1. Trosolwg
Mae cychwyn busnes, er bod hynny’n eithriadol o gyffrous, yn gam mawr i’w gymryd. Weithiau, cyn i chi fentro a chychwyn busnes amser llawn, efallai y byddai’n well ac yn haws ystyried gwneud hynny’n rhan amser, fel ffordd o wneud yn siŵr y bydd y syniad busnes yn gweithio.
Os oes gennych chi swydd ran amser, neu os oes gennych chi blant ifanc a ddim am neilltuo’r amser sy’n ofynnol i redeg busnes amser llawn, neu ddim mewn sefyllfa i wneud hynny, efallai y bydd busnes rhan amser yn ddewis da i chi.
Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y materion ymarferol y byddwch yn eu hwynebu wrth redeg busnes rhan amser. Mae hefyd yn dweud wrthych chi ymhle y gallwch chi gael cymorth a ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth.
2. Beth i’w ystyried wrth gychwyn eich busnes rhan amser
Dylech chi ystyried nifer o faterion pan fyddwch yn cychwyn eich busnes eich hun, hyd yn oed os busnes rhan amser yw hwnnw.
Ydych chi’n barod i gychwyn busnes?
Mae llawer o resymau dros ystyried cychwyn busnes ond rhaid i fod yn siŵr eich bod yn barod. Bydd angen ichi asesu’ch sgiliau’ch hun a lle mae angen rhagor o gefnogaeth a datblygiad arnoch chi o bosibl - er enghraifft gofalu am faterion ariannol y busnes. Dylech chi hefyd feddwl yn ofalus am y cynnyrch neu’r gwasanaeth rydych am ei werthu, i bwy y byddwch yn ei werthu a beth sydd gennych chi sy'n wahanol i bawb arall. Bydd angen ichi hefyd fod yn barod i wynebu’r heriau a’r pwysau arnoch chi eich hun a’ch sefyllfa ariannol.
Pa strwythur cyfreithiol?
Bydd angen strwythur cyfreithiol ffurfiol arnoch chi ar gyfer eich busnes. Gall y strwythur fod yn unrhyw beth o unig fasnachwr i gwmni cyfyngedig. Ar ôl penderfynu ar y strwythur, bydd angen ichi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM ac (os ydych wedi sefydlu cwmni cyfyngedig) gyda Thŷ'r Cwmnïau.
Beth am adeilad?
Efallai y byddwch wedi penderfynu rhedeg eich busnes o'ch cartref. Ond mae angen ichi sylweddoli bod goblygiadau ynghlwm wrth hyn gan fod yn rhaid ystyried materion megis treth, iechyd, diogelwch a gwarchodaeth. Efallai y bydd effeithlonrwydd yn well os byddwch yn gwahanu’ch man gwaith oddi wrth eich lle byw. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw dechrau busnes o'ch cartref.
Materion ariannol
Bydd eich busnes yn dechrau ar raddfa fach a bydd yn dal angen ichi ariannu'r gwaith o sefydlu'r busnes a datblygu'ch busnes i'w helpu i dyfu. Gallai meddwl yn greadigol a chynllunio'ch cyllid arbed arian ichi a’i gwneud yn llai costus nag yr oeddech yn ei feddwl i gychwyn eich busnes eich hun.
Cyngor proffesiynol
Yn dibynnu ar faint eich busnes, efallai y bydd angen cyngor neu gymorth proffesiynol arnoch chi sy'n gallu amrywio o gymorth cyfrifyddu a chadw'r llyfrau i farchnata a chymorth TG.
3. Goblygiadau cyfreithiol a threth busnes rhan amser
Pan fyddwch yn sefydlu busnes rhan amser, bydd angen ichi hysbysu Cyllid a Thollau EM. Os yw’n gwmni cyfyngedig bydd angen ichi ei gofrestru hefyd.
Bydd gennych ddyletswydd hefyd i gadw cofnodion ariannol cywir.
Mae'r gofynion hyn yr un fath pa un a ydych yn cychwyn busnes rhan amser neu fusnes amser llawn. Ond mae materion eraill i’w hystyried sy’n benodol i fusnesau rhan amser.
Parhau i wneud gwaith cyflogedig?
Os byddwch yn parhau i weithio am gyflog pan nad ydych yn rhedeg eich busnes, rhaid ichi benderfynu a ydych chi am ddweud wrth eich cyflogwr. Dylech chi ddarllen eich contract cyflogaeth. Efallai y bydd hwn yn nodi bod yn rhaid ichi ddweud wrth eich cyflogwr os oes gennych chi ffynhonnell incwm arall. Hefyd, os yw’ch menter newydd yn debygol o gystadlu â’ch cyflogwr, mae hynny’n arwain at wrthdaro mewn buddiannau a allai greu problemau.
