O 21 o Dachwedd 2024

Ysgolion yn cofrestru a gosod eu gweithgareddau menter ar-lein a dod yn ‘Ysgol Fentrus’; anfonir pecyn adnoddau a bathodyn digidol trwy ebost unwaith y bydd y cofrestriad wedi cychwyn.  Cofrestrwch yma 

Tachwedd 2024 – Mehefin 2025

Dyfernir gwobrau misol ar gyfer lluniau a gyflwynir i Oriel Y Criw Mentrus. 

16 o Fehefin 2025 – 4pm

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Y Criw Mentrus 2025.

25 o Fehefin 2025

Anfonir manylion ynglŷn â chyfweliadau ar-lein gyda’r beirniaid i’r ysgolion 

1 - 8 o Orffennaf 2025

Cyfweliadau ar-lein gyda’r beirniaid 

11 o Orffennaf 2025

Cyhoeddi’r enillwyr 

Meini Prawf Cymhwysedd 

  • Mae’r gystadleuaeth yn agored i holl ysgolion cynradd Cymru 

  • Dylai’r holl blant sy’n cymryd rhan fod rhwng 5-11 mlwydd oed. 

  • Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg 

  • Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau trwy’r ffurflen gais ar-lein swyddogol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir trwy ebost neu trwy’r post yn gymwys. 

  • Rhaid cynnal yr holl weithgareddau dan sylw rhwng Ionawr 1 a Mehefin 16, 2025 

  • Gall ysgolion gyflwyno uchafswm o un cais ym mhob categori

  • Nid oes cyfyngder ar y nifer o blant all gymryd rhan ym mhob cais. Fodd bynnag, os dewisir ysgol i fod ar y rhestr fer i dderbyn cyfweliad ar-lein gyda’r beirniaid, yna dim ond 4 plentyn gaiff gymryd rhan i amlinellu eu prosiect ac ateb cwestiynau. 

  • Mae cymryd rhan yn y Gystadleuaeth yn RHAD AC AM DDIM 

  • Gofynnir i enillwyr y tri phrif gategori fuddsoddi eu harian gwobr mewn adnoddau cwricwlwm/menter, deunyddiau neu brofiadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ymrwymo i gwblhau astudiaeth achos ar ôl y gystadleuaeth sy’n arddangos sut y bu iddynt fuddsoddi eu harian a’r effaith a gafodd ar y dysgwyr.  

Os hoffech gymryd golwg ar y ffurflen gais a chynllunio eich cyflwyniad cyn cofrestru gallwch ei lawr lwytho isod