Hunangyflogaeth

Ydy hunangyflogaeth yn addas i chi?

Mae dechrau’ch busnes eich hun yn her enfawr a chyffrous. Mae’r adran hwn yn amlinellu rhai o’r pethau pwysig ddylech chi eu hystyried cyn i chi gymryd y cam mawr hwnnw.

Datblygu’ch syniad busnes

Cyn i chi ddechrau busnes, rhaid i chi benderfynu sut fath o fusnes mae am fod. Mae’r adran hwn yn taro golwg ar rai o’r opsiynau sydd ar gael i chi ac yn eich helpu i esbonio eich syniad busnes yn gyflym ac yn gryno.

Ymchwilio a datblygu eich syniad a chynhyrchion a gwasanaethau newydd

Mae datblygu eich syniad busnes yn gynnyrch neu'n wasanaeth hyfyw yn rhan allweddol o adeiladu busnes. Bydd asesu ac ymchwilio i'r farchnad yn gynnar yn eich helpu i benderfynu p'un a oes marchnad ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth ai peidio.

Cael help

Un o’r pethau anoddaf am redeg eich busnes eich hun ydy teimlo'ch bod chi’n gorfod gwneud popeth ar eich pen eich hun a meddwl sut rydych chi am ei ariannu. Cofiwch, does neb yn disgwyl i chi wybod popeth ac mae digon o gymorth ar gael. Mae’r adran hwn yn dangos i chi sut mae datblygu rhwydwaith cefnogi cadarn a ble i droi i gael yr adnoddau a’r arian y gall fod eu hangen arnoch chi.

Dyna’r gyfraith!

Er bod dechrau’ch busnes eich hun yn gyffrous, mae nifer o faterion treth a chyfreithiol mae’n rhaid i chi eu hystyried. Mae’r adran hwn yn esbonio sut mae dewis y strwythur cyfreithiol cywir sy’n addas i’ch amgylchiadau, yn tynnu sylw at eich dyletswyddau cyfreithiol, ac yn amlinellu rheolau a rheoliadau eraill a all fod yn berthnasol i chi.

Camgymeriadau cyffredin busnes - a sut i'w hosgoi

Gall lansio busnes bach fod yn risg ac nid ydych bob amser yn sicr o lwyddo. Mae busnesau yn fwyaf tebygol o fethu yn ystod eu blynyddoedd cyntaf yn masnachu, gydag 20% o fusnesau newydd yn mynd i'r wal o fewn eu blwyddyn gyntaf a 50% o fewn eu tair blynedd gyntaf.