1. Trosolwg

Mae datblygu eich syniad busnes yn gynnyrch neu'n wasanaeth hyfyw yn rhan allweddol o adeiladu busnes. Bydd asesu ac ymchwilio i'r farchnad yn gynnar yn eich helpu i benderfynu p'un a oes marchnad ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth ai peidio.

Unwaith i chi ddechrau masnachu, bydd cynhyrchion a gwasanaethau newydd yn bwysig iawn, ac mae buddsoddi yn eu datblygiad yn hanfodol i dwf a phroffidioldeb busnes. Ond gall y broses ddatblygu ei hun fod yn risg a bydd angen cryn gynllunio a threfnu arno.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i asesu a all eich syniad fod yn sail i fusnes llwyddiannus a rhoi proses ar waith i fonitro a mesur ei gynnydd.

Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ariannu'r broses o ddatblygu eich syniad a sut i'w ddiogelu os byddwch yn gweithio gyda phobl eraill.

Cewch hefyd hyd i wybodaeth ar y broses ddatblygu ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd, a fydd o gymorth i chi i wrth wneud penderfyniadau ymarferol ar fuddsoddiadau a chyllidebau. Mae'r canllaw hwn hefyd yn rhoi cyngor ar sut orau i lunio tîm datblygu cynhyrchion ac i reoli prosiect.

2. Darganfod a datblygu eich syniad newydd ar gyfer busnes

Mae syniad newydd yn aml yn sail i ddechrau busnes. Mae llawer o entrepreneuriaid yn canfod bwlch yn y farchnad ac yn dechrau busnesau sy'n darparu cynnyrch neu wasanaeth sy'n ei lenwi. Mae eraill yn meddwl am ffyrdd o wella cynnyrch sy'n bodoli eisoes.

Meddwl am syniad newydd

Os ydych am ddechrau busnes ond nad oes gennych syniad i'w ddatblygu eto, mae llawer o ffyrdd o fynd ati i nodi un. Gall y cwestiynau canlynol helpu:

  • a oes gennych unrhyw sgiliau penodol a allai fod yn sail i fusnes newydd?
  • a ydych yn ymwybodol o fwlch yn y farchnad yn y diwydiant rydych yn gweithio ynddo ar hyn o bryd?
  • a oes gennych hobi y gallech ei droi'n fusnes?
  • a fu angen gwasanaeth neu gynnyrch penodol arnoch ar unrhyw adeg nad oes unrhyw un arall yn ei ddarparu? Os oedd ei angen arnoch chi, mae'n debygol iawn y bydd ei angen ar bobl eraill hefyd
  • a allwch helpu i ddatrys unrhyw broblemau sydd wedi'u rhoi ar wefan Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) gan adrannau'r llywodraeth a sefydliadau o'r sector cyhoeddus? Mae SBRI yn gynllun gan y llywodraeth a gefnogir gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg sy'n dyfarnu arian i ddatblygu syniadau arloesol

Datblygu eich syniad

Unwaith y bydd gennych syniad busnes, cymerwch amser i'w fireinio. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a allai fod yn sail i fusnes llwyddiannus.

Mae amrywiaeth o ddulliau sefydledig o ddatblygu syniad busnes. Gallwch:

  • gynnal ymchwil i'r farchnad i ganfod a yw eich syniad yn llenwi bwlch yn y farchnad  
  • trafod eich syniad gyda ffrindiau, cydweithwyr neu staff - gallant roi safbwyntiau gwahanol ar y syniad ac mae'n bosibl y byddant yn gwybod a oes rhywun arall yn gwneud yr un peth
  • ystyried p'un a all eich syniad fanteisio ar gyfle a grëir gan dechnolegau newydd, ee gan fasnachu ar-lein
  • ystyried p'un a fydd tueddiadau cymdeithasol yn effeithio ar y galw am eich cynnyrch, ee y galw cynyddol am fwyd organig neu bryderon am gynhesu byd-eang a'r ôl-troed carbon

Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd

Mae llawer yn y fantol wrth i chi ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd. Er mwyn lleihau'r risgiau a dyrannu adnoddau a buddsoddiad yn ddoeth, dylech ystyried nifer o ffactorau, yn cynnwys anghenion cwsmeriaid a dyluniad, tra hefyd yn gwneud eich cynlluniau'n glir.

