1. Crynodeb

Yn y bôn, ymchwil marchnad ydy casglu gwybodaeth i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau. Mae'r adran hwn yn esbonio'r gwahanol ffyrdd o gasglu'r wybodaeth honno ac yn help ichi weld pa ddull i'w ddefnyddio a pha bryd.

2. Mathau o ymchwil marchnad


Mae ymchwil i'r farchnad yn ymwneud â chasglu gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwell. Gall gwybodaeth fod ar ffurf rhifau ac ystadegau - meintiol - neu gellir ei seilio ar agweddau a barn - ansoddol. Bydd y math o wybodaeth yr ydych am ei gael yn dibynnu ar y cwestiynau yr ydych am gael atebion iddynt.

Mae 2 brif ffordd o gasglu gwybodaeth. Y cyntaf yw ymchwil sylfaenol, y byddwch yn cynnal eich hun, a'r ail yw ymchwil eilaidd neu ymchwil desg, sef gwybodaeth sydd eisoes wedi ei chyhoeddi.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio ble i gael gafael ar yr wybodaeth a pha dechnegau i'w defnyddio.

Mae'r cwrs BOSS hwn yn ddefnyddiol ar gyfer deall pwysigrwydd ymchwil i'r farchnad, a pha ffactorau all ddylanwadu ar werthiannau.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

3. Ymchwil Eilaidd (wrth Ddesg)

Ymchwil eilaidd ydy defnyddio gwybodaeth sydd eisoes wedi'i gasglu a'i gyhoeddi gan rywun arall. Dyma pam y mae'n cael ei alw'n aml yn Ymchwil Desg.

Mae ymchwil eilaidd yn lle gwych i ddechrau. Mae llwyth o wybodaeth ar gael, sy'n cynnwys maint y farchnad, tueddiadau'r farchnad, patrymau gwario defnyddwyr a rhagfynegiadau twf y farchnad. Ond byddwch yn ofalus, gyda chymaint o wybodaeth ar gael, mae angen i chi fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydych ei eisiau ac ystyried ble rydych yn mynd i chwilio.

Ffynonellau gwybodaeth

Dyma ychydig o'r ystod eang o ffynonellau y gallech eu hystyried. Mae llawer ohonynt ar gael am ddim, ond cofiwch bydd cost am rai. Ac yn aml, os codir tâl, mae crynodeb cychwynnol o'r wybodaeth ar gael am ddim.

ac mewn cyfeiriaduron megis:

  • Cymdeithasau masnach a chyhoeddiadau masnach arbenigol
    • chwiliwch am beth sy'n berthnasol i'ch sector
    •  

4. Ymchwil Cynradd (Maes)

Ymchwil cynradd yw ymchwil y gallwch chi ei wneud eich hun, gan gasglu data'n uniongyrchol gan eich cwsmeriaid neu'ch cystadleuwyr. Dyna pam mae hyn yn aml yn cael ei alw'n Ymchwil Maes.

Pwrpas hyn yw llenwi'r bylchau yn y wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu a chael gwybod beth mae'ch darpar gwsmeriaid yn ei feddwl am y farchnad rydych chi'n gweithio ynddi, am eich cynnyrch neu'ch gwasanaethau a rhai eich cystadleuwyr.

Gallwch ddefnyddio arolygon a holiaduron er mwyn cael gwybodaeth ar ffurf ffigurau. Er enghraifft, mae 35% o'ch cynulleidfa darged yn meddwl hyn neu'r llall.

Fe allwch chi sylwi ar beth mae pob yn ei wneud go iawn, neu sut maen nhw'n ymateb i gynnyrch - yn hytrach na'r hyn y maen nhw'n dweud y byddan nhw'n ei wneud.

Gallwch chi ddefnyddio grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl er mwyn cael gwybodaeth mwy manwl am agweddau a barn pobl am eich cynnyrch a'ch gwasanaethau.

Arolygon a holiaduron

Dyma un o'r arfau mwyaf defnyddiol a chost-effeithiol i gael gwybod beth mae darpar gwsmeriaid yn ei feddwl am eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau.

Dyma ambell gyngor ar gyfer creu arolygon a holiaduron:

  • cadwch yr holiadur yn fyr
  • ceisiwch osgoi jargon neu iaith y mae'r bobl byddwch chi'n eu holi'n annhebygol o'i deall
  • rhowch y cwestiynau mewn trefn resymegol, gan ddechrau gyda chwestiynau hawdd eu hateb
  • byddwch yn ofalus i beidio â gofyn cwestiynau sy'n tywys pobl, hynny yw, cwestiynau sy'n gallu eu harwain i roi ateb penodol
  • defnyddiwch amrywiaeth o wahanol arddulliau o gwestiynau

Dyma enghreifftiau o rai o'r arddulliau y gallech chi ystyried eu defnyddio wrth holi:

Cwestiynau caeedig sy'n gofyn am ateb ‘Cadarnhaol’ neu 'Negyddol' ac yn rhoi ffeithiau ichi. Er enghraifft, 'Fyddwch chi'n prynu'r math yma o gynnyrch?

