1. Trosolwg
Gall lansio busnes bach fod yn risg ac nid ydych bob amser yn sicr o lwyddo. Mae busnesau yn fwyaf tebygol o fethu yn ystod eu blynyddoedd cyntaf yn masnachu, gydag 20% o fusnesau newydd yn mynd i'r wal o fewn eu blwyddyn gyntaf a 50% o fewn eu tair blynedd gyntaf.
Ni ddylai'r ffigurau hyn godi ofn arnoch, ond dylent eich paratoi ar gyfer rhai o'r heriau y mae entrepreneuriaid yn eu hwynebu wrth ddechrau busnes. Drwy weithio'n galed a bod yn ymwybodol o'r problemau, gall busnes newydd fod yn llwyddiant ysgubol.
Mae'r canllaw hwn yn edrych ar y camgymeriadau mwyaf cyffredin a wneir gan berchnogion busnes newydd ac, yn bwysicach oll, sut y gallwch eu hosgoi. Mae hefyd yn dangos i chi sut i wella'r tebygolrwydd y bydd eich syniad busnes yn llwyddo.
2. Ymchwil gwael neu annigonol i'r farchnad
Mae gwaith ymchwil a chynllunio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich syniad busnes yn hyfyw a bod eich prisiau yn gystadleuol yn eich marchnad ac yn darparu elw digonol.
Mae'r gred bod entrepreneuriaid yn methu oherwydd diffyg cyllid neu am iddynt beidio â rhoi'r tîm cywir ar waith yn gamsyniad cyffredin. Fodd bynnag, mae llawer yn methu am nad ydynt wedi treulio digon o amser yn ymchwilio i'w syniad busnes a'i hyfywedd yn y farchnad.
Diffyg ymchwil fanwl i'r farchnad
Mae diffyg ymchwil addas i'r farchnad yn un o'r problemau allweddol i fusnesau newydd. Mae'n hawdd cael eich hudo gan syniad busnes a sefydlu busnes heb brofi ei hyfywedd.
Mae hefyd yn bwysig ystyried beth yw anghenion eich cynulleidfa neu gwsmer ac i ddefnyddio ymchwil marchnad i brofi hyn, ac yna i ystyried yr adborth wrth i chi gynllunio eich cynnyrch neu wasanaethau.
Cadw eich syniadau busnes i chi'ch hun
Drwy beidio â rhannu eich syniadau busnes gyda phobl rydych yn ymddiried ynddynt, ni fyddwch yn cael adborth gwrthrychol.
Dylech gynnal sesiynau taflu syniadau gyda chydweithwyr er mwyn cael safbwyntiau gwerthfawr ganddynt. Nodwch unrhyw syniadau da a gewch o'r sesiynau taflu syniadau a'u defnyddio pan fyddwch yn datblygu eich busnes.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw ymchwilio a datblygu eich syniad.
Gall holi barn darpar cwsmeriaid am eich cynlluniau neu adael iddynt archwilio prototeip fod yn hynod o werthfawr. Gall eich helpu chi i ganfod pa 'run ai fydd eich cynnyrch yn cynnig ateb i broblemau cwsmeriaid neu a fydd yn rhywbeth newydd ac unigryw y byddent yn ei brynu. Bydd adborth positif yn rhoi'r hyder i chi i fwrw ymlaen ac fe allai eich helpu chi i ddenu cyllid buddsoddi. Ar y llaw arall, fe fydd adborth negyddol yn eich rhybuddio o'r angen i ailfeddwl eich cynlluniau ac fe allai eich helpu chi i osgoi gwastraffu amser ac arian ar gynnyrch na fydd yn gwerthu.
Os byddwch am gadw eich syniadau yn gyfrinachol, ystyriwch ddefnyddio cytundeb peidio â datgelu, a elwir hefyd yn gytundeb cyfrinachedd. Mae hwn yn gontract cyfreithiol rhyngoch chi a pharti arall i beidio â datgelu gwybodaeth a rannwyd gennych at ddiben penodol.
