Y Criw Mentrus

Croeso i Gystadleuaeth Y Criw Mentrus 2025! 

Ysbrydoli Ysgolion Cynradd Entrepreneuraidd Led Led Cymru 

A yw eich dysgwyr yn byrlymu gyda syniadau busnes a dyhead i wneud gwahaniaeth? 

Mae Cystadleuaeth Y Criw Mentrus yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion cynradd Cymru arddangos, nid yn unig eu hysbryd entrepreneuriadd ond eu creadigrwydd, ymrwymiad i gynaliadwyedd, a’u cymunedau lleol!

Gall y rhai sy’n cymryd rhan eleni ennill gwobrau ariannol o hyd at £2500* ar gyfer eu hysgol!

 

 

 

Gwobrau'r gystadleuaeth

Yn ogystal â gwobrau ariannol pellach ar gyfer yr ail oreuon a gwobrau misol i ysgolion sy’n cofrestru.

* Gofynnir i enillwyr y tri phrif gategori fuddsoddi eu harian gwobr mewn adnoddau cwricwlwm/menter, deunyddiau neu brofiadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ymrwymo i gwblhau astudiaeth achos ar  ôl y gystadleuaeth sy’n arddangos sut y bu iddynt fuddsoddi eu harian a’r effaith a gafodd ar y dysgwyr.  

Cymhwysedd 

  • Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl ysgolion cynradd Cymru. 

  • Rhaid i’r ceisiadau fod yn weithgaredd a arweinir gan ddisgyblion ac yn seiliedig ar waith tîm. 

  • Rhaid i’r busnesau cymwys fod wedi bod yn weithredol yn ystod unrhyw adeg rhwng Ionawr 2024 a’r dyddiad cau, sef 16 o Fehefin 2025. 

Pam Cymryd Rhan?

  • Y cyfle i ennill gwobr ariannol o £2500* i’ch ysgol! 

  • Rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn gyfranwyr entrepreneuraidd, creadigol  trwy ddatblygu eu creadigrwydd, sgiliau datrys problemau a’r gallu i weithio fel rhan o dîm. 

  • Rhoi profiadau byd go iawn i’r dysgwyr trwy roi bywyd i syniadau, a chaniatáu iddynt brofi’r wefr o redeg busnes.  

  • Cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn awyrgylch hwyliog! 

Dyddiad cau

Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau erbyn 4pm ar 16 o Fehefin 2025. 
 

Barod i Ymgeisio? 

Cliciwch yma i gofrestru eich ysgol ar gyfer Cystadleuaeth Y Criw Mentrus 2025!

Cliciwch yma ar gyfer amserlen, cymhwysedd a meini prawf beirniadu’r gystadleuaeth. 

Syniadau i’ch rhoi ar ben ffordd 

Bwriad adnoddau Y Criw Mentrus yw ysbrydoli plant ac athrawon fel ei gilydd, gyda syniadau i’ch cynorthwyo i feddwl am syniad busnes gwych, a sut i’w ddatblygu i hybu gwerthiant a gwneud lles i’w cymuned leol.

Cofrestrwch yma

Adnoddau

Dyma rai adnoddau ac astudiaethau achos i helpu gyda'ch gweithgaredd a dangos sut mae'n cysylltu â'r cwricwlwm

Yr Amserlen

Dyma amserlen y gystadleuaeth

Meini Prawf Beirniadu

Dyma'r Meini Prawf Beirniadu ar gyfer y gystadleuaeth