Dod yn Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru
Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesa o Entrepreneuriaid
Mae ein modelau rôl yn bobl fusnes go iawn gyda straeon ysbrydoledig sy'n dal dychymyg pobl ifanc ac yn cyfleu'r realiti o fod yn fos arnyn nhw eu hunain. Maent yn rhannu eu brwdfrydedd dros greadigrwydd a llwyddiant, gan helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol.
Trwy ymuno â'n rhwydwaith Syniadau Mawr Cymru fel model rôl, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Cymru, gan eu hannog i agor eu meddyliau i syniadau a chyfleoedd newydd trwy entrepreneuriaeth a busnes. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich stori entrepreneuriaeth bersonol a'ch cefnogi drwy'r ffordd.
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
- Cyflwyno Gweithdai Ysbrydoledig: Ymgysylltu â grwpiau oedran gwahanol drwy adrodd straeon a gweithgareddau mewn sesiynau awr mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol.
- Rhannu Eich Taith: Darllenwch trwy broffiliau modelau rôl cyfredol i weld yr ystod amrywiol o berchnogion busnes yn ein rhwydwaith.
Pam ymuno â ni?
- Hyrwyddo Entrepreneuriaeth: Helpu i godi ymwybyddiaeth a herio canfyddiadau o fusnesau newydd.
- Gwneud Gwahaniaeth: Annog pobl ifanc ledled Cymru i archwilio syniadau a chyfleoedd newydd.
Sut i wneud cais:
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith, cysylltwchâ ni a byddwn mewn cysylltiad.
Yma gallwch lawrlwytho llawer o adnoddau defnyddiol i bobl ifanc wrth ichi gyflwyno’ch sesiynau
Banc syniadau newydd a gwell ar gyfer darparu mewn byd digidol: | |
Cadwch eich syniadau gyda’i gilydd drwy ddefnyddio ein templed gwag: |
Mae llawer o ddeunyddiau darllen, adnoddau a gwybodaeth ar gael yn adran ein partneriaid yma