1. Crynodeb

Un o’r pethau anoddaf am redeg eich busnes eich hun ydy teimlo'ch bod chi’n gorfod gwneud popeth ar eich pen eich hun a meddwl sut rydych chi am ei ariannu.  Cofiwch, does neb yn disgwyl i chi wybod popeth ac mae digon o gymorth ar gael. Mae’r adran hwn yn dangos i chi sut mae datblygu rhwydwaith cefnogi cadarn a ble i droi i gael yr adnoddau a’r arian y gall fod eu hangen arnoch chi.

2. Datblygu rhwydwaith cefnogi

Pan fyddwch chi’n rhedeg eich busnes eich hun, byddwch chi’n gwneud penderfyniadau ac yn wynebu heriau newydd bob dydd. Mae’n bosib y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo fel petaech mewn dyfroedd dyfnion ac yn unig iawn. Yr ateb i hyn ydy datblygu rhwydwaith cefnogi cadarn er mwyn i chi gael gafael ar wybodaeth, cyngor arbenigol a chymorth cyffredinol pan fydd angen hynny arnoch chi.

Rhwydweithiau cefnogi anffurfiol

Mae’ch rhwydwaith cefnogi anffurfiol yn cynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Efallai na fydd y bobl hyn yn ymwneud â’ch busnes, ac efallai na fydd ganddyn nhw fawr o wybodaeth na sgiliau busnes, os o gwbl. Fodd bynnag, mae gallu rhannu eich syniadau, eich pryderon a’ch rhwystredigaeth â nhw, a gwybod eu bod nhw yno i chi, werth y byd.

Rhwydweithiau cefnogi ffurfiol

Rhwydweithiau cefnogi ffurfiol ydy’ch cynghorwyr proffesiynol a busnes, yn ogystal â chlybiau busnes lleol a grwpiau rhwydweithio.

Gall cynghorwyr proffesiynol gynnwys eich cyfrifydd a'r sawl sy'n cadw llyfrau, eich cynghorydd busnes, eich rheolwr banc, eich cynghorydd ariannol, eich cyfreithiwr, eich dylunydd gwe, eich ysgrifennwr copi, eich arbenigwr TG neu hyd yn oed eich gwerthwr tai.

Mae rhai, fel eich cyfrifydd neu’ch cynghorydd busnes, mewn sefyllfa dda i’ch cynghori ar sut mae gwneud yn siŵr bod eich busnes mor llewyrchus â phosib yn ariannol. Bydd eraill yn gallu rhoi gwybodaeth fanwl i chi am feysydd penodol, gan arbed amser ac arian i chi, a lleddfu eich pryderon.

Cofiwch, mae’r rhain yn gysylltiadau proffesiynol fel rheol, ac mae’n bosib y bydd yn rhaid talu ffi am y cyngor y byddwch yn ei dderbyn.

Clybiau busnes lleol a grwpiau rhwydweithio

Mae nifer o grwpiau rhwydweithio a chlybiau busnes lleol yn y rhan fwyaf o ardaloedd erbyn hyn, yn ogystal ag amrywiaeth eang o grwpiau sy’n cynrychioli aelodau’r gymuned, sy’n cwrdd yn rheolaidd i rannu syniadau. Mae’r rhain yn cynnwys Siambrau Masnach, grwpiau Asiantaethau Menter, BNI, 4Networking a llawer mwy. Fel rheol, mae’r rhain yn gyfarfodydd busnes byr sy’n cynnwys pobl o’r un anian, sy’n aml yn cynnwys siaradwr gwadd. Bydd hefyd yn gyfle i chi gwrdd â’ch cymheiriaid, rhannu syniadau a thrafod materion busnes cyffredin. Holwch eich cydweithwyr a chynghorwyr proffesiynol i ganfod pa grwpiau sy’n cwrdd yn eich ardal – neu ceisiwch chwilio am ‘rhwydweithiau busnes yn EICH TREF’ ar y rhyngrwyd.

Defnyddiwch y templed hwn i’ch helpu i ganfod eich rhwydwaith cefnogi (MS Word 23kb).

Pan fyddwch wedi datblygu eich rhwydwaith cefnogi, cofiwch gadw mewn cysylltiad drwy ffonio, anfon e-bost neu gwrdd yn achlysurol.  Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn, Facebook neu Twitter hefyd.

