Ymchwil i'r farchnad
Mae'n hawdd meddwl bod gennych chi syniad ardderchog am fusnes, ond, er mwyn i'ch busnes lwyddo, bydd angen ichi gael cadarnhad eich bod chi'n iawn. Ffordd gost-effeithiol o wneud hynny yw ymchwil marchnad. Mae'r adran hwn yn eich tywys chi drwy'r broses ymchwil marchnad i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau
Nid ynys yw busnes. Mae'n hollbwysig gwybod beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a gweld sut y gallai hynny effeithio ar eich busnes. Mae'r adran hwn yn edrych ar yr hyn y mae angen ichi ei wybod ac mae'n cynnig fframwaith ar gyfer cael gafael ar y wybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd.
Mae gan bawb bobl sy’n cystadlu yn eu herbyn ac mae'n bwysig gwybod pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei gynnig. Mae'r adran hwn yn help ichi weld pwy sy'n cystadlu yn eich erbyn chi er mwyn ichi benderfynu a allwch chi dderbyn yr her o gystadlu â nhw.
Mae gwybod pwy sy'n debygol o brynu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn hollbwysig i'ch busnes. Mae'r adran hwn yn esbonio sut mae adnabod eich darpar gwsmeriaid.
Yn y bôn, casglu gwybodaeth ydy ymchwil marchnad, i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau. Mae'r adran hwn yn esbonio'r gwahanol ffyrdd o gasglu'r wybodaeth honno ac yn help ichi weld pa ddull i'w ddefnyddio a pha bryd.
Wrth wneud ymchwil marchnad, byddwch chi'n casglu gwybodaeth er mwyn i chi fod yn fwy gwybodus ac er mwyn ichi allu gwneud gwell penderfyniadau am eich busnes. Mae cynllunio'n rhan bwysig o'r broses, ac mae defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu mewn gwirionedd yr un mor bwysig. Mae'r adran hwn yn rhestru'r prif gamau yn y broses ymchwil marchnad ac yn rhoi templed ichi i'ch helpu i gynllunio'ch ymchwil marchnad.