Sut i ddewis syniad busnes

Hoffech chi weithio i chi eich hun, ond heb feddwl am y syniad a allai newid eich bywyd? Peidiwch â mynd i banig!

Gallwch fod yn greadigol mewn sawl ffordd. Efallai eich bod heb hyd yn oed sylweddoli eto, ond gallech od eisoes wedi meddwl am syniad ond bod angen help arnoch i’w ddatblygu. Dechreuwch arni drwy ofyn y cwestiynau hyn i chi eich hun:

  • Pa fath o waith sy’n addas i chi?
  • Dyn yn edrych ar syniadau ar wal
  • Beth yw eich hobïau a’ch diddordebau?
  • A oes gennych sgil y mae galw amdano?
  • Allwch chi sylwi ar gyfle newydd?
  •  Pa rwystrau y bydd angen i chi eu goresgyn?
  • Allwch chi ddatrys problem?

Generadur Syniadau

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Beth am ddefnyddio ein Generadur Syniadau newydd! Mae'n eich helpu i feddwl am eich hobïau, eich sgiliau a'ch diddordebau ac yn creu pecyn gwybodaeth defnyddiol i chi ar-lein.

Daflenni Busnes

Mae cannoedd o Daflenni i ddewis ohonynt – felly mae’n bur debyg y bydd un sy’n berthnasol i dy syniad busnes. Gallwch eu lawrlwytho i'ch ffôn, neu liniadur a darllen drwyddynt ar eich cyflymder eich hun.

(Sylwer bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gorff allanol ac yn Saesneg yn unig, felly ni all Llywodraeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ei gynnwys)

Felly, mae gennych eich syniad? Byddwch nawr am wybod sut y gallwch ei ddiogelu

 

Gallai eich syniad newydd fod yn unrhyw beth - cynnyrch/gwasanaeth newydd, brand newydd, neu hyd yn oed yn gân newydd!

Gallwch ddiogelu eich syniad busnes mewn sawl ffordd ond rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn syniad gwreiddiol yn gyntaf. Edrychwch ar Ganllaw Busnes Cymru ar gyfer Dod o Hyd i Gymorth i Ddyfeiswyr, a gwyliwch y fideos gwych hyn o'r Swyddfa Eiddo Deallusol am ddiogelu syniadau

 

Neu, cliciwch yma i gael dolen allanol i ddigwyddiadau o'r IPO