Marchnata
Rhoi eich syniad busnes o flaen cwsmeriaid posibl yw’r brif ffordd o dyfu eich busnes. Mae modd marchnata eich cynnyrch/gwasanaeth mewn llawer o ffyrdd, ac mae’n anodd gwybod pa ffordd yw’r un fwyaf addas i’ch busnes.
Y pethau pwysicaf i’w cofio yw:
- Brand - gall deall y gwahaniaeth rhwng logo a brand wneud gwahaniaeth mawr i effeithiolrwydd eich busnes. Mae’r argraff gyntaf yn bwysig ac mae angen hunaniaeth brand ar bob busnes. Gall eich helpu i ddenu’r cwsmeriaid addas a’u cadw cyn belled â bod eich busnes yn driw i’r brand mae’n ei hyrwyddo. Mae popeth yr ydych chi a’ch staff yn ei wneud yn gallu effeithio ar y brand, felly gwnewch yn siŵr ei fod yn ymddangos mewn ffordd sydd wrth fodd eich cwsmeriaid. Edrychwch ar ganllaw Busnes Cymru ynghylch Brandio a’u Parth Marchnata - gallai gynnig rai syniadau ar gyfer eich brand chi.
-
Hysbysebu - heb hysbysebu, sut bydd unrhyw un yn clywed am eich busnes? Ac nid ydym yn sôn am ymgyrchoedd hysbysebu enfawr. Gall hysbysebu fod mor syml â phoster/taflen yn eich ardal leol. Mae’n ffordd wych o greu diddordeb yn eich busnes, gwerthu rhagor, denu cwsmeriaid newydd ac amlygu eich brand/delwedd. Edrychwch ar Arweiniad Busnes Cymru ynghylch hysbysebu’n effeithiol. Mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd wych o hysbysebu eich busnes, felly manteisiwch ar hyn yn llawn! Crëwch dudalen ac anogwch bawb i sôn amdani.
- Cysylltiadau Cyhoeddus - Y ffordd fwyaf cyffredin o gael stori amdanoch yn y papur lleol yw drwy ysgrifennu datganiad i’r wasg. Cofiwch fod yn gryno, rhoi gwybodaeth berthnasol a’i ysgrifennu mewn arddull sy’n addas i’ch cwsmeriaid. Gall cael eich enw yn y papur lleol am y rhesymau cywir roi hwb mawr i’ch busnes. Mae’n codi eich proffil ac yn gwneud darpar gwsmeriaid yn fwy tebygol o ddod atoch chi na chwmni arall. Yn syml, mae hyn oherwydd eu bod wedi clywed amdanoch chi neu wedi cael eu hatgoffa amdanoch. O gofio eu bod yn cael llu o’r rhain bob dydd, mae’n werth gwneud yr ymdrech i wneud eich un chi mor dda â phosibl. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael am ysgrifennu datganiad effeithiol i’r wasg. Mae ganddyn nhw hefyd restr hynod ddefnyddiol o bethau i’w cadw mewn cof am gysylltiadau cyhoeddus!
-
Cyfryngau Cymdeithasol/Y We - Mae nifer cynyddol o fusnesau bach yn creu gwefannau gan fod mwy o bobl yn mynd ar y we i gael gwybodaeth, felly mae gwefan yn rhan hanfodol o’r strategaeth farchnata. Mae arweiniad gwych ar gael am sut i greu eich gwefan. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o gyfathrebu gyda’ch cwsmeriaid a dangos eich brand effeithiol. Mae modd cofrestru ar eu cyfer yn rhad ac am ddim fel arfer hefyd! Mae’n bwysig dewis y platfformau cywir sy’n addas i’ch busnes a’ch marchnad darged. Edrychwch ar arweiniad Busnes Cymru ynghylch y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor.
-
Marchnata ar gyllideb - gallwch farchnata eich busnes yn rhad iawn. Manteisiwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn llawn a pha mor bwerus ydyw, ond cofiwch ddarllen y canllawiau uchod yn gyntaf. Mae e-bost yn ffordd wych arall o farchnata yn rhad ac am ddim. Defnyddiwch hwn i gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid e.e. drwy gylchlythyr. Cofiwch gadw golwg ar y canllawiau ynghylch GDPR
Mae Parth Marchnata Busnes Cymru yn lle gwych i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â marchnata.