1. Crynodeb

Mae cyfleu'ch neges i ddarpar gwsmeriaid a'u perswadio nhw i brynu'n her. Mae'r adran hwn yn help ichi weld pa dechnegau i'w defnyddio er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

2. Hyrwyddo'ch busnes

I lawer o bobl, pan fyddan nhw'n meddwl am farchnata, byddan nhw'n meddwl am hyrwyddo. Mae cannoedd o arfau a thechnegau ar gael ichi eu defnyddio i hyrwyddo'ch busnes. Yr her yw cael y gynulleidfa fwyaf bosibl am y gost leiaf a sicrhau'r canlyniadau gorau.

Arfau marchnata poblogaidd ichi eu hystyried

Hysbysebu mewn papur newydd Cysylltiadau Cyhoeddus Telefarchnata Gwefan
Cylchgronau Cymraeg neu mewn ieithoedd eraill Post uniongyrchol Llyfrynnau Marchnata drwy'r e-bost
Cylchgronau i ddefnyddwyr Fideo Taflenni Facebook
Papurau newydd lleol a phapurau bro Sioeau masnach Llythyrau gwerthu Twitter
Cylchgronau cymunedol Arddangosfeydd Cardiau post LinkedIn
Radio Digwyddiadau Atgyfeiriadau SEO (optimeiddio chwilotwyr)
Cyfeiriaduron ar-lein Rhwydweithio Taflenni hysbysebu PPC (hysbysebu talu-wrth-glicio)
Treialu/samplo am ddim O ddrws i ddrws Cyflwyniadau Geirdaon ac astudiaethau achos

Cyn gwario arian, edrychwch ar hwn

Cyn i chi wario unrhyw arian ar weithgarwch marchnata, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:

  • a fyddaf yn cyrraedd fy cwsmeriaid targed os wyf yn gwneud hyn ac, os felly, faint?
  • a fyddaf yn gallu dweud wrthynt sut maent yn elwa neu ganlyniadau y maent yn ei gael?
  • faint mae'n mynd i gostio i mi?
  • a fydd yn cyd-fynd â gweithgareddau marchnata eraill wyf yn ei wneud?
  • pa ganlyniadau sydd angen i mi ei wneud yn werth chweil?

3. AIDA (yn Saesneg Attention, Interest, Desire, Action)

Nod unrhyw weithgarwch marchnata yw troi dieithryn sy'n gwybod dim amdanoch chi, eich busnes neu'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau, yn gwsmer ffyddlon sy'n dychwelyd dro ar ôl tro.

Er mwyn gwneud hynny, mae angen ichi fynd â nhw drwy bedwar cam –Denu eu Sylw, Denu eu Diddordeb, Creu Awydd ynddyn nhw ac wedyn eu cael nhw i Weithredu.

AIDA (yn Saesneg Attention, Interest, Desire, Action)

Dyma enghraifft o sut mae hyn yn gweithio ar gerdyn busnes.

AIDA Business Card

4. Creu neges farchnata lwyddiannus

Eich neges farchnata yw'r hyn sy'n bachu sylw'ch cwsmeriaid, sy'n dweud wrthyn nhw sut y gallwch chi ddatrys eu problem, pam y dylen nhw ymddiried ynoch chi, a pham y dylen nhw eich dewis chi yn anad neb arall.

Peidiwch â sôn am hanes eich cwmni a dweud pa mor wych ydych chi a dim byd arall, mae hynny'n ddiflas ac yn ddi-fflach! Gwnewch y peth yn gyffrous ac yn ddiddorol.

Dyma rhai cynghorion i'ch helpu i greu neges farchnata lwyddiannus:

  • siaradwch â'ch cwsmer a defnyddio'r union eiriau y byddan nhw'n eu defnyddio
  • ystyriwch neges ddwyieithog er enghraifft, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • dywedwch wrthyn nhw pa ganlyniadau gân nhw wrth ddefnyddio'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth
  • crëwch bennawd sy'n gafael yn eu sylw - dyma sut:
    • gofynnwch gwestiwn - "Poeni am dapiau sy'n gollwng o hyd?"
    • dechreuwch gyda "Sut mae..." - "Sut mae troi pennau gyda steil gwallt newydd"
    • rhowch orchymyn - "Anelwch yn uchel", "Arbedwch arian", "Teimlwch yn well"
    • cyhoeddwch derfyn amser pwysig - "Blodau Bendigedig Jane yn Agor HEDDIW!"
    • cynigiwch rywbeth am ddim "Adroddiad AM DDIM am fwyta'n iach"
    • rhowch resymau iddyn nhw  - "50 Rheswm pam mae prynu'n lleol yn well na siopa tu allan i'r dre"
  • rhowch gynnig i'ch cwsmeriaid a rheswm dros weithredu nawr
  • dywedwch wrth eich cwsmer beth i'w wneud nesaf a pha bryd. Er enghraifft, Ffoniwch nawr, Cliciwch yma, Trefnwch apwyntiad, ac ati. Gwnewch bethau'n hawdd iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y cwrs BOSS hwn yn eich helpu i ddysgu am neu wella eich sgiliau marchnata.

5. Cynllunio'ch hyrwyddo

Cyn rhuthro mewn a gweithredu'n fyrbwyll, meddyliwch a chynlluniwch eich ymgyrch yn ofalus.

Defnyddiwr y templed cynllun hyrwyddo (MS Word 12kb) hwn i'ch helpu chi i gynllunio'ch gwaith hyrwyddo

Defnyddiwch y rhestr wirio hyrwyddo (MS Word 12kb) hon cyn anfon unrhyw ddeunydd marchnata at neb

 

Nesaf: Cynllunio Ymarferol ar gyfer Marchnata