Diffyg gwybodaeth am eich cleientiaid neu'ch marchnad
Os na fyddwch yn gwneud digon o ymchwil, mae perygl y byddwch yn gwerthu i'r bobl anghywir neu na fyddwch yn deall eich marchnad. Er mwyn osgoi hyn:
- defnyddiwch wybodaeth, megis data am ddim gan y llywodraeth neu eich rhwydwaith eich hun o gysylltiadau
- cynhaliwch waith ymchwil maes i archwilio proffiliau cwsmeriaid a chanfod tueddiadau prynu
- rhannwch syniadau â phobl yn yr un sector
Gwnewch y cwrs BOSS byr hwn ar sut i adnabod eich cwsmeriaid, a'u cadw'n hapus.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
Mae sesiynau blasu sy'n rhoi cyfle i unigolion gael cipolwg ar wirioneddau hunan gyflogaeth yn cael eu cynnal ar draws Cymru. Cysylltwch â Gwybodaeth Busnes Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw gwybod anghenion eich cwsmeriaid.
Bydd ymaelodi â Siambr Fasnach yn rhoi mynediad i chi i wasanaethau fel hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio ac arbedion ar orbenion.
3. Cynllunio ariannol gwan
Mae cynllunio ariannol yn bwysig iawn i'r rhan fwyaf o fusnesau newydd. Gall diffyg cyfalaf, diffyg cynlluniau wrth gefn ac amharodrwydd i ofyn am gyngor proffesiynol oll arwain at broblemau mawr.
Mi fydd y cyrsiau BOSS hyn yn ddefnyddiol i chi wrth ystyried beth fydd ei angen arnoch i ddechrau eich busnes.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
Diffyg cyfalaf
Mae sicrhau digon o gyfalaf yn hanfodol er mwyn i'ch busnes oroesi a ffynnu, ac mae'n arwydd sylfaenol o iechyd eich busnes.
Mae'n bwysig creu cynllun busnes o ansawdd i ddenu a sicrhau'r math a'r swm priodol o gyllid sydd ei angen arnoch i greu busnes llwyddiannus. Gall cynllun busnes:
- gael ei ddefnyddio fel adnodd i strwythuro ochr ariannol eich busnes a gellir ei ddiweddaru a'i newid wrth i'ch busnes dyfu
- cadw eich disgwyliadau o ran yr hyn y gellir y busnes ei gyflawni yn realistig
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw paratoi cynllun busnes.
Diffyg cynllun wrth gefn
Heb gynllun wrth gefn, gall digwyddiadau annisgwyl effeithio arnoch.
Mae sefyllfaoedd y tu hwnt i'ch rheolaeth a allai effeithio ar eich busnes a'ch llif arian parod yn cynnwys cynnydd mewn cyfraddau llog, streiciau gan gwmnïau trafnidiaeth ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Er y gall eich busnes oroesi cyfnodau lle na cheir unrhyw werthiannau neu elw, ni all oroesi heb arian parod. Bydd adeiladu cronfeydd arian parod wrth gefn yn sicrhau y gallwch fasnachu'n effeithiol a datblygu eich busnes.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau rhagamcan llif arian a sut y gallaf oroesi hyd nes bydd fy musnes wedi ymsefydlu?
Amharodrwydd i ofyn am gyngor proffesiynol
Bydd methu â gofyn am gyngor proffesiynol yn gwaethygu llawer o drafferthion ariannol. Ychydig iawn o berchenogion busnes newydd a all honni eu bod yn arbenigo ymhob maes o'u busnes. Gall defnyddio cyfrifydd neu gynghorydd ariannol eich helpu i sicrhau eich bod yn benthyg ac yn rheoli arian yn gost effeithiol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw dewis a gweithio gyda chyfrifydd.
4. Gosod eich disgwyliadau yn rhy uchel
Mae'n bwysig llunio rhagolygon realistig am botensial eich busnes. Yn ystod y cyfnod cychwynnol, gall fod yn hawdd llunio rhagolygon sy'n rhy optimistaidd, ond gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i'ch busnes os na fydd eich rhagamcanion yn realistig.
Rhagolygon rhy optimistaidd o ran maint y farchnad
Mae llunio rhagolygon anghywir o faint y farchnad yn gamgymeriad cyffredin wrth ddechrau busnes.
