Shaunnah
Mae modelau rôl yn ysbrydoli 300,000
Trosolwg:
Dros 300,000 o bobl ifanc yng Nghymru wedi derbyn cyfleoedd entrepreneuriaeth

Mae dros 300,000 o bobl ifanc drwy Gymru wedi cael eu hysbrydoli i ddilyn uchelgais entrepreneuraidd drwy wasanaeth Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf..

Mae’r gwasanaeth entrepreneuriaeth wedi cyrraedd y garreg filltir eithriadol hon drwy ei Rwydwaith Modelau Rôl.  Mae entrepreneuriaid drwy Gymru wedi ymuno â rhwydwaith Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru i rannu eu profiad gyda darpar entrepreneuriaid drwy gyfrwng gweithdai, gyda’r nod o dynnu sylw pobl ifanc at syniadau a chyfleoedd newydd sy’n bodoli a’u helpu nhw i feddwl yn bositif am eu dyfodol eu hunain. Drwy fuddsoddi eu hamser eu hunain yn ein cymunedau drwy Gymru, mae ein Modelau Rôl wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac wedi eu helpu nhw ar eu siwrnai entrepreneuraidd.  

Mae’r garreg filltir fwyaf diweddar o ymgysylltu â 300,000 o bobl ifanc yn gyfwerth â chyrraedd dros 300 o bobl ifanc bob diwrnod ysgol am y bum mlynedd ddiwethaf.

 

“Mae wedi rhoi llawenydd mawr i mi gael bod yn rhan o’r rhwydwaith modelau rôl am gymaint o flynyddoedd. Mae gweld entrepreneuriaid ifanc yn datblygu eu syniadau a’u hyder yn fy ysgogi i barhau i gyflwyno cyngor ac ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o bobl ifanc.

Rydw i mor falch o fod yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru ac mae gweld ein bod ni fel rhwydwaith wedi cyrraedd y garreg filltir o ymgysylltu â 300,000 o bobl ifanc yn llwyddiant go iawn ac rydw i’n falch o fod yn rhan ohono.  Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd fel perchennog busnes, ond mae gwybod bod gen i blatfform drwy Syniadau Mawr Cymru i helpu darpar entrepreneuriaid ifanc yn fy nghadw’n bositif. "

 - Annette Gee, Perchennog Taskforce Paintball a Model Rôl

 

Ers i’r prosiect gychwyn ym mis Ionawr 2016, mae Syniadau Mawr Cymru wedi cefnogi 402 o entrepreneuriaid ifanc i gychwyn eu busnes eu hunain, ac mae wedi cael ei gyflwyno ymhob ysgol uwchradd yng Nghymru.

Dau o’r entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru sydd wedi cael budd o’r Rhwydwaith Modelau Rôl drwy ddarganfod Syniadau Mawr Cymru yw dau o bobl ifanc 20 oed o Ynys Môn, sydd wedi creu brand dillad a gafodd ei ysbrydoli gan yr iaith Gymraeg a’u cynefin arfordirol.

Mae’r hyn a gychwynnodd fel prosiect yn y Chweched Dosbarth i ddatblygu busnes, mae dau ffrind, Sion Davies a Sion Owen wedi creu eu brand Dillad Arfordir Clothing eu hunain yn ystod haf 2019.  Cyflwynodd Gaz Thomas o Syniadau Mawr Cymru sgwrs yn eu hysgol, gan roi cyfarwyddiadau iddyn nhw ar y prosiect busnes a’u cyflwyno i’r gwasanaeth am y tro cyntaf.

.

 

 

 

 

Clywodd y pâr yn y lle cyntaf am Syniadau Mawr Cymru drwy un o’i ddigwyddiadau gwobrau rhad ac am ddim sef Dathlu Syniadau Mawr, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor lle mae Sion Davies yn astudio.  Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd ef: “Pan wnaethom ni fynychu’r digwyddiad, dim ond cychwyn oeddem ni'r adeg honno, ac felly roedd yn wirioneddol ddefnyddiol i glywed gan unigolion a oedd eisoes wedi sefydlu busnesau am eu syniadau a’u cynnyrch.

“Gwnaethom gystadlu yn erbyn unigolion a chwmnïau gwych a hyd yn oed ennill Gwobr Sgiliau Busnes Gorau a lwyddodd mewn gwirionedd i ysgogi ein busnes.  Ar ôl inni ennill, roedd y radio a’r wasg leol yn disgwyl clywed y stori am y busnes a oedd wedi dechrau mewn dosbarth.”