Mae sesiynau blasu sy'n rhoi cyfle i unigolion gael cipolwg ar wirioneddau hunan gyflogaeth yn cael eu cynnal ar draws Cymru. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

3. A oes marchnad i'm syniad?

Mae meini prawf penodol y gallwch eu defnyddio i benderfynu a oes marchnad neu alw am eich cynnyrch neu wasanaeth:

  • a yw'n diwallu neu'n creu angen yn y farchnad?
  • a allwch nodi darpar gwsmeriaid?
  • a fydd yn parhau'n hirach na thueddiadau cyfredol neu'n manteisio ar y duedd cyn iddi ddiflannu?
  • a yw'n unigryw, yn wahanol neu'n well na'r hyn a gynigir gan gystadleuwyr?
  • pa gystadleuaeth a fydd yn ei wynebu - uniongyrchol neu anuniongyrchol, lleol, cenedlaethol neu fyd-eang?
  • a yw'r cynnyrch yn ddiogel i'w cyhoedd ei ddefnyddio ac a yw'n cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol? Ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn dechrau.
  • a fydd y farchnad eisiau eich cynnyrch neu wasanaeth am bris realistig?

Gall ymchwil i'r farchnad chwarae rhan bwysig wrth ateb llawer o'r cwestiynau hyn a gwella eich siawns o lwyddo. Mae'n llawer gwell treulio amser yn ymchwilio cyn i chi fuddsoddi eich arian. Cofiwch, er ei bod yn bosib mai defnyddwyr terfynol eich cynnyrch neu wasanaeth newydd fydd eich cwsmeriaid pwysicaf, fe allech orfod cymryd anghenion eraill, megis manwerthwyr neu ddosbarthwyr, i ystyriaeth.

Mae'n bwysig iawn eich bod mor drylwyr â phosibl wrth ymchwilio i'r farchnad, oherwydd gallai camgymeriadau yn ystod y cam hwn o'r broses ddatblygu i fod yn gostus maes o law. Cofiwch, po fwyaf o wybodaeth sydd gennych, gorau oll y bydd eich dealltwriaeth o'ch darpar gwsmeriaid, y farchnad a pha mor addas yw eich cynnyrch. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw camgymeriadau cyffredin wrth ddechrau busnes – a sut i’w hosgoi.

Eich cystadleuaeth

Nid yn unig bydd angen i chi ateb anghenion eich cwsmeriaid, dylech wneud hynny mewn modd sy'n well na'r hyn a gynigir gan eich cystadleuwyr.

Dylai fod gan eich cynnyrch neu wasanaeth newydd gynnig gwerthu unigryw - nodwedd neu briodoledd sy'n golygu ei fod yn sefyll allan yn y farchnad. Cyn ei gyflwyno i'r farchnad, byddwch angen casglu 'gwybodaeth gystadleuol' trwy bennu:

  • sut mae anghenion cwsmeriaid yn cael eu diwallu ar hyn o bryd
  • pam fyddai cwsmeriaid yn dewis eich cynnyrch neu wasanaeth yn hytrach na chynnyrch neu wasanaeth eich cystadleuwyr, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • pa risgiau ydych chi'n fodlon eu cymryd er mwyn lansio eich cynnyrch neu wasanaeth yn y farchnad hon

Bydd y cwrs BOSS hwn yn eich helpu i adnabod eich cwsmeriaid a'u cadw'n gwsmeriaid.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

4. Cynllunio'r broses o ddatblygu eich syniad

Ceisiwch nodi'r camau allweddol neu'r cyfnodau gwerthuso yn y broses o ddatblygu eich syniad.  Mae pob cyfnod gwerthuso yn rhoi cyfle i chi ystyried cynnydd eich cynnyrch neu wasanaeth a phenderfynu a oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ystyried ar ddiwedd pob cam os ydych am barhau â'r syniad ai peidio. Dylai unrhyw syniad sy'n annhebygol o lwyddo gael ei ollwng mor fuan â phosib cyn buddsoddi gormod o arian ac amser ynddo.

