Ymgorffori Menter - Adnoddau Cefnogi Athrawon

Mae addysg menter yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm cynradd yng Nghymru. Pwrpas allweddol cwricwlwm pob ysgol yw cefnogi plant i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Ar ran Llywodraeth Cymru, cyd weithiodd Tîm y Criw Mentrus yn agos gydag athrawon profiadol o ysgolion ag enw da am ymgorffori addysg menter yn llwyddiannus, er mwyn datblygu a chynllunio Adnoddau Cefnogi Athrawon Y Criw Mentrus fyddai’n cynorthwyo i gyflwyno ac ymgorffori menter i’ch cwricwlwm ac annog eich disgyblion i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd

Gellir defnyddio’r Adnoddau Cefnogi Athrawon i

  • Godi ymwybyddiaeth am fanteision ymgorffori menter
  • Darparu syniadau ac enghreifftiau o ymarfer effeithlon wrth weithredu entrepreneuriaeth

Maent yn cynnwys pedwar cyflwyniad PowerPoint, sef:

  • Dulliau ar gyfer cyflwyno cwricwlwm menter eang a chytbwys
  • Creu Tîm Menter Llais Disgybl
  • Datblygu Cyfranwyr Creadigol gyda Phlant Cynradd Is
  • Y Syniad Mawr – Gam wrth Gam

A phedwar astudiaeth achos ysgol ymgorffori menter yn y cwricwlwm gan:

  • Ysgol Gynradd Llanrhaeadr Ym Mochnant, Powys
  • Ysgol Gynradd Treforys, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Rhaglan, Sir Fynwy
  • Ysgol Gynradd y Trallwng, Powys

Llwybrau Ymgorffori Menter

Astudiaethau Achos