Y Criw Mentrus
Ydych chi yn ysgol gynradd fentrus?
Mae’r Criw Mentrus yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd ledled Cymru ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.
Mae gweithgareddau’r Criw Mentrus yn cynorthwyo i ddatblygu gwaith tîm, sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae hefyd yn datblygu uchelgais, creadigedd a masnachu moesegol - gan gefnogi pedwar diben y Cwricwlwm ar gyfer Cymru 2022!
Cynlluniwyd ein hadnoddau menter newydd i gyd fynd â’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru. Mae gennym weithgareddau hwyliog, newydd ar gyfer grwpiau oedran cynradd is a chynradd uwch er mwyn datblygu plant mentrus a chreadigol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr adnoddau yma a'r cyfleoedd dysgu cysylltiedig â'r cwricwlwm y gall y gweithgareddau menter eu cynnig, gallwch wylio ein sesiwn hyfforddi ar-lein ar gyfer athrawon, Archwilio Menter - Dysgu Cysylltiedig â'r Cwricwlwm ar alw yma.