Gall eich cyfnodau gwerthuso gynnwys:

  • dylunio  - troi eich syniad yn gynnyrch neu wasanaeth y mae modd ei werthu
  • prototeipio - creu enghraifft y gellir ei defnyddio o'ch cynnyrch neu wasanaeth, i'w phrofi'n ddiweddarach
  • diogelu - gwneud cais am batent os ydych wedi dyfeisio cynnyrch neu fath o dechnoleg
  • ariannu - codi'r arian y bydd ei angen arnoch i ddechrau eich busnes
  • gweithrediadau - sefydlu strwythur eich busnes, ee dod o hyd i leoliad addas, cyflogi staff, ac ati
  • marchnata  - penderfynu sut y byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaeth

Gwerthuso eich cynnydd

Os na fyddwch yn cyflawni nodau unrhyw un o'ch cyfnodau gwerthuso, bydd angen i chi ddadansoddi'r rheswm am hynny. Gofynnwch i'ch hun p'un a oedd eich amcanion yn afresymol. Os oeddent, efallai y bydd angen i chi ddiwygio eich amcanion.

Dylech ailystyried eich syniad gwreiddiol o dan rai amgylchiadau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • datblygu cynnyrch neu wasanaeth nad yw'n fasnachol hyfyw ac na fydd yn cynhyrchu elw rhesymol
  • datblygu cynnyrch nad yw'n dechnegol hyfyw, ee ni ellir ei weithgynhyrchu neu nid yw'n bodloni gofynion perfformiad
  • rhywun arall yn rhyddhau cynnyrch neu wasanaeth sy'n debyg iawn neu'n union yr un fath â'ch un chi, yn enwedig os yw'n gystadleuydd mawr neu hirsefydledig

5. Ariannu eich syniad a rheoli costau

Sicrhau digon o arian yw un o'r rhwystrau mwyaf sy'n wynebu entrepreneuriaid. Mae'n bosibl y bydd eich anghenion ariannu yn newid yn ystod y broses o ddatblygu eich cynnyrch oherwydd gall gymryd mwy o amser neu arian nag yr oeddech yn ei ddisgwyl yn wreiddiol.

Benthyciadau a gorddrafftiau yw'r ffyrdd mwyaf cyffredin o godi arian ar gyfer busnes newydd. Ond mae digonedd a opsiynau eraill hefyd, yn cynnwys:

  • gwerthu cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau eraill a allai fod gennych
  • benthyca arian gan deulu neu ffrindiau
  • trefnu ailforgais ar eich eiddo
  • benthyca gan gorff nad yw'n fanc - ee gan undeb credyd neu fenthyciad cyfoedion-gyfoedion
  • grant llywodraeth
  • buddsoddiad angel busnes neu gyfalafwr menter

Cofiwch gynnwys digon o arian wrth gefn yn eich rhagamcanion ariannol ar gyfer yr hyn nad ydych wedi cynllunio ar ei gyfer neu'r annisgwyl. Does dim diben gwneud buddsoddiad a rhedeg allan o arian cyn i'ch busnes sefydlu ei hun.

