1. Crynodeb

Nid ynys yw busnes. Mae'n hollbwysig gwybod beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a gweld sut y gallai hynny effeithio ar eich busnes. Mae'r adran hwn yn edrych ar yr hyn y mae angen ichi ei wybod ac mae'n cynnig fframwaith ar gyfer cael gafael ar y wybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd.

2. Dadansoddiad PEST (LE)

Mae'n hollbwysig gwybod beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a gweld sut y gallai hynny effeithio ar eich busnes. Mae gwneud dadansoddiad PEST yn ffordd dda o sicrhau eich bod chi'n rhoi sylw i bob agwedd.

Mae PEST yn edrych ar ffactorau Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol a Thechnolegol. Mae PESTLE yn ymhelaethu ar hyn i gynnwys ffactorau Cyfreithiol ac Amgylcheddol - defnyddiwch y model estynedig os yw'r meysydd hyn yn berthnasol i'ch busnes.

Defnyddio templed PESTLE

Ewch drwy bob un o'r adrannau yn y tabl a gofynnwch ichi'ch hun a oes unrhyw beth yn y maes hwn y dylech chi fod yn ymwybodol ohono. Bydd hyn yn amrywio o fusnes i fusnes - weithiau, ni fydd dim byd o bwys, ond fe allai meysydd eraill fod yn bwysig iawn

Gwleidyddol Economaidd

Deddfwriaeth y Llywodraeth: Cymru, y DU, Ewrop, rhyngwladol

Cyfraddau llog, cyfraddau cyfnewid

Prosesau/cyrff rheoleiddio

Y sefyllfa economaidd dramor

Polisïau'r Llywodraeth

Trethiant cyffredinol

Polisïau masnach

 

Arian grant a chymorth

 

 

Cymdeithasol Technolegol

Demograffeg (rydyn ni'n boblogaeth sy'n heneiddio)

Datblygiadau ym maes technoleg

Ffordd o fyw

Cyfathrebu

Patrymau prynu (dros y We, siopau tu allan i'r dref)

Gofynion o ran ynni

Dewis iaith

Deddfwriaeth

Ffasiwn

Eiddo deallusol

Hysbysebu

Arloesi

Materion moesegol (materion gwyrdd, yn erbyn ysmygu ac ati)

 

 

Cyfreithiol Amgylcheddol

Cyfraith cystadleuaeth

Cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd

Iechyd a Diogelwch

Materion sy'n ymwneud â gwastraff

 

Cyfraith cyflogaeth

Mwy o ymwybyddiaeth o'r amgylchedd

Cydraddoldeb a Gwahaniaethu

Normau'r diwydiant

Deddfwriaeth ar gyfer diwydiannau penodol

Llygredd

Amrywiadau lleol

Cynaliadwyedd

Newidiadau posibl/arfaethedig i ddeddfwriaeth

 

 

Defnyddiwch yr ymarfer Dadansoddiad Pestle (MS Word 11kb) i edrych ar eich busnes chi a nodi'r ffactorau PEST(LE) a allai effeithio arno.

3. Maint y farchnad

Un darn pwysig o wybodaeth sydd ei angen arnoch chi yw beth yw maint y farchnad rydych chi'n cystadlu ynddi. Rydych chi am gael gwybod a oes bwlch yn y farchnad ac a fydd digon o alw i gynnal eich busnes.

Edrychwch ar werth y farchnad yn ei chrynswth a hefyd beth yw maint y farchnad yn lleol. Efallai y bydd angen ichi edrych ar nifer yr unedau sy’n cael eu gwerthu os ydych chi'n gwerthu cynnyrch.

Dylech chi hefyd gael gwybod:

  • beth yw strwythur y farchnad
  • faint o sectorau sydd yn y farchnad
  • beth yw maint pob sector
  • faint o fusnesau sydd ym mhob sector

Er enghraifft, bydd llawer o farchnadoedd yn ymrannu'n segmentau: premiwm, canolig, a rhad, neu'n eitemau sydd wedi'u brandio a rhai sydd heb eu brandio.

Efallai yr hoffech chi gael gwybod sut mae'r farchnad yn ymrannu yn ôl sianel dosbarthu, er enghraifft, fe allai faint o gyfran o'r farchnad sydd gan y prif fanwerthwyr fod yn bwysig.

Mae cyfanswm y gwariant yn y farchnad yn ganllaw defnyddiol arall wrth amcangyfrif cost cymryd rhan yn y farchnad honno.

Ffynonellau gwybodaeth

Mae gwybodaeth am y farchnad yn ei chrynswth ar gael mewn nifer o ffynonellau gwybodaeth sy'n cael eu cyhoeddi, er enghraifft ystadegau'r llywodraeth, adroddiadau cymdeithasau masnach ac adroddiadau masnachol megis Keynote, Mintel ac Euromonitor. Edrychwch ar ystadegau eich Siambr Fasnach leol ac ystadegau Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am faint eich marchnad leol. Efallai y bydd yn rhaid ichi wneud rhywfaint o waith eich un i gael gwybod, er enghraifft, faint o siopau blodau sydd yn eich ardal.

Mae'n gallu bod yn anodd bod yn benodol ynglŷn â beth yw maint rhai marchnadoedd. Defnyddiwch y ffigurau sydd ar gael i amcangyfrif nifer bosib y cwsmeriaid yn eich sector. Cofiwch, rydych chi am fod yn siŵr bod y farchnad hon yn un hyfyw ichi ymuno â hi.

Defnyddiwch y templed hwn i'ch helpu chi i sefydlu neu amcangyfrif maint eich marchnad (MS Word 11kb).

 

4. Tueddiadau'r Farchnad

Mae'r byd yn symud yn gyflym ac mae'n bwysig gweld y tueddiadau yn eich marchnad, yn lleol, yn genedlaethol ac yn yn fyd-eang.

Mae'r rhain yn ffactorau y tu hwnt i'ch rheolaeth, ond fe allant gynnig cyfleoedd ichi, neu ar y llaw arall, fe allent fod yn fygythiadau.

Fe all newidiadau a ragwelir yn yr economi, er enghraifft, effeithio ar batrymau prynu mewn marchnadoedd unigol. Fe all colli swyddi neu dorri ar fudd-daliadau effeithio ar sut mae pobl yn gwario'u harian.

Er enghraifft, mae'n bosib y bydd gwerthwr carpedi'n gweld ei fusnes yn mynd ar i lawr, ond bydd glanhawr carpedi'n gweld ei fusnes yn cynyddu wrth i gwsmeriaid ddewis glanhau eu carpedi yn hytrach na phrynu rhai newydd. 

Mae tueddiadau'n gallu cynnwys newid o ran agweddau cymdeithasol, amrywiadau tymhorol neu ffasiynau'n newid.

Nid oes gan neb belen risial i ragweld y dyfodol, ond drwy fonitro sut mae'r farchnad yn symud, fe allwch chi fod yn fwy parod am y newid. Edrychwch ar y ffigurau yn y misoedd neu'r blynyddoedd diwethaf i weld beth yw'r prif dueddiadau.

A byddwch yn ymwybodol o sylwadau yn y newyddion ac mewn cyhoeddiadau masnach.

Defnyddiwr y templed hwn i'ch helpu i weld pa dueddiadau a allai effeithio ar eich busnes (MS Word 14kb).

 

Nesaf: Pwy yw’r gystadleuaeth