Meini Prawf Asesu
Effaith ECO / Cynaliadwyedd - 100 pwynt
1. Perthnasedd a Phwrpas (20%) – 20 pwynt
- Nodau Clir: A yw’r prosiect yn nodi her amgylcheddol neu gynaliadwyedd penodol yn glir? A yw’r nodau yn glir-ddiffiniedig ac yn canolbwyntio ar greu effaith gadarnhaol?
- Arwyddocâd Amgylcheddol: Pa mor berthnasol yw’r prosiect i faterion amgylcheddol cyfredol neu’r i’r ecosystem leol?
2. Effaith Amgylcheddol a Chanlyniadau (25%) – 25 pwynt
- Effaith Weledol: Pa ganlyniadau mesuradwy a gyflawnwyd drwy’r prosiect o ran gwella amodau amgylcheddol neu gynaliadwyedd? Er enghraifft, a wnaeth leihau gwastraff, arbed adnoddau neu hyrwyddo bioamrywiaeth?
- Cynaliadwyedd a Hirhoedledd: A gynlluniwyd y prosiect i greu buddion hir dymor i’r amgylchedd? A oes cynlluniau i’w barhau neu ei ehangu yn y dyfodol?
3. Ymrwymiad a Chydweithio Disgyblion (20%) – 20 pwynt
- Ymglymiad a Chyfrifoldeb : Pa mor weithredol oedd y disgyblion wrth gymryd rhan yn y prosiect, gan gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth yn ei weithrediad?
- Ymgysylltu â’r Gymuned: A oedd cydweithio gydag aelodau’r gymuned leol, sefydliadau neu grwpiau amgylcheddol yn rhan o’r prosiect? A wnaethpwyd ymdrech i addysgu neu gynnwys eraill?
4. Creadigedd ac Arloesedd (15%) – 15 pwynt
- Dull Arloesol: A yw’r prosiect yn defnyddio dulliau newydd a chreadigol i fynd i’r afael â’r mater amgylcheddol a ddewiswyd? A yw’r syniadau gwreiddiol neu ddatrysiadau yn rhan o’i ddyluniad?
- Datrys Problemau: Pa mor effeithiol oedd y prosiect wrth fynd i’r afael â heriau a darganfod datrysiadau arloesol i rwystrau amgylcheddol?
5. Dysgu a Datblygiad Disgyblion (10%) – 10 pwynt
- Sgiliau a Gwybodaeth: Pa wybodaeth amgylcheddol neu sgiliau a enillodd y disgyblion trwy’r prosiect? A ddysgwyd am ail-gylchu, cadwraeth, neu ynni adnewyddadwy?
- Twf a Myfyrdod: A yw’r disgyblion yn gallu myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd a phwysigrwydd eu cyfraniad i gynaladwyedd amgylcheddol?
6.Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) – 10 pwynt
- Eglurdeb ac Ymgysylltu: Pa mor glir ac effeithiol yw’r disgyblion wrth gyflwyno pwrpas, proses ac effaith y prosiect?
- Ysbrydoliaeth a Chyrhaeddiad : A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill o fewn yr ysgol neu’r gymuned leol i fabwysiadu ymddygiadau mwy cynaliadwy neu i weithredu?
Effaith Cymdeithasol / Cymunedol - 100 pwynt
1. Perthnasedd a Phwrpas (20%) - 20 pwynt
- Pwrpas a Nodau: Pa mor effeithiol yw’r prosiect wrth nodi angen cymdeithasol neu gymunedol penodol? A oes nod clir sy’n cyd-fynd â’r nod o gael effaith gadarnhaol?
- Perthnasedd Cymunedol: Pa mor berthnasol yw’r prosiect i’r gymuned leol neu’r gymdeithas yn gyffredinol?
2. Ymrwymiad a Chyfranogiad y Gymuned (20%) - 20 pwynt
- Cyfranogiad a Chydweithio: A wnaeth y disgyblion gynnwys y gymuned neu grwpiau eraill yn eu hymdrechion? A oedd ymgysylltiad â rhieni, sefydliadau lleol, neu arweinwyr cymunedol?
- Cynhwysiant: A yw’r prosiect yn arddangos cynhwysiant, gan sicrhau fod croeso i bob aelod o’r gymuned a’u bod yn gallu cymryd rhan
3. Creadigrwydd ac Arloesedd (15%) - 15 pwynt
- Dull Unigryw: A yw’r prosiect yn dangos dull creadigol ac arloesol wrth fynd i’r afael â’r mater a ddewiswyd?