Mae nifer o wahanol ddulliau ariannu ar gael i fusnesau. Darllenwch ein canllawiau sy'n egluro'r prif wahaniaethau ynghyd â’r prif bethau i’w hystyried wrth benderfynu pa opsiwn sydd fwyaf addas i’ch busnes chi. Mathau o gyllid a sut i wneud cais

Mae'n bwysig cynllunio unrhyw fuddsoddiad a rheoli eich costau'n ofalus. Dylech:

  • gynnwys buddsoddiadau'r dyfodol mewn cynhyrchion a gwasanaethau yn eich cynllun busnes strategol
  • paratoi'n union lle fydd y buddsoddiad hwn yn cael ei gyfeirio
  • cyfiawnhau'r gwariant ar bob prosiect datblygu
  • rheoli eich costau

Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau buddsoddi, dylech ystyried faint mae eich cwmni'n debyg o fod ar ei ennill o'r cynnyrch neu wasanaeth newydd. Cymharwch hyn yn erbyn unrhyw risgiau sy'n eich wynebu.

Gweld sut mae rheoli cyllid eich busnes gyda'r cwrs BOSS byr hwn Cynllunio Ariannol ar gyfer eich Busnes Newydd.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

Datblygu cynnyrch newydd fesul cam

Un ffordd o leihau'r risgiau sy'n eich wynebu ydy buddsoddi fesul cam mewn prosiectau. Trwy adolygu prosiect ar ddiwedd pob cam o'i ddatblygiad, gallwch ddirnad pa gynhyrchion neu wasanaethau sy'n annhebygol o fod yn llwyddiannus. Os yw'r cynnyrch neu wasanaeth yn methu â chyrraedd meini prawf sefydledig, dylech ystyried dod â'r prosiect i ben. Os yw'n llwyddo i fodloni'r meini prawf, gallwch ddyrannu'r adnoddau i'w alluogi i gyrraedd y cam datblygu nesaf.

Rheoli costau

Mae'n gwbl hanfodol cadw llygad barcud ar gostau wrth i chi ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd er mwyn sicrhau nad ydynt yn cynyddu y tu hwnt i unrhyw reolaeth. Dylech:

  • amcangyfrif costau datblygu ymlaen llaw
  • monitro gwariant trwy gydol y broses ddatblygu
  • cyflwyno buddsoddiad fesul cam

Mae 2 brif ddull o amcangyfrif costau:

  • dull o'r brig i lawr lle byddwch yn ystyried prosiectau cymaradwy blaenorol a'u defnyddio'n feincnod
  • dull o'r gwaelod i fyny lle mae pob aelod o'r tîm yn cytuno eu costau disgwyliedig gydag un rheolwr prosiect a fydd yna'n amcangyfrif cyfanswm y costau

Cofiwch y gallai eich costau gynnwys staffio, deunyddiau, technoleg, dylunio cynnyrch, ymchwilio'r farchnad, creu prototeipiau a gorbenion.

6. Creu tîm datblygu prosiect

Mae angen tîm datblygu pwrpasol ar gyfer pob cynnyrch neu wasanaeth newydd posibl.

Wrth greu eich tîm byddwch angen cynnwys pobl gydag amrywiaeth o sgiliau. Er enghraifft, efallai y byddwch angen unigolyn sy'n gallu cynnig syniadau creadigol, rhywun â sgiliau technegol arbenigol, arbenigwr marchnata, rhywun sy'n deall anghenion cwsmeriaid i fod yn gyfrifol am ymchwil i'r farchnad, rhywun a all gael gafael ar gydrannau a rhywun sy'n deall yr anawsterau y gallech eu hwynebu o ran y gadwyn gyflenwi.

Dylai pob aelod o'r tîm ddeall amcanion eich busnes ac ymrwymo iddynt.

Ceir sawl dull o weithio'n effeithiol fel tîm a bydd y dull cywir i chi yn dibynnu ar anghenion eich busnes. Er enghraifft, fe allai aelodau o'r tîm:

  • weithio'n benodol ar un prosiect mewn un adran, gan adrodd i reolwr prosiect
  • weithio ar un prosiect yn unig ond yn parhau mewn adrannau gwahanol gan adrodd i benaethiaid adrannau sy'n atebol i'r rheolwr prosiect
  • weithio ar sawl prosiect ar yr un pryd gyda phennaeth adran a rheolwr prosiect i fonitro cynnydd

Mae timau angen rhywun sy'n gweithredu fel rheolwr prosiect i'w harwain, eu cydlynu a'u hysgogi.

