogelu Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am Ddiogelu.

Cam 3 - Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein. 

Disgwylir i fodelau rôl ymrwymo i fynychu hyfforddiant sefydlu a chyflwyno o leiaf 10 sesiwn dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cam 1: I ddechrau, bydd gofyn ichi fynychu hyfforddiant sefydlu am un diwrnod a hanner a fydd yn cael ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru gan ymgynghorydd hyfforddiant a thîm cyflawni Syniadau Mawr Cymru. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno dros gyfnod ar wahân o un diwrnod a hanner, fel arfer wythnos ar wahân mewn lleoliadau ledled Cymru.

Prif amcanion yr hyfforddiant yw:

  • Cwrdd â modelau rôl eraill

  • Deall gweledigaeth a gwerthoedd Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid

  • Deall y cynulleidfaoedd a sut i ymgysylltu orau â nhw

  • Datblygu’ch gweithdy a’ch arddull cyflwyno

  • Deall y trefniadau ymarferol ar gyfer cyflwyno eich gweithdy

  • Cael eich ysbrydoli i ysbrydoli eraill! 

Cam 2 - Cysgodi model rôl profiadol. Ar ôl ichi gwblhau’r hyfforddiant, disgwylir ichi gysgodi model rôl profiadol at ddiben hyfforddi ac arsylwi. Trefnir hyn gan eich cyswllt rhanbarthol.

Cam 3 - Mwynhewch! Ar ôl ichi gwblhau’r cyfnod cysgodi, bydd eich cydlynydd rhanbarthol yn trefnu ichi gyflwyno’ch gweithdai ysbrydoledig mewn ysgolion, colegau a phrifysgol fel y bo’n briodol.

Cofrestrwch i ddod yn Fodel Rôl  

Dysgwch mwy am y strategaeth sy'n cefnogi'r gwaith entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru yma

Beth sy’n newydd?

Porwch drwy’r ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r straeon sy’n trendio ar hyn o bryd ac yr ydym yn eu rhannu â phobl ifanc.

Yma gallwch lawrlwytho llawer o adnoddau defnyddiol i bobl ifanc wrth ichi gyflwyno’ch sesiynau

Banc syniadau newydd a gwell ar gyfer darparu mewn byd digidol:

Cadwch eich syniadau gyda’i gilydd drwy ddefnyddio ein templed gwag:

Mae llawer o ddeunyddiau darllen, adnoddau a gwybodaeth ar gael yn adran ein partneriaid yma

 

 

YN DOD YN FUAN:

Yn y fideo hwn, mae Siân yn egluro’n fanwl sut i ddefnyddio gwefan Syniadau Mawr Cymru – cewch wybod rhagor am sut y gall y wefan fod yn ddefnyddiol er mwyn ichi annog pobl ifanc, eu helpu â’u hyder ac i ddangos iddynt sut i gael cymorth gennym ni a phartneriaid eraill.

Am y tro, mae’n bosibl y bydd y fideo hwn yn ddefnyddiol i rai cynulleidfaoedd rydych mewn cysylltiad â nhw:

Gallwch gymryd rhan mewn sawl ffordd, un ai fel model rôl, llysgennad ifanc neu siaradwr achlysurol.

  • Cyflwyno eich stori mewn gweithdai i ysbrydoli
  • Helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau busnes
  • Bod yn feirniad ar gystadlaethau arddangos megis y Criw Mentrus
  • Rhannu eich profiadau ar-lein drwy fideos a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Darparu gweminarau a gweithdai
  • Rhwydweithio â’r modelau rôl eraill gan rannu syniadau a phrofiadau

 

Modelau rôl diolch - 300,000 o bobl ifanc wedi'u hysbrydoli - darllenwch amdano yma

Cofiwch gadw llygad yma er mwyn dod i wybod am ddigwyddiadau rhwydweithio’r dyfodol ac i gael gwybodaeth a diweddariadau!

Os oes angen ichi gysylltu â rhywun, anfonwch e-bost at eich swyddog rhanbarthol neu cysylltwch â’r tîm drwy enquiries@bigideaswales.com