Rhaid ichi fod yn ofalus iawn ynghylch gwahanu’ch gweithgareddau busnes personol chi oddi wrth weithgareddau busnes eich cyflogwr. Gallai cymryd galwadau ffôn, anfon negeseuon e-bost ac ysgrifennu llythyrau sy’n gysylltiedig â’ch busnes chi olygu eich bod yn torri'ch contract, onid ydych wedi cael caniatâd i wneud hynny. Ni ddylech chi ychwaith ddefnyddio cyflenwadau, deunyddiau neu eiddo deallusol eich cyflogwr. Er enghraifft, mae cymryd copïau o feddalwedd berchnogol i’w defnyddio yn eich busnes yn drosedd.
Os byddwch yn trafod eich cynlluniau â'ch cyflogwr, gallai ddod yn ffynhonnell anogaeth neu waith, yn enwedig os ydych chi'n gyflogai sy'n cael ei werthfawrogi.
Dim ond rhedeg y busnes?
Os nad oes gennych chi waith cyflogedig arall - ee efallai eich bod yn rhiant neu’n ofalwr gyda chyfrifoldebau teuluol - bydd yn rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o hyd ac, os yw’n briodol, cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau. Os nad oeddech yn cael cyflog yn flaenorol ac wedi bod yn derbyn budd-daliadau, bydd angen ichi ganfod a fydd eich menter newydd yn effeithio ar yr incwm hwnnw, a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os oes raid.
Os ydych chi’n gweithio o’ch cartref, bydd angen ichi ystyried materion iechyd a diogelwch ac yswiriant.
4. Manteision ac anfanteision cychwyn busnes rhan amser
Mae manteision ac anfanteision i redeg busnes yn rhan amser.
Dyma fanteision:
- rydych yn gallu parhau mewn swydd â thâl gyda sicrwydd y byddwch yn derbyn incwm rheolaidd nes y bydd y busnes wedi'i sefydlu
- gallwch ddefnyddio sgiliau rydych wedi’u dysgu yn gweithio i gyflogwr ar gyfer dechrau a datblygu’ch busnes eich hun
- os oes gennych chi ymrwymiadau fel gofalu am ddibynyddion, mae’n ffordd o gael incwm
- gallwch brofi a oes marchnad i’ch cynnyrch neu wasanaethau heb wneud ymrwymiad ariannol mawr
- os oes gennych chi ddiddordeb y byddech yn treulio amser arno y tu allan i’r gwaith beth bynnag, efallai y gallwch wneud arian o’ch diddordebau
Ond, mae'r anfanteision yn cynnwys:
- mae dod o hyd i amser i redeg busnes yn anodd ac efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag sydd gennych i'w roi
- efallai y byddwch yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar eich gwaith cyflogedig os oes gan y busnes broblem
- efallai y bydd yn rhaid gweithio oriau hir, sy’n gallu achosi straen
- gall gymryd amser maith i fusnes newydd ddatblygu a dod yn hyfyw
- os byddwch yn dal i weithio, bydd yn rhaid ichi dalu treth ar ddau incwm, a all olygu nad yw'r busnes yn ariannol hyfyw
5. Cymorth a chefnogaeth i fusnesau rhan amser
Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael os ydych chi’n cychwyn busnes – drwy asiantaethau’r llywodraeth neu wasanaeth mentora busnes. Mae modd cael cymorth oddi wrth amryw o ffynonellau ar-lein, tra gellir cael mathau eraill o gefnogaeth o ddigwyddiadau fel cyfarfodydd rhwydweithio.
busnes.cymru.gov.uk yw gwefan swyddogol y llywodraeth ar gyfer busnesau o bob maint. Mae’n darparu cyngor a chefnogaeth fusnes yn rhad ac am ddim. Byddwch yn gallu cael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ar gyfer eich anghenion busnes a'ch trafodion ar-lein â’r llywodraeth.
Gall Mentora eich helpu chi i ddatblygu sgiliau busnes. Dewch o hyd i fwy ar ein wefan mentora.
Mae eich Siambr Fasnach leol yn cynnig cymorth a chyngor ac efallai y bydd yn trefnu cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer busnesau o faint tebyg ac mewn sectorau busnes tebyg. Dewch o hyd i fanylion cysylltu eich Siambr Fasnach leol ar wefan Siambrau Masnach Prydain.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol petaech yn ymuno â’r gymdeithas fasnach ar gyfer eich sector busnes, lle gallwch ryngweithio â busnesau cefnogol er mwyn cael cyngor a gwybodaeth. Dewch o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer cymdeithasau masnach ar wefan Fforwm y Cymdeithasau Masnach.