1. Crynodeb

Y cwsmer cyntaf un yw'r un anoddaf ei ddenu bob tro. Mae'r adran hwn yn rhoi ychydig o gyngor call i'ch helpu i ymateb i'r her hon.

2. Cael eich cwsmer cyntaf

Does neb am fynd i mewn i fwyty sy'n hollol wag. Mae pobl am wybod bod gennych chi gwsmeriaid eraill eisoes sy'n fodlon ar eich gwasanaeth.

Mae hyn yn broblem – er mwyn cael cwsmeriaid mae angen bod gennych chi gwsmeriaid eisoes! Dyma ambell gyngor i'ch helpu i gael y cwsmer cyntaf un hwnnw.

1. Defnyddiwch farchnad sy'n gynnes.

Pwy yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o brynu gennych chi neu o roi geirda ichi? Ffrindiau - neu eu ffrindiau nhw, teulu, cymdogion, cyn-gydweithwyr neu gyflenwyr, pobl rydych chi'n eu hadnabod yn gymdeithasol, yn y clwb golff, yn y gym, ar y daith i'r ysgol, ac ati. Gwnewch restr o'r cysylltiadau 'cynnes' hyn a'u defnyddio i ledaenu'r gair.

2. Dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi'n ei wneud

Anfonwch lythyr personol a dilyn hynny gyda galwad ffôn ychydig ddiwrnodau wedyn. Neu trefnwch gyfarfod brecwast, cinio neu dros baned, neu ffoniwch nhw am 'sgwrs' rhoi’r byd yn ei le. Soniwch am eich busnes newydd a chreu diddordeb a chyffro am yr hyn rydych chi'n ei wneud.

3. Rhowch eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth am ddim

Beth bynnag yw eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth, gallwch ei gynnig i'ch cwsmer(iaid) cyntaf am ddim. Hyd yn oed os bydd hyn yn costio arian ichi, mae fel rheol yn rhatach na'r rhan fwyaf o fathau eraill o weithgarwch marchnata. A does dim rhaid iddo fod am ddim am byth - gallwch godi ar y cwsmeriaid hyn y tro nesaf y byddan nhw'n prynu gennych chi.

4. Cynigiwch fargen dda

Mae'n syniad da cynnig pris ffafriol iawn i'ch cwsmeriaid cyntaf. Rydyn ni i gyd wedi gweld y bargeinion "Cynnig Agoriadol Arbennig - Dim ond yr Wythnos yma" Ceisiwch annog pobl i roi cynnig arnoch chi.

5. Defnyddiwch Rwydweithiau Cymdeithasol

Mae Facebook, Twitter, LinkedIn a llawer o safleoedd Rhwydweithio Cymdeithasol eraill am ddim ac yn wych am ledaenu'r gair. Rhestrwch eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth, cynigiwch gynnig arbennig cychwynnol rhad gan esbonio eich bod wrthi'n cychwyn arni.

6. Gofynnwch i'r rhai sy'n cystadlu â chi am waith sydd ganddyn nhw dros ben

Ie, dyna ni, y rhai sy'n cystadlu â chi! Siaradwch â phobl eraill yn eich maes a chael gwybod a allwch chi roi help llaw iddyn nhw. Os ydyn nhw'n brysur iawn neu fod ganddyn nhw gwsmeriaid bach sydd ddim yn broffidiol iddyn nhw, efallai y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn is-gontractio neu anfon gwaith i’ch cyfeiriad chi.

7. Gofynnwch i'ch cyn-gyflogwr a allwch chi weithio iddyn nhw

Efallai fod eich cyn-gyflogwr yn chwilio am gyflenwyr newydd neu am gontractwyr allanol i wneud rhywfaint neu'r cyfan o'r gwaith yr oeddech chi'n arfer ei wneud - yn enwedig os ydyn nhw wedi crebachu. Pam na holwch chi i weld a allwch chi roi help llaw iddyn nhw. Efallai na fyddwch chi am weithio iddyn nhw am byth, ond fe allen nhw fod yn gwsmer cyntaf da.

Gair bach i orffen

Cofiwch ofyn i'ch cwsmeriaid cyntaf am eirda i'w roi ar eich gwefan ac yn eich deunydd marchnata. Bydd cwsmeriaid bodlon yn hybu rhagor o gwsmeriaid.... llawer rhagor!