Mae cwestiynau agored yn gwahodd pobl i roi ateb hirach ac maen nhw'n cael eu defnyddio i gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod beth yw barn y sawl sy'n ateb ynghylch rhywbeth. Er enghraifft, 'Pam mae hynny (nodwedd benodol o'r cynnyrch hwn) yn bwysig ichi?'

Defnyddir cwestiynau amlddewis pan fyddwch chi am gyfeirio pobl i ddewis un ateb o blith nifer o ddewisiadau. Er enghraifft,

I ba grŵp oedran rydych chi'n perthyn?
1. O dan 18 oed
2 18 i 30 oed
3 31 i 50 oed
4 Dros 50 oed

 

Defnyddir cwestiynau sgorio i gael pobl i roi eu hymatebion yn eu trefn neu i’w graddio - naill ai drwy roi datganiad penodol iddynt, er enghraifft,

Roedd ansawdd y gwasanaeth a ges i yn
1. Ardderchog
2 Da iawn
3 Da
4 Gwael
5 Gwael iawn

 

Mae'n bosib defnyddio'r math hwn o gwestiwn hefyd i gael gwybod i ba raddau y mae rhywun yn cytuno neu'n anghytuno â datganiad, er enghraifft,

Sgoriwch bob un o'r datganiadau a ganlyn ar raddfa o 1-5 lle mae 1 yn dynodi 'cytuno'n gryf' a 5 yn 'anghytuno'n gryf'.
Mae siopa ar-lein yn gyflym ac yn hawdd 1 2 3 4 5
Mae siopa ar-lein yn arbed amser 1 2 3 4 5
Mae prisiau ar-lein yn rhatach nag yn y siopau 1 2 3 4 5

 

Defnyddiwch y templed hwn i wneud nodyn o'r prif gwestiynau yr hoffech eu gofyn (MS Word 11kb)

Creu arolygion a holiaduron

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n profi’r holiadur ar bobl rydych chi'n eu hadnabod, cyn gwneud hyn gyda'ch cynulleidfa darged. Yn gyntaf, mae hyn yn help i sicrhau bod pobl yn deall y cwestiynau a'r cyfarwyddiadau. Yn ail, mae'n beth da gwneud yn siŵr eich bod yn gofyn y cwestiynau iawn er mwyn cael y wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani.

Mae'n bosib holi pobl wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy'r post, drwy e-bost neu ar-lein. Mae manteision ac anfanteision i bob un o'r dulliau hyn ac fe ddylech ystyried pwy yw'ch cynulleidfa, y gost, yr amserlen, pa mor hyblyg yw’r dull a'r cyfraddau ymateb posib cyn dewis pa ddull i'w defnyddio.

Mae arolygon ar-lein, megis SurveyMonkey yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Maen nhw'n rhad iawn (am ddim yn aml ar gyfer holiaduron byr sydd yn holi nifer fach o ymatebwyr), yn ennyn cyfraddau ymateb da (a dibynnu ar eich cynulleidfa darged) ac mae'r rhaglenni ar-lein yn rhoi help a chymorth i'ch tywys drwy strwythur yr holiadur ac wrth ichi greu'r cwestiynau unigol. Serch hynny, nid oes dim rhyngweithio personol â'r bobl rydych chi'n eu holi a rhaid i chi a'r bobl sy'n ateb fod yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron a theimlo'n gyfforddus yn eu defnyddio.

Penderfynu faint o bobl i'w holi

Mae'n bwysig eich bod yn holi digon o bobl er mwyn i ganlyniadau'ch arolwg fod yn ddilys. Mae llawer o dechnegau dethol gwahanol ar gael a does dim rhaid ichi gyfweld nifer benodol o bobl.

Y prif faterion i'w hystyried yw'r gyllideb a faint o amser sydd ar gael gennych chi a pha mor gywir rydych chi am i'r canlyniadau fod. Yn gyffredinol, po fwyaf fydd y sampl, y mwyaf tebygol fydd hi bod eich canlyniadau'n gywir.

Gall eich cynghorwr busnes yn Busnes Cymru eich helpu i benderfynu beth sy'n iawn i chi.