Hanfodion Busnes

Mae’n bwysig penderfynu pa fath o strwythur fydd yn gweithio orau i chi a’ch busnes.

 

Unig Fasnachwr

Mae unig fasnachwr yn unigolyn hunangyflogedig ac ef/hi yn unig sy’n berchen ar y busnes. Dyma’r math symlaf a mwyaf poblogaidd o fusnes. Mae bod yn unig fasnachwr yn golygu bod llai o waith papur ond chi yn unig sy’n atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion.

 

Cwmni Cyfyngedig

Mae gan gwmni cyfyngedig gyfranddeiliaid a chyfarwyddwyr sy’n rheoli’r cwmni. Mae atebolrwydd cyfyngedig yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn os oes gan eich busnes ddyledion. Gall trethi fod yn is i gwmnïau cyfyngedig.

 

Partneriaeth

Os oes mwy nag un ohonoch am ddechrau busnes gyda’ch gilydd, mae sefydlu fel partneriaeth yn gyffredin.

 

Cewch wybod rhagor am strwythurau busnes yma.

 

Menter gymdeithasol

Mae menter gymdeithasol yn ail-fuddsoddi unrhyw elw yn ôl i mewn i fusnes neu gymuned yn hytrach na chynhyrchu cymaint o elw â phosibl. Maen nhw’n rhoi mwy o bwyslais ar newid cymdeithasol neu gefnogi cymuned.

Cewch wybod rhagor amdanyn nhw ar wefan Busnes Cymdeithasol Cymru.

 

Busnes gydag amcanion cymdeithasol yw menter gymdeithasol.  Mae’r elw’n cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu’r gymuned yn hytrach na chael ei ddargyfeirio i gyfranddalwyr a pherchnogion.

Yn aml, mae mentrau cymdeithasol mewn sefyllfa wych i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn aml i’w gweld yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.  Mae llawer yn cystadlu yn y farchnad fel busnesau eraill, gan ddefnyddio eu sgiliau busnes i gyflawni nodau cymdeithasol.  Fel busnesau eraill, mae’n rhaid i fentrau cymdeithasol gynnal eu busnes a gwneud elw.  Mae’r gwahaniaeth yn y swm o elw mae’n rhaid ei wneud a’r hyn sy’n cael ei wneud â’r elw.

Mae mentrau cymdeithasol o bob lliw a llun ar gael.  Maent yn ein cymunedau lleol ac fe weli lawer ar dy stryd fawr - o siopau coffi a gwneuthurwyr dodrefn i dafarndai a chanolfannau hamdden, banciau a phobyddion.  Os wyt ti erioed wedi prynu’r Big Issue neu siopa yn y Co-Op rwyt ti’n gwybod eisoes sut y gall menter gymdeithasol edrych.  Maent yn fusnesau sy’n ceisio newid y byd am y gorau drwy helpu mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, gwella cymunedau, cynyddu cyfleoedd bywyd pobl neu helpu’r amgylchedd.  Maent yn gwneud eu harian o werthu nwyddau a gwasanaethau yr un ffordd a phob busnes, ond maent yn ail-fuddsoddi eu helw yn y busnes neu’r gymuned leol.

Os wyt ti y math o berson sydd bob amser yn meddwl am atebion arloesol i ddatrys problemau cymdeithasol yn dy gymuned er enghraifft, rwyt ti’n entrepreneur cymdeithasol.  I gael mwy o wybodaeth, a dolenni i dy helpu archwilio menter gymdeithasol, mae croeso i ti ymweld â gwefan Busnes Cymru i ddarllen y canllaw ar Gymorth ar Gyfer Menter Cymdeithasol (gwefan Busnes Cymru).