1. Crynodeb
Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes. Mae'r adran hwn yn esbonio sut mae adnabod eich darpar gwsmeriaid.
2. Pwy fydd yn prynu gennych chi?
Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes. Dydych chi ddim eisiau gwastraffu amser nac arian yn canolbwyntio ar y bobl anghywir. Yn hytrach, penderfynwch pwy yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o brynu gennych chi a'u targedu.
Byddwch chi am gael gwybod faint o alw sy'n debygol o fod am eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth. Oes 'na ddigon o ddarpar gwsmeriaid i wneud y farchnad yn ddeniadol ichi?
Dyma ambell gwestiwn pwysig arall:
- faint mae cwsmeriaid yn debygol o'i brynu?
- pa mor aml y byddan nhw'n prynu?
- faint maen nhw'n barod i'w dalu am eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth?
3. Beth yw eu cymhellion dros brynu?
Yn ogystal â chreu proffil neu ddarlun o'ch cwsmeriaid targed, mae'n bwysig ichi ddeall eu cymhellion dros brynu. Beth sy'n eu cymell nhw i brynu cynhyrchion a gwasanaethau fel eich rhai chi?
Drwy ddeall eu rheswm dros brynu rhywbeth, gallwch deilwra eich marchnata i flaenoriaethu a phwysleisio'r elfennau hyn.
Dyma ambell ffactor a allai ddylanwadu ar y penderfyniad i brynu:
Ansawdd | Hyd y warant |
---|---|
Cyflymder (y gwasanaeth neu'r cludo) | Dewis |
Pris | Hwylustod |
Dull talu / telerau talu | Cymorth i gwsmeriaid |
Yn ogystal â'r rhain, fe all fod ffactorau 'cudd' er enghraifft:
- teimlo neu edrych yn dda
- oherwydd y bri neu'r statws
- ychydig o foethusrwydd
- cynnig gwarchodaeth neu liniaru risg
- oherwydd mai dyma'r peth diweddaraf neu'r mwyaf cyfoes
- oherwydd ei fod yn gyson â'u gwerthoedd neu â'u credoau
- er mwyn creu argraff ar rywun (cymydog, ffrind, bos)
- bod yn rhan o grŵp neu gael eich gweld felly
Yn eich ymchwil, byddwch chi am ddatgelu'r holl bethau a fydd yn dylanwadu ar benderfyniad rhywun i brynu. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws cyfeirio'ch marchnata a sefyll ar wahân i'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn.
Defnyddiwch y templed hwn (MS Word 13kb) i greu proffil o'ch cwsmer.