Gall lefelau arian parod ostwng yn gyflym os byddwch yn recriwtio gormod o bobl, yn prynu offer diangen neu'n gwario gormod ar safleoedd busnes. Gall defnyddio dulliau effeithiol o ragweld llif arian parod ac incwm eich helpu i osgoi hyn.
Yn aml, mae rhagolygon anghywir yn gysylltiedig ag ymchwil wael i'r farchnad, felly mae'n hanfodol sicrhau bod eich gwaith ymchwil yn gywir. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw rhagamcan llif arian.
Canolbwyntio ar swm neu faint gwerthiannau yn hytrach nag elw
Camgymeriad cyffredin i fusnesau newydd yw canolbwyntio gormod ar gynyddu swm neu faint gwerthiannau yn hytrach nag elw.
Pan fydd busnes newydd yn ehangu'n gyflym, gall arwain at orfasnachu, lle y bydd yn derbyn mwy o archebion nag y gall ei gyfalaf gweithio neu ei asedau cyfredol net eu cynnal. Gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol.
Arallgyfeirio'n rhy gyflym
Efallai y cewch eich temtio i brofi marchnad newydd neu ardal ddaearyddol newydd, ond mae cadw ffocws clir ar eich busnes craidd yn hanfodol. Gall arallgyfeirio'n rhy gyflym gynyddu'r risgiau i'ch busnes yn ystod y cyfnod cychwynnol peryglus hwn.
Cynllunio gwael
Bydd cynllunio gwael yn cynyddu'r tebygolrwydd o wneud camgymeriadau busnes ac yn lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn cyflawni eich nodau.
Mae llunio cynllun busnes realistig o ansawdd yn hanfodol. Bydd cynllun busnes yn helpu i sicrhau cyllid allanol, yn rhagweld problemau ac yn mesur llwyddiant eich busnes.
Bydd ysgrifennu cynllun marchnata hefyd yn sicrhau eich bod yn ystyried eich cwsmeriaid targed, eich amcanion marchnata a bydd yn eich helpu i bennu nodau i ymdrin â'r rhain.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau paratoi cynllun busnes. Gallwch hefyd ymweld â gwefan machnata ar gyfer sut i baratoi cynllun marchata.
5. Colli golwg ar y gystadleuaeth
Yn ystod y cyfnod cychwynnol prysur, gall fod yn hawdd anghofio neilltuo digon o amser i fonitro'r gystadleuaeth. Fodd bynnag, mae'n hanfodol eich bod yn barod i ymateb i gystadleuwyr yn eich marchnad a datblygiadau newydd.
Peidio â gwneud ymdrech benodol i fonitro'r gystadleuaeth
Os na fyddwch yn monitro eich cystadleuwyr, ni fyddwch yn gweld pa gystadleuaeth neu fygythiadau i'ch busnes sy'n bodoli yn eich marchnad.
Nid dim ond busnes arall a all gymryd arian oddi wrthych yw cystadleuaeth. Gall fod yn gynnyrch neu'n wasanaeth arall sy'n cael ei ddatblygu y dylech chi fod yn ei werthu neu'n ceisio ei drwyddedu cyn i rywun arall wneud hynny.
Gallwch gael cliwiau bod cystadleuwyr eraill yn bodoli o:
- hysbysebion
- adroddiadau yn y wasg
- arddangosfeydd a ffeiriau masnach
- holiaduron
- chwilio ar y we am gynnyrch neu wasanaethau tebyg
- gwybodaeth gan eich cwsmeriaid am fusnesau eraill sydd wedi cysylltu â hwy
- taflenni a llenyddiaeth farchnata a anfonwyd atoch - mae hyn yn gymharol gyffredin os ydych ar restr farchnata a brynwyd
- ceisiadau cynllunio a gwaith adeiladu sy'n mynd rhagddo
Peidio â gweithredu ar sail gwybodaeth am gystadleuwyr
Bydd eich sefyllfa yn y farchnad yn gwanhau os na fyddwch yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gennych am eich cystadleuwyr.
Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth ddefnyddiol yn eich cynllun marchnata. Bydd eich cynllun marchnata a'ch gwaith ymchwil yn eich helpu i bennu targedau a therfynau amser realistig, a dyrannu adnoddau priodol. Wedyn gallwch benderfynu canolbwyntio ar feithrin cydberthnasau gyda'ch cleientiaid presennol neu ddenu cwsmeriaid newydd. Wedyn gallwch droi eich gwaith marchnata yn werthiannau drwy benderfynu ar eich dulliau gwerthu.
