Perthynas y cwsmer â’r cyflenwr

Byddi’n chwarae rolau gwahanol wrth ddelio â chwsmeriaid, cyflenwyr, a phobl fusnes fel dy reolwr banc neu gyfrifydd. Ond paid â gadael i hyn dy ddychryn. Mae'n debyg y byddi’n chwarae’r holl rolau hyn eisoes yn dy fywyd heb hyd yn oed sylweddoli hynny! Cwrdd â phobl, magu perthnasau, gwrando, dysgu - mae'r cyfan yn ymwneud ag hanfodion cyd-dynnu â phobl. Mae meithrin perthnasau â chwsmeriaid yn ffordd wych o gadw cysylltiadau busnes presennol ac ennill mwy drwy lafar gwlad. Gweler wefan Busnes Cymru am ganllaw ar sut i Wybod Anghenion dy Gwsmeriaid (gwefan Busnes Cymru).

Pam fod creu cysylltiadau busnes cryf mor hanfodol?

Oherwydd :

  • Yn ei hanfod, mae busnes yn ymwneud â phrynu a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Ac ni fedri wneud yr un o’r ddau heb siarad â phobl eraill!
  • Mae bywyd yn fwy o hwyl pan fyddi’n cyd-dynnu â phobl!
  • Os wyt yn meithrin perthynas gref gyda phobl eraill byddi mewn llai o berygl o unrhyw fwriadau cudd neu ddig personol a allai danseilio dy lwyddiant.
  • Bydd anfodlonrwydd ymysg cwsmeriaid yn llawer llai tebygol - byddi’n gallu taclo problemau yn eu blagur oherwydd dy fod yn eu hadnabod ac maent yn dy barchu.
  • Bydd cyflenwyr, cwsmeriaid, cydweithwyr a chynghorwyr yn hapusach i dy gefnogi (gan roi gwybodaeth, cyfarwyddyd ac ati) -hanfodol os wyt ti'n mynd i wneud y penderfyniadau cywir. Byddant hefyd yn dy hysbysu am unrhyw dueddiadau a thynnu sylw at broblemau neu gyfleoedd posibl.
  • Mae pobl yn mynd gam ymhellach ar gyfer pobl maent yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu - a byddant yn llawer mwy tebygol o brynu nwyddau a gwasanaethau.

Mae perthnasau â phobl eraill yn aml yn reddfol iawn, ond mae camau ymarferol y gelli eu cymryd i adeiladu credyd yn y banc perthnasau. Wedi'r cyfan, dwyt ti byth yn gwybod pryd y byddi ei angen! 

Magu mwy o berthnasau – dylet gymryd mwy o ddiddordeb mewn eraill yn hytrach na cheisio cael pobl eraill i gymryd diddordeb ynot.

Byddi’n gallu dod i’w hadnabod fel unigolion mewn modd agored a chyfeillgar. Bydd eu teyrngarwch yn hanfodol i dy lwyddiant. Bydd cwsmer bodlon yn dweud wrth hanner dwsin o bobl am y gwasanaeth rhagorol - bydd cwsmer anfodlon yn dweud wrth 20 am beidio â dy ddefnyddio. Siarada â dy gwsmeriaid yn rheolaidd, am beth maent yn chwilio a cheisio rhagweld eu hanghenion yn y dyfodol.  Dangosa fod gen ti ddiddordeb ynddynt nid yn unig fel cwsmer ond hefyd fel pobl go iawn. Paid â bod yn or-gyfeillgar, ond datblyga berthynas hydrin. Gwna’n si?r dy fod yn darparu gwasanaeth gwirioneddol bersonol - a gwna’n si?r dy fod yn darparu. Darllena'r canllaw ar wefan Busnes Cymru ar sut i Ennill a Chadw Cwsmeriaid (gwefan Busnes Cymru).

Gyda chyflenwr a phartneriaid eraill, byddi eisiau meithrin perthynas tymor hir sy’n dod â budd i’r  ddwy ochr ac sy'n diwallu anghenion pawb. Gall hyn ymddangos fel rhywbeth y byddai'n well gen ti ei osgoi - ond paid â chymryd hyn yn bersonol. Ceisia fod yn wrthrychol yn lle hynny – busnes ydi hyn, wedi'r cyfan. Pe baet yn meddwl am y peth mewn termau cadarnhaol, fel yr awydd i ddeall anghenion a diddordebau unigol dau barti, a dod o hyd i’r atebion i fodloni’r ddau, gall ymddangos yn fwy hylaw.