Darganfyddwch yma sut i feithrin eich sgiliau arwain trwy ddysgu sut i ysgogi, cyfathrebu a monitro effeithiolrwydd eich tîm gyda'r crws BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

7. Rheoli prosiect datblygu

Mae rheolwyr prosiect yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff cynhyrchion neu wasanaethau newydd eu datblygu'n llwyddiannus. Mae'r rheolwr prosiect yn gyfrifol am:

  • reoli costau a dyrannu adnoddau
  • llunio manyleb y cynnyrch neu'r gwasanaeth
  • cydlynu'r tîm datblygu cynnyrch 
  • llunio amserlen ar gyfer y broses ddatblygu
  • chwilio am broblemau

Llunio amserlen ar gyfer y broses ddatblygu

Dylai eich rheolwr prosiect lunio llwybr critigol ar gyfer cwblhau tasgau a chamau allweddol yn y broses datblygu cynnyrch. Dylai amcanion CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol) gael eu cyflwyno i helpu i fesur a monitro cynnydd.

Fodd bynnag, rhaid cynnwys elfen o hyblygrwydd yn eich cynlluniau, er mwyn i chi fedru delio ag unrhyw agweddau annisgwyl sy'n dod i'r amlwg. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddelio â newid ym manylebau'r prosiect neu'r dyddiad cwblhau disgwyliedig.

8. Y broses datblygu cynnyrch

Gall proses ddatblygu effeithiol ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau gael ei rhannu'n nifer o gamau allweddol:

  • cynhyrchu syniadau - cael syniadau arloesol newydd
  • didoli syniadau - cael gwared ar unrhyw syniadau nad ydynt yn werth eu datblygu
  • diffinio cysyniad - ystyried manylebau megis hyfywedd technegol a photensial y farchnad. Os ydych yn cynllunio cynnyrch newydd, dylech ystyried y broses ddylunio nawr
  • dadansoddiad strategol - sicrhau bod eich syniadau yn cyd-fynd â chynlluniau strategol eich busnes
  • datblygu cysyniad - creu cynnyrch prototeip neu wasanaeth peilot
  • prawf-farchnata a chadarnhau'r cysyniad - addasu eich cynnyrch neu eich gwasanaeth yn unol ag adborth gan y cwsmer, y gweithgynhyrchwr a sefydliadau cymorth. Mae hyn yn golygu penderfynu ar yr amser a'r broses orau ar gyfer treialu eich cynnyrch neu eich gwasanaeth newydd
  • lansio'r cynnyrch - cyn pennu dyddiad i'w lansio, dylech benderfynu sut i werthu, hyrwyddo a chefnogi eich cynnyrch neu wasanaeth. Mae'n hanfodol eich bod yn taro deuddeg o'r cychwyn cyntaf. Ond dylid cydbwyso unrhyw benderfyniadau i oedi cyn lansio yn erbyn y perygl y bydd eich cystadleuwyr yn achub y blaen arnoch o ran cyrraedd y farchnad

Efallai y bydd rhai o'r camau hyn yn gorgyffwrdd â'i gilydd yn ymarferol, ond bydd cynnal proses datblygu cynnyrch sydd wedi'i rhannu'n gamau yn helpu i gadw amseriad a chostau'r prosiect o dan reolaeth.

Cylch bywyd cynhyrchion a gwasanaethau

Mae gan bob cynnyrch a gwasanaeth gylch bywyd - dyma'r cyfnod sy'n rhedeg rhwng y syniad cychwynnol a datblygiad cynnyrch i'r adeg pan y caiff ei dynnu o'r farchnad a thu hwnt. Mae 5 cam allweddol i gylch bywyd unrhyw gynnyrch neu wasanaeth:

  • datblygu
  • cyflwyno
  • tyfu
  • aeddfedu
  • dirywio

Mae adnabod y cam y mae cynhyrchion neu wasanaethau arni yn ystod eu cylch bywyd yn ganolog i'ch proffidioldeb.

