1. Crynodeb

Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu. Mae'r adran hwn yn esbonio'n union beth yw marchnata (a beth nad yw marchnata) a sut mae rhoi hyn ar waith yn eich busnes.

2. Beth yw Marchnata?

Mae cwsmeriaid yn hanfodol i unrhyw fusnes. Does dim ots pa mor dda yw'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth, heb gwsmeriaid, does gennych chi ddim busnes!

Marchnata yw'r ffordd o gael cwsmeriaid ac mae marchnata effeithiol yn rhoi'r cwsmer yng nghanol eich busnes.

Dyma sut mae'r Sefydliad Marchnata Siartredig yn diffinio marchnata:

"Y broses farchnata sy'n gyfrifol am adnabod, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid mewn ffordd broffidiol."

Esboniad mwy syml yw bod marchnata'n rhoi set bwerus o arfau ichi, ac o'u cyfuno'n iawn ar gyfer eich busnes, a chynllunio'n iawn, mae’n gyrru llif cyson o gwsmeriaid yn syth at stepen eich drws.

3. Y 4 Peth Pwysig yn fy musnes

Hanfod marchnata yw cael y cynnyrch neu'r gwasanaeth iawn i'r cwsmer am y pris iawn, yn y man iawn, gan ddefnyddio'r dull hyrwyddo iawn - a gwneud elw i'ch busnes.

Dyma’r Pedwar Peth Pwysig wrth farchnata, neu gyfuniad o bethau sy’n rhan o’r broses farchnata: Cynnyrch, Pris, Hyrwyddo a Lle.

Mae'r Pedwar Peth Pwysig hyn yn werthfawr i’ch helpu chi i weld beth mae angen ei ddweud wrth gwsmeriaid a sut ac ymhle i ddweud hynny.

Noder: Mae'r model Pedwar Peth Pwysig wedi cael ei ehangu a'i ddatblygu’n ddiweddar ac efallai y byddwch chi hefyd yn clywed am y 7 Peth Pwysig sy'n rhoi sylw i wasanaethau yn hytrach na chynnyrch ac am fodel arall sy'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer.

Mae model y 7 Peth Pwysig yn ychwanegu tystiolaeth Ffisegol, Pobl a Phroses at y model gwreiddiol.

Mae'r model sy'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer yn cyfeirio at y Defnyddiwr, Cost, Cyfathrebu a Hwylustod. 

Serch hynny, mae model y 4 Peth Pwysig, yn dal yn fan cychwyn da er mwyn penderfynu sut y byddwch chi'n mynd ati i farchnata. Creu Cynnyrch y mae grŵp penodol o bobl am ei gael; ei Brisio ar lefel sy'n cyfateb i'r gwerth y maen nhw'n teimlo y maen nhw'n ei gael; ei Hyrwyddo er mwyn iddynt wybod amdano; a'i roi mewn Lle y bydd y bobl hynny'n ymweld ag ef yn aml.

Ffordd dda o ddeall y 4 Peth Pwysig yw gofyn cwestiynau ichi'ch hun am bob un. Mae hyn yn help ichi ddiffinio'ch marchnata. 

Defnyddiwch y templed hwn i edrych ar y 4 peth pwysig yn eich busnes chi (MS Word 31.7kb).

Bydd y cwrs BOSS yma'n rhoi trosolwg llawn ar sut i farchnata'ch busnes.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Nesaf: Beth rydych chi'n ei werthu?