- Datrys-Problemau: A oes strategaethau neu ddatrysiadau unigryw sy’n gwneud y prosiect yn arbennig?
4. Effaith a Chanlyniadau (25%) - 25 pwynt
- Canlyniadau Gweladwy: Pa effaith mesuradwy gafodd y prosiect ar y gymuned neu’r mater dan sylw? A oes canlyniadau clir?
- Cynaliadwyedd: A gynlluniwyd y prosiect gydag effeithiau cadarnhaol hir dymor mewn golwg? A fydd yr effaith yn parhau wedi i’r prosiect ddod i ben?
5. Dysgu a Datblygiad Disgyblion (10%) - 10 pwynt
- Adeiladu Sgiliau: Beth ddysgodd y disgyblion o ganlyniad i’r prosiect? A wnaethant ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, arweinyddiaeth, empathi neu ddatrys problemau
- Twf a Myfyrdod: A yw’r disgyblion yn gallu myfyrio ar eu profiadau a gwerth eu cyfraniad?
6. Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) - 10 pwynt
- Eglurdeb ac Effeithlonrwydd: Pa mor eglur ac effeithiol yw’r disgyblion wrth gyflwyno pwrpas, proses ac effaith y prosiect?
- Ysbrydoliaeth a Chymhelliant: A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill i weithredu neu gymryd rhan mewn ymdrechion tebyg?
Creadigrwydd / Arloesedd - 100 pwynt
1. Gwreiddioldeb ac Unigrywiaeth (25%) - 25 pwynt
- Syniadau Ffres: Ydi’r prosiect yn dangos syniad neu gydsyniad unigryw sydd ar wahân i’r gweddill? A yw’n wahanol i ddulliau cyffredin eraill?
- Dull Gwreiddiol: Pa mor effeithiol yw’r disgyblion am osgoi ystrydebau a chanfod rhywbeth newydd?
2. Datrys Problemau ac Arloesedd (20%) - 20 pwynt
- Datrys Problemau yn Effeithiol: A yw’r prosiect yn mynd i’r afael â phroblem neu her benodol mewn ffordd arloesol?
- Datrysiadau Creadigol: A oes datrysiadau dyfeisgar sy’n arddangos meddwl gwreiddiol neu ddulliau newydd i ymdrin â heriau cyffredin?
3. Dylunio a Gweithredu (15%) - 15 pwynt
- Ansawdd a Sylw at Fanylder: Pa mor grefftus a sylwgar yw cynllun y cynnyrch neu’r cyflwyniad terfynol
- Defnydd o Ddeunyddiau a Thechnegau: A yw’r disgyblion yn defnyddio adnoddau mewn ffordd arloesol neu anghonfensiynol? A oes cyfuniad effeithiol o dechnegau a deunyddiau?
4. Ymgysylltiad a Brwdfrydedd Disgyblion (15%) - 15 pwynt
- Cyfranogiad a Chyfrifoldeb: Pa mor weithredol oedd y disgyblion wrth gymryd rhan mewn creu syniadau, dylunio a gweithredu’r prosiect? A ydynt yn dangos ymdeimlad o berchnogaeth gref?
- Angerdd a Brwdfrydedd: A ddangosir cyffro clir ac ymrwymiad yn y prosiect? A yw’r disgyblion yn dangos cariad at y broses greadigol?
5. Effaith ac Ymarferoldeb (15%) - 15 pwynt
- Ymarferoldeb a Defnyddioldeb : A oes gan y prosiect ddefnydd ymarferol neu a yw’n cynnig datrysiad posib i broblem y byd go iawn?
- Apêl Cynulleidfa: A yw’r prosiect yn ddifyr, ysbrydoledig neu yn rhoi mwynhad i eraill wrth ei brofi?
6. Cyflwyno a Chyfathrebu (10%) - 10 pwynt
- Eglurder ac Effeithlonrwydd: Pa mor effeithiol yw’r disgyblion wrth gyfathrebu eu syniadau, pwrpas eu prosiect a’u proses greadigol?
- Ysbrydoliaeth: A yw’r prosiect yn ysbrydoli eraill i feddwl yn greadigol neu ddilyn syniadau arloesol eu hunain?