Adnoddau Y Criw Mentrus

 

 

Mae addysg menter yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm cynradd yng Nghymru. Pwrpas allweddol cwricwlwm pob ysgol yw cefnogi plant i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Yn benodol, fel thema drawsbynciol, dylai Gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith (CWRE):

  • gael eu gwreiddio ar draws y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 3 i 16; a
  • ysbrydoli dysgwyr i archwilio cyfleoedd trwy amrywiaeth o brofiadau ystyrlon mewn dysgu, gwaith ac entrepreneuriaeth.

Dylai ysgolion ddarparu profiadau dilys sy'n meithrin, datblygu a gwerthuso sgiliau entrepreneuraidd. Er enghraifft, mae CWRE o fewn y Celfyddydau Mynegiannol yn galluogi dysgwyr i ddatblygu hyder yn eu creadigrwydd, eu harweinyddiaeth a’u cydweithrediad sy’n hanfodol i entrepreneuriaeth a bod yn arloesol yn y gweithle. Wrth i ddysgwyr symud ymlaen o fewn y Dyniaethau, dylent ddatblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gynyddol o …. entrepreneuriaeth foesegol. Yn yr un modd, gall dysgwyr ddod yn fwyfwy ymwybodol o sut mae Mathemateg a Rhifedd yn hanfodol ym myd gwaith, p'un a ydynt mewn rôl gweithiwr neu entrepreneur.

Mae’r gweithgareddau Criw Mentrus wedi eu profi a’u hymarfer yn yr ystafell ddosbarth i gyd fynd â gofynion Cwricwlwm Cymru fel y gall eich disgyblion ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Er mwyn cynorthwyo gyda chynllunio'r cwricwlwm, mae pob gweithgaredd dysgu yn ymgysylltu, lle bo hynny'n briodol, â’r:

  • Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
  • Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae gweithgareddau ystafell ddosbarth Y Criw Mentrus yn darparu cyfleoedd i blant ddefnyddio eu sgiliau entrepreneuraidd mewn ffyrdd cyffrous ac ymarferol. Byddant yn cynorthwyo eich disgyblion i:

  • ystyried eu cryfderau, eu diddordebau a'u dyheadau penodol eu hunain;
  • bod ag agwedd bositif a'r ysgogiad i roi syniadau ar waith;
  • fod yn fedrus wrth ymwneud â phobl, dylanwadu, trafod a chyfrannu at waith y tîm;
  • fod yn greadigol, arloesol, a chymryd camau dychmygus i ddatrys problemau.

Yn anad dim, bydd eich disgyblion yn gallu disgrifio sut maent wedi datblygu a defnyddio eu sgiliau entrepreneuriaeth, a pham mae'r nodweddion hyn yn bwysig.

Mae gweithgareddau dysgu Y Criw Mentrus wedi'u cynllunio i ategu'r gwaith rydych eisoes yn ei wneud i annog eich disgyblion i ymddwyn mewn ffordd entrepreneuraidd. Maent yn cynnwys

  • 11 gweithgaredd dysgu ar gyfer disgyblion cynradd is h.y. plant 3 i 7 oed
  • 12 gweithgaredd dysgu ar gyfer disgyblion cynradd uwch h.y. plant 7 i 11 oed gydag 8 o adnoddau ategol