I gael rhagor o wybodaeth, gwewch sut i baratoi cynllun marchnata yn ein gwefan marchnata.
6. Rheolaethau gwael o ran cyflenwyr a chwsmeriaid
Mae camgymeriadau cyffredin i fusnesau newydd yn cynnwys rhoi trefniadau credyd anfoddhaol ar waith a bod yn esgeulus wrth ddewis cyflenwyr. Dewiswch yn ofalus oherwydd gallai gallu eich busnes i wneud elw a'i enw da fod yn y fantol.
Sefydlu contractau gwael â chyflenwyr
Gall dod o hyd i gyflenwr dibynadwy sy'n cynnig prisiau cystadleuol fod yn hanfodol i lwyddiant eich busnes. Y rheswm dros hyn yw eich bod yn dibynnu ar eich cyflenwyr i ddarparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar eich busnes i weithredu. A gall sicrhau'r bargeinion gorau gael effaith sylweddol ar elw eich busnes.
Wrth ddewis cyflenwyr, mae pris yn ystyriaeth amlwg. Fodd bynnag, rhaid ystyried ffactorau eraill fel gwerth am arian, ansawdd, dibynadwyedd a gwasanaeth hefyd.
Pennwch yn union beth rydych am ei gael gan gyflenwr. Cynhaliwch ymchwiliad i statws credyd er mwyn sicrhau y gall y cyflenwr ddarparu'r hyn sydd ei angen arnoch ac nad yw ar fin mynd i'r wal. Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar eich dewis gyflenwr, gallwch wedyn drafod telerau ac amodau a llunio contract ffurfiol.
Rhoi trefniadau credyd gwael ar waith
Os ydych yn ymdrin â darpar gwsmer newydd, gall fod yn demtasiwn cynnig credyd heb gynnal ymchwiliadau credyd. Ond gall hyn olygu y bydd eich busnes yn agored i achosion o ohirio talu neu beidio â thalu. Efallai na fyddwch yn gallu talu eich cyflenwyr neu'ch banc yn brydlon. Yn eu tro, gallent hwy dynnu eu cyflenwadau neu eu cyllid yn ôl, gan roi eich busnes yn y fantol.
Er mwyn osgoi problemau posibl o ran taliadau gan gwsmeriaid, efallai yr hoffech:
- gynnal ymchwiliadau i statws credyd cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol
- gofyn am eirdaon gan fanciau, geirdaon masnach a sgorau credyd ar-lein, gan asiantaeth ymchwilio i statws credyd
- sicrhau bod eich cwsmer yn ymwybodol o'ch telerau credyd (e.e. rhaid iddo dalu o fewn 30 diwrnod) a bod y telerau talu ar gyfer eich dyledwyr yn hwy na'r telerau rydych yn cynnig i'ch cwsmeriaid
- cymell cwsmeriaid i dalu'n gynnar drwy gynnig disgowntiau
- ymchwilio i ffyrdd y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol o annog taliadau prydlon
7. Gweithdrefnau rheoli stoc ac asedau gwael
Gall rheolaeth wael dros stoc a gorfuddsoddi mewn asedau sefydlog olygu bod eich cyfalaf wedi'i glymu'n ddiangen.
Rheolaeth wael dros stoc
Bydd rheoli stoc yn effeithlon (stocrestr) yn golygu bod gennych y swm priodol o stoc yn y man priodol ar yr adeg briodol. Mae'n sicrhau nad yw cyfalaf wedi'i glymu'n ddiangen, ac yn diogelu'r broses gynhyrchu pan fydd problemau gyda'r gadwyn gyflenwi.
Mae angen i chi roi systemau ar waith i olrhain lefelau a gwerthoedd stoc yn ofalus. Bydd systemau rheoli o'r fath yn eich galluogi i ryddhau arian parod, tra'n sicrhau bod gennych hefyd y swm priodol o stoc wrth law.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch reoli stoc. Gallwch:
- ailarchebu pan fydd stoc yn cyrraedd lefel ofynnol
- cynnal adolygiadau rheolaidd o stoc
- defnyddio dulliau dosbarthu 'just in time' (JIT) i osgoi sefyllfa lle bydd gennych ormod o stoc
Gorfuddsoddi mewn asedau sefydlog.