Ers i’r pandemig ymddangos, mae Dillad Arfordir Clothing yn un o nifer o fusnesau sydd wedi cyrraedd lefel uwch o werthiant ar ddiwedd 2020 nag yn y blynyddoedd blaenorol.  Wrth siarad am weithio drwy’r pandemig, dywedodd Sion: “Tra bod rhai rhannau o’r busnes wedi cael eu hamharu neu gael eu hatal yn gyfan gwbl oherwydd Covid, bu’n rhyddhad enfawr i gael cymorth Syniadau Mawr Cymru drwy’r cyfan.  Mae rhywun ar ben arall y ffôn bob amser sy’n barod i roi cyngor a’n cysylltu ni â pherchnogion busnes eraill a all ein helpu ni.”

 

Ers iddo ddarganfod Syniadau Mawr Cymru yn y lle cyntaf, mae Sion Davies wedi hyfforddi i fod yn Llysgennad Ifanc.  Daeth cyfleoedd iddo roi sawl cyflwyniad yn bersonol ac ar-lein, ac mae hyd yn oed wedi dychwelyd i’w Chweched Dosbarth yn Ynys Môn i siarad â’r myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r un prosiect cynllun busnes a sefydlodd Dillad Arfordir Clothing.  Nid yn unig yr oedd ef ei hun unwaith yn un o’r darpar entrepreneuriaid, ond mae Sion wedi bod yn rhannu ei brofiad a’i lwyddiant drwy’r Rhwydwaith Modelau Rôl gan gyfrannu i ymgysylltiad Syniadau Mawr Cymru â thros 300,000 o bobl ifanc.

Entrepreneur ifanc arall sydd wedi cael budd o gefnogaeth o’r fath yw entrepreneur 22 oed o Gaerffili sydd wedi agor ei chwmni dillad ei hun mewn cais i ymdrin â ‘ffasiwn gyflym’.

Sefydlodd Shaunnah Crosbie Shaunnah’s Sew Crafty ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru gyda gradd mewn Adeiladu Gwisgoedd.  Ar ôl gweithio cyn hynny yn yr adran wisgoedd i sawl cynhyrchiad teledu a theatr, gan gynnwys Doctor Who y BBC a Sex Education ar Netflix, trodd Shaunnah ei sylw at ffasiwn gynaliadwy a dechrau cynnig gweithdai gwnïo er mwyn addysgu pobl sut i uwchgylchu neu drwsio pethau ail-law.

Clywodd Shaunnah am y gwasanaeth tra’r oedd yn y Brifysgol pan gyflwynodd Fran Hunt, cynllunydd propiau a Model Rôl Syniadau Mawr Cymru weithdy am entrepreneuriaeth a menter, gan annog Shaunnah i dderbyn y cymorth rhad ac am ddim a oedd yn cael ei gynnig gan Syniadau Mawr Cymru.

Ers y cychwyn cyntaf tan nawr, mae’r gwasanaeth wedi bod yn help ffantastig wrth sefydlu fy musnes.  Rydw i’n dioddef o ddyspracsia a Syndrom Irlen, sy’n golygu fy mod yn cael trafferthion gydag ysgrifennu a strwythuro dogfennau, ond roedd Syniadau Mawr Cymru yn help enfawr pan oedd angen prawf-ddarllen fy nghynllun busnes ac egluro rhagolygon ariannol.” - Shaunnah Crosbie - Shaunnah's Sew Crafty

Tra bod y pandemig y coronafeirws yn atal Shaunnah rhag cynnal y gweithdai gwnïo yn bersonol am y tro, mae hi wedi neilltuo rhywfaint o’u hamser rhydd i hyfforddi i ddod yn Llysgennad Ifanc i Syniadau Mawr Cymru.  Yn ystod y ddau fis diwethaf, mae hi wedi cyfrannu at fŵtcamps, sgyrsiau ac wedi rhwydweithio gyda darpar entrepreneuriaid ifanc eraill fel hi ei hun, ond mae Shaunnah wedi bod yn rhannu’i phrofiad drwy’r Rhwydwaith Modelau Rôl, gan gyfrannu i ymgysylltiad Syniadau Mawr Cymru â thros 300,000 o bobl ifanc.