9. Prisio eich gwasanaeth neu eich cynnyrch arfaethedig

Mae llunio strategaeth brisio ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd yn rhan bwysig o'r broses ddatblygu. Dylech ystyried prisio o'r eiliad y byddwch yn penderfynu datblygu syniad gan y bydd yn pennu faint o arian y gallwch fforddio ei fuddsoddi yn y prosiect.

Bydd angen i chi ystyried y ffactorau canlynol:

  • manteision - neu werth - eich cynnyrch neu eich gwasanaeth i'r cwsmer o gymharu â'r hyn sydd gan y gystadleuaeth i'w gynnig. A fydd cwsmeriaid yn barod i dalu'r pris yr ydych am ei godi?
  • pa 'run ai chi yw'r cyntaf i'r farchnad ai peidio - ydy eich cynnyrch neu eich gwasanaeth yn arloesol neu a ydych yn dilyn tuedd yn y farchnad?
  • y sianelau gwerthu rydych am eu defnyddio gan y bydd hyn yn effeithio eich gwariant ar hyrwyddo a'ch costau dosbarthu
  • pa mor gyflym rydych am sefydlu eich cynnyrch neu eich gwasanaeth
  • cylch bywyd disgwyliedig eich cynnyrch neu eich gwasanaeth
  • faint fyddwch angen codi i gwmpasu eich costau cynhyrchu

Gellir defnyddio tactegau prisio strategol i hybu gwerthiant a rheoleiddio galw.

Isio prisio'ch cynhyrch / gwasanaethau? Gall y cwrs BOSS hwn eich helpu i ddeall y gwahanol ffyrdd o brisio, a pha dactegau y dylech eu.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

10. Rhannu eich syniadau ag eraill

Ar ryw adeg, mae'n debygol y byddwch am drafod eich syniad gyda thrydydd parti. Ond unwaith y bydd syniad yn cael ei ddatgelu i arall, ni ellir bellach ei ystyried yn gyfrinachol na'n gyfrinach masnachol. Felly byddwch angen cymryd camau i ddiogelu eich eiddo deallusol.

Cyn siarad â thrydydd partïon, mae'n syniad da gofyn iddynt lofnodi cytundeb cyfrinachedd neu beidio â datgelu i'w hatal rhag rhannu manylion eich syniad ag eraill.

Eiddo deallusol

Mae gan bob busnes eiddo deallusol. Eiddo deallusol eich busnes yw'r hyn sy'n eich gwahaniaethu oddi wrth eich cystadleuwyr. Er enghraifft, gallai gynnwys enw, logos, dyfeisiadau, dyluniadau cynnyrch neu waith creadigol arall sy'n perthyn i'ch busnes.

Gan fod eich eiddo deallusol yn debygol o fod yn ased gwerthfawr, byddai'n ddoeth helpu i sicrhau dyfodol eich busnes trwy ei ddiogelu'n gyfreithiol. Am wybodaeth pellach am Eiddo Deallusol ewch i’n tudalen Eiddo Deallusol

Rhaid i chi geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Mae yna hefyd gwrs BOSS am y gwahanol fathau o eiddo deallusol (IP) a pham eu bod yn bwysig i chi a'ch busnes.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

11. Profi'r farchnad

Mae profi cynnyrch yn bwysig drwy gydol y broses ddylunio. Tra byddwch yn datblygu eich cynnyrch neu wasanaeth mae'n syniad da parhau i brofi'r farchnad er mwyn gwneud yn siŵr eich bod ar y trywydd cywir o hyd. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio:

  • grwpiau ffocws - gofynnwch i grwpiau bach o'ch cwsmeriaid targed beth maent yn chwilio amdano gan eich cynnyrch neu wasanaeth 
  • holiaduron - ceisiwch gael sampl mor eang â phosibl
  • prototeipiau - dangoswch fersiwn cynnar o'ch cynnyrch i gwsmeriaid. Mae'n bosibl y bydd eich prototeip yn mynd drwy sawl cam o ddatblygu wrth i chi fireinio eich syniad

Mae'n bosibl y bydd angen i chi ymateb i awgrymiadau gan ddefnyddwyr drwy addasu'r dyluniad. Peidiwch â digalonni, oherwydd mae'r rhan fwyaf o entrepreneuriaid llwyddiannus yn ystyried hyn yn wers i'w dysgu, ac nid yn fethiant.

