1. Crynodeb

Y cam cyntaf wrth bennu prisiau ydy sefydlu’ch costau. Mae’r adran hwn yn eich helpu i ddeall y gwahanol fathau o gostau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg eich busnes.

2. Deall costau

Y cam cyntaf wrth bennu prisiau ydy sefydlu’ch costau. Rhaid i’ch pris fod ddigon uchel i dalu am yr holl gostau a ddaw i’ch rhan, ac i chi wneud elw. Rhaid i chi ddeall y gwahanol fathau o gostau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg eich busnes.

Mae costau busnes yn rhannu'n 3 phrif gategori:

  • costau sefydlog neu orbenion
  • costau uniongyrchol neu amrywiol
  • chostau cyfalaf

Os nad ydych eto wedi edrych ar y cwrs BOSS - Deall eich Materion Ariannol, yna efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddeall eich costau.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Costau sefydlog neu orbenion

Rhain ydy’r costau y mae’n rhaid i chi eu talu, dim ots faint rydych chi'n ei werthu. Er enghraifft, un o gostau sefydlog siop ydy’r rhent. Bydd y rhent yn aros yr un fath, dim ots a ydy’r siop yn gwerthu un cynnyrch neu filoedd.

Mae costau sefydlog yn cynnwys:

  • costau swyddfa fel cyflenwadau, cyfleustodau a ffôn
  • cyflogau a thâl i chi, staff y swyddfa a gwerthwyr
  • costau marchnata a gwerthu, gan gynnwys hysbysebu
  • yswiriant
  • costau cerbydau a theithio
  • ffioedd proffesiynol
  • rhent

Costau uniongyrchol neu amrywiol

Mae’r costau hyn yn newid wrth i chi werthu mwy. Er enghraifft, mae costau deunyddiau crai, pecynnu a chyflenwi’n gostau amrywiol gan eu bod yn newid yn dibynnu ar nifer yr unedau rydych chi'n eu cynhyrchu.

Yn aml, bydd gan fusnesau sy’n darparu gwasanaeth lai o gostau amrywiol, ond gall y rhain gynnwys ffioedd ar gyfer cymorth gweithwyr llawrydd neu isgontractwyr.

Mae costau amrywiol yn cynnwys:

  • deunyddiau crai
  • costau llafur uniongyrchol ar gyfer y staff sy’n gysylltiedig â chynhyrchu cynnyrch neu ddarparu gwasanaethau
  • pecynnu
  • ffioedd dosbarthu
  • cyfleustodau safle gweithgynhyrchu neu warws
  • costau dibrisiad ar offer a pheiriannau cynhyrchu

Costau cyfalaf

Mae’r rhain yn gostau sefydlog sydd o fudd i’r busnes am gyfnod hir. Mae’n cynnwys eitemau fel peiriannau, offer a cherbydau’r cwmni. Mae costau cyfalaf yn cael eu galw’n asedau cyfalaf hefyd.

Dibrisiad

Dyma’r term mae cyfrifwyr yn ei ddefnyddio i roi gwerth ar y draul a’r defnydd sydd ar eich asedau cyfalaf. Mae gwerth pethau fel peiriannau, offer a cherbydau’n disgyn wrth iddyn nhw gael eu defnyddio a’u treulio. Mae dibrisiad yn golygu y gallwch chi rannu cost yr asedau hyn, ac maen nhw’n cael eu dileu yn erbyn elw sawl blwyddyn yn hytrach na’r flwyddyn y gwnaethoch chi eu prynu nhw’n unig.

Yn gyffredinol, mae eitemau cyfalaf yn dibrisio oddeutu 25% bob blwyddyn. Siaradwch â’ch cyfrifydd neu â’ch cynghorydd busnes yn Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sut mae cyfrifo dibrisiad ac ar ba eitemau.

Defnyddiwch y templed hwn i nodi’r gwahanol gostau yn eich busnes. Defnyddiwch y gwahanol dabiau ar y daenlen i nodi’ch costau cyfalaf, eich costau sefydlog a'ch costau amrywiol Costau Cyfalaf, Costau Sefydlog / Gorbenion, Costau Uniongyrchol / Amrywiol (MS Word 764kb).

 

Nesaf: Costio eich Cynnyrch neu Wasanaeth