1. Crynodeb

Er bod dechrau’ch busnes eich hun yn gyffrous, mae nifer o faterion treth a chyfreithiol mae’n rhaid i chi eu hystyried. Mae’r adran hwn yn esbonio sut mae dewis y strwythur cyfreithiol cywir sy’n addas i’ch amgylchiadau, yn tynnu sylw at eich dyletswyddau cyfreithiol, ac yn amlinellu rheolau a rheoliadau eraill a all fod yn berthnasol i chi.

2. Dewis eich statws cyfreithiol

Er bod dechrau’ch busnes eich hun yn gyffrous, mae nifer o faterion cyfreithiol mae’n rhaid i chi eu hystyried. Y peth cyntaf ydy diffinio statws cyfreithiol eich busnes. Mae’ch penderfyniad yn effeithio ar bethau fel:

  • pwy mae’n rhaid i chi roi gwybod iddyn nhw am eich busnes
  • faint o dreth ac Yswiriant Gwladol rydych chi’n ei dalu
  • y cofnodion a’r cyfrifon rydych chi’n eu cadw
  • y ffordd rydych chi’n gwneud penderfyniadau rheoli am y busnes, ac
  • eich atebolrwydd ariannol personol os bydd y busnes yn mynd i drafferthion.

Noder: Mae’n bwysig eich bod chi’n cael cyngor proffesiynol, ar gyfer unrhyw fath o fusnes, cyn penderfynu beth ydy’r opsiwn gorau ar gyfer strwythur eich busnes.

Ddim yn siwr pa fath o fusnes ydych chi, gall y cwrs BOSS hwn eich helpu.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Masnachwr Unigol

Masnachwr Unigol ydy pan mai unigolyn ydy’r perchennog - fodd bynnag, gall y busnes gyflogi pobl eraill hefyd. Does dim cofrestriad (busnes). Mae cadw cofnodion a chyfrifon yn syml. A chi, y perchennog, sy’n cael cadw’r holl elw.

Yr anfanteision ydy bod y masnachwr unigol yn bersonol yn atebol am unrhyw ddyledion sydd gan y busnes, a gall hyn ei gwneud yn anodd cael arian gan y banciau. Hefyd, gan fod masnachwr unigol yn hunangyflogedig, does ganddo ddim cymaint o hawl cael budd-daliadau nawdd cymdeithasol â gweithiwr.

Partneriaeth

Pan fydd dau neu fwy o bobl yn berchen ar y busnes gyda’i gilydd ac yn rhannu’r risgiau, y costau a’r cyfrifoldebau. Does dim rhaid i gyfranddaliadau fod yn gyfartal ac mae atebolrwydd yn gymesur.

Yr anfanteision ydy – os bydd y busnes yn mynd i drafferthion, does gan y partneriaid ddim diogelwch ariannol – a gallech chi fod yn atebol am gyfran eich partner o’r dyledion. Argymhellir eich bod yn cysylltu â chyfreithiwr i lunio cytundeb er mwyn i bawb wybod lle maen nhw’n sefyll.

Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP) yn rhannu nifer o nodweddion partneriaeth, ond y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig, dim y partneriaid, sy’n gyfrifol am y dyledion.

Cwmni Cyfyngedig

Mewn Cwmni Cyfyngedig, mae’r busnes yn endid cyfreithiol ar wahân ac mae arian y cwmni ar wahân i arian personol y perchnogion. Mae hyn yn sicrhau mwy o ddiogelwch i’r perchnogion a chyfranddalwyr eraill sydd ddim yn atebol am ddyledion y cwmni.

Rhaid i’r busnes fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Mae nifer o fanteision, gan gynnwys treth, mynediad at arian, ac ati, ond hefyd mae gofynion caeth o ran cofrestru, cadw cofnodion a chyflwyno cyfrifon a ffurflenni blynyddol i Dŷ'r Cwmnïau.  Mae gwybodaeth lawn ar gael yn Companies House  – dilynwch y dolenni ar gyfer Corffori Cwmni.

Menter Gymdeithasol

Menter Gymdeithasol ydy busnes lle mae arian dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu yn y gymuned. Mae gwahanol fathau cyfreithiol o Fentrau Cymdeithasol. Ewch i ffurf gyfreithiol busnes cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth, neu holwch eich cynghorydd busnes am gyngor.

3. Eich dyletswyddau cyfreithiol

Mae gan bawb sy’n dechrau busnes amrywiaeth o ddyletswyddau cyfreithiol. Mae rhai o’r dyletswyddau cyfreithiol hyn yn berthnasol i bob busnes, a gall eraill ddibynnu ar natur eich busnes.

GAIR O RYBUDD: Gall methu cyflawni’r dyletswyddau cyfreithiol hyn arwain at ddirwy neu hyd yn oed achos llys.