Mae'n syniad da anfon eich cynnyrch at ddarpar gwsmer neu ddefnyddiwr mawr neu sydd ag enw da. Bydd geirdaon cadarnhaol yn amhrisiadwy pan fyddwch yn cysylltu â chwsmeriaid eraill.

Mae'n bosibl y byddwch am ystyried cynnal profion hyd yn oed ar ôl i chi ddechrau gwerthu eich cynnyrch. Gall cadw mewn cysylltiad parhaus â chwsmeriaid ddatgelu gwendidau eich cynnyrch a chyfleoedd posibl nad ydych wedi sylwi arnynt o bosibl.

Pan fydd gennych gynnyrch terfynol, gallwch fynd ati i ddatblygu brand. Mae brand yn cynnwys popeth sy'n weladwy i'r cwsmer, fel enw'r cynnyrch, ei ddeunydd pecynnu a'r ffordd y caiff ei ddarparu.

Mae angen i chi hefyd ystyried eich polisi prisio. Mae angen i chi gyfrifo cost yr holl ddeunyddiau, mewnbynnau eraill, peiriannau, prosesau ac amser gweinyddol yn realistig. Bydd angen i chi ymchwilio i wahanol gyflenwyr a chost marchnata a dosbarthu. Yna ceisiwch ganfod prisiau eich cystadleuwyr. Gallwch bennu pris eich cynnyrch neu wasanaeth fel ei fod yn ddeniadol i gwsmeriaid ac yn gwneud elw ar yr un pryd.

Darganfyddwch fwy am sefydlu brand gyda'r  cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

12. Rhestr wirio: datblygu cynnyrch neu wasanaeth

Bydd y rhestr wirio ganlynol yn eich helpu chi i ddeall popeth sydd angen rhoi ystyriaeth iddo wrth ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd:

  • a ydych wedi ymgynghori ag aelodau eich tîm ynghylch eich cynlluniau datblygu? Gallent gynnig sylwadaeth craff a bod â phrofiad defnyddiol

  • a ydych wedi holi cyflenwyr, cwsmeriaid a chysylltiadau busnes eraill? Fe allai eu harbenigedd fod yn werthfawr iawn

  • a ydych wedi ystyried eich darpar farchnad a'r gystadleuaeth?

  • a ydych wedi ystyried sut ydych chi am brisio eich cynnyrch neu eich gwasanaeth a sut i sicrhau fod hynny'n cwmpasu eich costau? 

  • a ydych wedi ystyried sut fyddwch chi'n cyflwyno datblygiad eich cynnyrch newydd a rheoli eich gwariant? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dwyn gwaith ar unrhyw syniadau sydd ddim yn bodloni eich meini prawf i ben cyn ymrwymo amser ac adnoddau helaeth. 

  • a ydych wedi ystyried pwy sydd angen bod yn rhan o'ch tîm datblygu cynnyrch a sut fyddant yn cydweithio? 

  • a ydych wedi ystyried pwy fydd yn rheoli'r tîm? 

  • a ydych wedi ystyried unrhyw reoliadau (yn cynnwys rheoliadau amgylcheddol) a allai effeithio eich cynnyrch neu eich gwasanaeth newydd?

  • a ydych wedi edrych y tu hwnt i botensial cyfredol y cynnyrch neu'r gwasanaeth newydd ac wedi ystyried y tymor hwy?

 

Nesaf: Cael help