Ffynonellau eraill o gefnogaeth

Mae nifer o wefannau yn cynnig cyngor da i fusnesau sy’n dechrau hefyd. Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau ar y wefan hon. Mae LinkedIn neu fforymau eraill ar y we yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn os oes angen atebion i gwestiynau penodol arnoch chi. Mae gwybodaeth a chyngor mwy ffurfiol ar gael gan gymdeithasau masnach a ffynonellau arbenigol fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,  ACAS a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

3. Dod o hyd i arian

Erbyn hyn, bydd gennych syniad da beth fydd eich busnes. Nawr rhaid i chi benderfynu faint y bydd yn ei gostio i ddechrau’r busnes, a sut rydych am dalu am hynny.

Mae angen rhywfaint o arian ar bob busnes i ddechrau. Meddyliwch yn ofalus beth fydd eu hangen arnoch chi. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am bryniannau cyfalaf fel cyfarpar, deunyddiau neu gludiant, yn ogystal â chael cyfalaf gweithio i dalu am dreuliau cyson bob mis fel biliau ffôn, rhent, cyflenwadau, cyfleustodau, cyflogau, costau marchnata a hyrwyddo, ac ati.

Un o’r prif resymau pam mae nifer o fusnesau newydd yn methu ydy am nad ydyn nhw’n cael digon o gyfalaf i ddechrau busnes newydd a hefyd am eu bod yn goramcangyfrif faint o incwm maen nhw’n gallu ei wneud yn y misoedd cyntaf. Maen nhw’n cael problemau o ran llif arian, ac mae’r busnes yn methu.

Defnyddiwch yr ymarfer hwn i wneud rhestr o’ch holl dreuliau (MS Word 14kb), er mwyn i chi ganfod faint o arian sydd ei angen arnoch chi i ddechrau’ch busnes a’i redeg am y flwyddyn gyntaf.

Dylai'r cwrs BOSS hwn eich helpu i ddeall y costau sy'n gysylltiedig â rhedeg eich busnes.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

Arian i Mewn = Arian Allan

Yn syml iawn, rhaid i chi wneud yn siŵr bod digon o arian yn dod i mewn i dalu am y costau. Byddwch yn realistig am yr hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau a rhedeg y busnes, ond byddwch yn ofalus. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywfaint wrth gefn ar gyfer unrhyw argyfwng neu unrhyw beth “annisgwyl”.

Nawr, meddyliwch yn ofalus faint rydych chi’n disgwyl ei werthu a faint o incwm y daw hynny i chi. Ydi, mae’n her, ond os gallwch chi reoli cyllideb eich cartref, gallwch reoli cyllideb eich busnes.

4. O ble rydych chi’n cael yr arian?

Nawr bod gennych chi syniad da am faint o arian fydd ei angen arnoch i ddechrau’r busnes (a’i redeg am y flwyddyn gyntaf), rhaid i chi feddwl o ble daw'r arian.

5. Ariannu’ch busnes

Mae sawl math gwahanol o ffynonellau arian ar gael ar gyfer eich busnes newydd ac mae gan bob busnes anghenion gwahanol o ran arian. Mae rhai mathau o arian yn fwy addas ar gyfer anghenion penodol, a dydy pob opsiwn ddim ar gael i bob busnes. Mae’n bwysig eich bod yn cael y lefel iawn o arian ar gyfer eich busnes a’ch bod yn ei gael o’r ffynhonnell orau.

Defnyddiwch yr ymarfer hwn i’ch helpu i ganfod o ble gallwch chi gael arian ar gyfer eich busnes (MS Word 15kb), a pha gamau y mae gofyn i chi eu cymryd.

Bydd y cwrs BOSS hwn yn eich helpu i ddeall ble i ddod o hyd i gymorth ariannol.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn dymuno cael yr atebion i’r cwestiynau hyn:

  • beth ydy’ch busnes chi?
  • faint o arian sydd ei angen arnoch chi?
  • pryd ydych chi’n disgwyl y byddwch yn gallu ad-dalu’r arian?

Y ffordd orau o gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ydy drwy gynnwys hynny yn eich Cynllun Busnes. Byddwch yn cael syniad cyffredinol o sut mae creu eich Cynllun Busnes yn nes ymlaen yn y canllaw hwn.  Mae manylion llawn am sut mae cyfrifo’ch costau a chreu rhagamcan llif arian yn y canllaw Rheoli’ch Arian yn y gyfres hon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n canllaw Rheoli’ch Arian ac i Barth Cyllid Busnes Cymru

 

Nesaf: Dyna’r gyfraith!