Treth, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a TAW

  • mae’n rhaid i bawb sy’n dechrau busnes gydymffurfio â phob cyfraith TAW, asesiadau treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • mae’r holl wybodaeth berthnasol ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM 
  • mae Cyllid a Thollau EM hefyd yn rhoi cyngor a chymorth. Gallwch gofrestru a chwblhau popeth ar-lein
  • bydd gan eich cyfrifydd a'ch swyddfa nawdd cymdeithasol ragor o wybodaeth hefyd

Rhestr o'r pethau mae'n rhaid eu gwneud

  • TRETH, gan gynnwys Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
    Cofrestrwch ar-lein gyda Chyllid a Thollau EM cyn gynted ag y byddwch yn dechrau’ch busnes.
     
  • Treth Ar Werth (TAW)
    Rhaid i chi gofrestru’ch manylion os ydych chi’n mynd y tu hwnt i'r trothwy TAW. Ewch i Chyllid a Thollau EM i gael y manylion llawn a’r lefelau trothwy presennol.

Yswiriant

Rhaid cael yr yswiriant cywir er mwyn gwarchod pob busnes rhag amrywiaeth o risgiau posib. Mae gwahanol rannau eich busnes a all fod angen yswiriant yn cynnwys:

  • eich eiddo
  • eich gweithwyr
  • eich cynnyrch a’ch gwasanaethau
  • eich syniad busnes
  • eich cerbydau a’ch cyfarpar
  • chi

Rhaid i bob busnes benderfynu pa bolisïau i’w hystyried, fodd bynnag, mae rhai polisïau yswiriant yn ofyniad cyfreithiol.

  • Atebolrwydd y cyflogwr – ar gyfer busnesau â gweithwyr 
    Mae hyn yn gwarchod eich busnes rhag hawliadau gan weithwyr am gostau unrhyw anafiadau neu salwch maen nhw’n eu dioddef o ganlyniad i weithio i chi.
  • Yswiriant cerbyd – ar gyfer busnesau sy’n defnyddio cerbydau 
    Rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych chi yswiriant cerbydau trydydd parti o leiaf. Mae hyn yn gwarchod atebolrwydd eich busnes am unrhyw ddifrod i eiddo neu anafiadau. Mae’n bosib y byddwch chi’n dymuno ehangu’ch polisi i gynnwys dwyn neu ddifrodi’ch cerbydau.
  • Indemniad proffesiynol – mae hwn yn gwarchod eich busnes rhag atebolrwydd cyfreithiol am golledion mae’ch cwsmeriaid wedi'u dioddef o ganlyniad i'ch camgymeriadau neu esgeulustod chi. 
    Mae’n ofynnol ar gyfer rhai proffesiynau fel penseiri, twrneiod, cyfreithwyr, cyfrifwyr a chynghorwyr ariannol, ac mae ymgynghorwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill yn aml yn dewis trefnu yswiriant.

Dyma rai mathau eraill o yswiriant efallai byddwch chi’n dymuno’u hystyried, yn dibynnu ar natur eich busnes:

  • atebolrwydd cyhoeddus
  • adeiladau a chynnwys
  • lladrad
  • atebolrwyd am gynnyrch
  • gwarchod cyflogaeth 
  • nwyddau'n cael eu cludo
  • yswiriant siop
  • yswiriant person allweddol
  • arian yn cael ei gludo

Gweler ein canllaw yswirio eich busnes a'ch asedau - yswiriant cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth ac i asesu anghenion yswiriant eich busnes.

Mae yswiriant yn gallu bod yn faes cymhleth, felly mae’n syniad da cael sgwrs â brocer yswiriant i’ch cynghori chi am y lefel iawn o yswiriant ar gyfer eich busnes penodol.

Er mwyn dod o hyd i frocer yswiriant, ewch i:

Trwyddedau a Rheoleiddio

Rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol i weithredu rhai mathau o fusnes. Mae busnesau sydd angen trwyddedau'n cynnwys:

  • cwmnïau tacsi
  • masnachwyr stryd
  • cytiau cŵn
  • siopau anifeiliaid anwes
  • gweithwyr trin gwallt
  • gwestai
  • tai bwyta
  • mannau gwerthu bwyd, ac
  • unrhyw un sy’n gwerthu alcohol.

Mae angen trwyddedau ar nifer o fathau eraill o fusnesau hefyd, felly holwch a oes angen cofrestru neu gael trwydded cyn i chi allu dechrau masnachu’n gyfreithlon.  Gall methu â chael trwydded neu gofrestru gyda’r corff perthnasol fod yn drosedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael cyngor cyn gynted â phosib.

Cysylltwch â’ch Swyddfa Gynllunio Leol neu’ch Swyddfa Rheoli Adeiladu yn eich awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth. 

Caniatâd Cynllunio

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio cyn i chi ddechrau masnachu, yn dibynnu ar y math o fusnes rydych chi'n ei sefydlu. Mae'n bosib y byddai’n rhaid cael caniatâd cynllunio i newid defnydd adeilad neu weithio o gartref, hyd yn oed os nad ydych chi'n newid strwythur ffisegol eich eiddo.