Yn ystod blynyddoedd cynnar eich busnes newydd, bydd angen i chi osgoi codi arian o'ch cronfeydd arian parod wrth gefn yn ddiangen. Gall gorfuddsoddi mewn asedau sefydlog, fel dodrefn swyddfa neu offer cyfrifiadurol, fod yn broblem. Mae talu am asedau sefydlog i gyd ar unwaith yn golygu eich bod yn berchen arnynt yn syth, ond rhaid defnyddio arian parod.
Mae'r dewisiadau amgen yn cynnwys:
- rhentu asedau ar brydles - o leiaf tra y bydd eich busnes yn ymsefydlu. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi dalu mewn rhandaliadau rheolaidd dros gyfnod penodol, gan ryddhau mwy o arian parod. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu uwchraddio offer heb orfod prynu modelau diweddarach
- hurbwrcas - byddwch yn berchen ar yr ased ar ddiwedd y broses dalu. Nid dyma'r achos gyda rhentu asedau ar brydles
- prynu'n ail law - ar gyfer dodrefn swyddfa, gosodiadau ac ati. Gallwch ddod o hyd i ddodrefn ail law mewn sawl lle. Er enghraifft, edrychwch yn y wasg leol ac mewn arwerthiannau lleol. Mae Green Works yn elusen gofrestredig sy'n ailgylchu ac yn gwerthu hen ddodrefn swyddfa
8. Cyflogi'r bobl anghywir
Bydd llwyddiant eich busnes newydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ansawdd y bobl a gaiff eu recriwtio gennych. Bydd cyflogi pobl bob amser yn golygu rhyw fath o fuddsoddiad i'ch busnes a bydd angen ystyried y penderfyniad yn ofalus. Gall cymryd y buddsoddiad hwn o ddifrif ei wneud yn fwy gwerthfawr a gwella'r tebygolrwydd y byddwch yn llwyddo.
Nid yw sicrhau eich bod yn cyflogi pobl o ansawdd sy'n meddu ar y cymysgedd priodol o sgiliau yn broses hawdd ond mae'n broses a fydd yn talu ar ei chanfed.
Bydd sut yr ewch ati i gyflogi pobl newydd yn dibynnu ar anghenion eich busnes, e.e. p'un a yw'r gwaith yn gyson, am ba hyd y bydd yn para a nifer yr oriau sydd ar gael.
Mae angen i chi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:
- recriwtio staff parhaol yn llawn amser neu'n rhan amser
- cyflogeion ar gontract cyfnod penodol
- staff dros dro
- gweithwyr llawrydd
- ymgynghorwyr
- contractwyr
Gallai cyflogi perthnasau a ffrindiau fod yn ateb hawdd i faterion staffio ar yr olwg gyntaf, ond mae'n bosibl na fyddant yn meddu ar y cymysgedd priodol o sgiliau sydd eu hangen arnoch. Gall hefyd fod yn anos dirwyn cyfnod o gyflogaeth i ben pan fydd cydberthynas bersonol yn bodoli.
Mae recriwtio staff yn allweddol i'r rhan fwyaf o fusnesau. Darganfyddwch sut i wneud hyn yn llwyddiannus drwy'r cyrsiau BOSS hyn.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
Peidio â dirprwyo
Gall bod yn feistr arnoch chi eich hun fod yn ffactor allweddol wrth eich cymell i sefydlu eich busnes eich hun. Fodd bynnag, mae dirprwyo'r dasg briodol i'r person priodol yn bwysig i chi ac i'ch busnes. Gallai peidio â dirprwyo olygu y byddwch yn derbyn gormod o gyfrifoldeb ac yn cynyddu eich lefelau straen.
Un ffordd dda o ddirprwyo yw nodi rhai tasgau allweddol rydych yn eu gwneud eich hun sy'n werthfawr iawn i'r busnes a'u trosglwyddo i weddill eich tîm.