Mae hi wastad yn syniad da  holi eich Swyddfa Gynllunio Leol neu'ch Swyddfa Rheoli Adeiladu i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch, gall cael caniatâd cynllunio gymryd cryn amser, felly holwch cyn gynted â phosib. Mae’n bosib y bydd costau ynghlwm â chaniatâd cynllunio hefyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y rhain yn eich Cynllun Busnes.

Deddfwriaethau, rheolau a rheoliadau eraill

Mae nifer o reoliadau a chanllawiau cyfreithiol eraill mae’n rhaid i chi lynu wrthynt, yn dibynnu ar natur eich busnes. Argymhellir yn gryf eich bod chi’n cael cyngor proffesiynol i wneud yn siŵr nad ydych chi wedi methu dim byd, oherwydd gall y cosbau fod yn ddifrifol.

Dyma rai enghreifftiau o ddeddfwriaeth a allai effeithio ar eich busnes:

  • cyfraith cyflogaeth
  • Deddf Gwarchod Defnyddwyr
  • Deddf Gwasanaethau Ariannol
  • cyfraith Iechyd a Diogelwch
  • Deddf Gwerthu Nwyddau
  • Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE)
  • cyfraith eiddo
  • Deddf Disgrifiadau Masnach
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
  • cyfraith diogelwch bwyd
  • Deddf Diogelu Data
  • cyfreithiau amgylcheddol
  • rheoliadau hysbysebu
  • cyfraith hawlfraint/nodau masnach
  • rheoliadau cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Gorchymyn Marcio Prisiau 
  • cofrestru patentau/dyluniadau
  • Deddf Enwau Busnes
  • rheoliadau masnach electronig
  • rheoliadau gwerthu o bell
  • contractau
  • Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Darganfyddwch fwy am GDPR gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Gwarchod eich Eiddo Deallusol

Mae Eiddo Deallusol yn hynod werthfawr, ond gall fod yn anodd ei warchod. Fel sy’n wir am bob eiddo, mae modd prynu a gwerthu Eiddo Deallusol, yn ogystal â’i brydlesu a’i drwyddedu. Fodd bynnag, does dim modd gweld na chyffwrdd Eiddo Deallusol – mae’n deillio o’ch creadigrwydd neu’ch gallu meddyliol a dyma sy’n eich gwneud chi’n wahanol i’ch cystadleuwyr.

Mae’n bwysig gwarchod eich Eiddo Deallusol er mwyn i'ch busnes lwyddo.

Dyma rai enghreifftiau o Eiddo Deallusol:

  • nodau masnach – mae’n gwahaniaethu rhwng nwyddau a gwasanaethau ac yn rhoi hawl neilltuol i’r perchennog ddefnyddio’r nod i adnabod ei gynnyrch yn y farchnad.  Mae’n cynnwys logos, enwau busnes a sloganau
  • hawlfraint – mae hyn yn amddiffyn crëwyr a pherchnogion cerddoriaeth, gwaith ysgrifenedig, celf a ffotograffiaeth rhag i unrhyw un gopïo eu gwaith heb drwydded
  • patentau – os oes gennych chi syniad arloesol, un ai ar gyfer cynnyrch neu broses, gallwch wneud cais am batent. Mae patent yn gwarchod eich syniad am hyd at 20 mlynedd, ac yn atal eraill rhag gwneud, gwerthu neu ddefnyddio’ch syniad heb gael caniatâd ymlaen llaw
  • cofrestru dyluniad – mae hyn yn gwarchod ymddangosiad cynnyrch neu ran o gynnyrch, yn hytrach na'i swyddogaeth dechnegol

Cofiwch, dylech gael cyngor proffesiynol annibynnol bob tro os oes gennych chi unrhyw amheuon am unrhyw agwedd o’ch eiddo deallusol.

Mae rhagor o wybodaeth yn y modiwl Eiddo Deallusol yn y gyfres hon am ba Eiddo Deallusol all fod yn berthnasol i’ch busnes, a sut mae ei warchod. Ewch i wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU i gael gwybodaeth fanwl am Eiddo Deallusol.

Mae rhagor o wybodaeth berthnasol yn ein tudalen Eiddo Deallusol.

Ddim wedi gwylio'r cwrs BOSS ar y gwahanol fathau o eiddo deallusol eto? Dyma'ch cyfle i edrych arno nawr.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

 

4. Rhestr Wirio – Cynllun Gweithredu Cyfreithiol

Mae’n hanfodol eich bod chi’n bodloni’ch holl ddyletswyddau cyfreithiol pan fyddwch chi’n dechrau busnes. Cofiwch, gall methu gwneud hyn arwain at ddirwy neu hyd yn oed achos llys.

Defnyddiwch y rhestr wirio (MS Word 15kb) hon i ganfod pa ddyletswyddau cyfreithiol sy’n effeithio ar eich busnes chi. Nodwch y camau y bydd yn rhaid i chi eu gweithredu er mwyn bodloni’ch dyletswyddau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill.

Nesaf: Camgymeriadau cyffredin busnes a sut i'w hosgoi