1. Crynodeb
Er bod yr ateb i'r cwestiwn hwn yn amlwg efallai, fe all y ffordd yr ewch ati wneud gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu. Mae'r adran hwn yn help ichi ddiffinio’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth mewn ffordd sy'n sicrhau'r llwyddiant mwyaf.
2. Nodweddion a Buddion
Bydd busnes yn aml yn ymateb i'r cwestiynau 'Beth rydych chi'n ei werthu?' drwy ddisgrifio'n fras nodweddion eu cynnyrch neu eu gwasanaeth. Dydyn nhw ddim yn ystyried beth mae'r cwsmer eisiau ei gael; y cyfan maen nhw'n ei wneud yw dweud wrth y cwsmer beth sydd ar gael ganddyn nhw i’w gynnig.
Gadewch inni edrych ar ychydig o enghreifftiau.
Yn gyntaf, dyma nodweddion ffôn symudol.
- mae ei ddyluniad yn chwaethus iawn
- mae'n cynnwys technoleg deialu clyfar
- ac mae ganddo sgrin Gwydr Gorila 4.3modfedd
Yr ail enghraifft yw nodweddion rhywun sy'n cynnig gwasanaeth plymio.
- rwy'n blymar cymwys a phrofiadol
- rwyf wedi cofrestru gyda Gas Safe
- rwy'n darparu gwasanaeth ar-alw 24 awr
Fyddech chi am brynu unrhyw un o'r rhain? Oes 'na unrhyw beth yn y disgrifiad sy'n eich cyffroi neu'n eich diddori chi? Go brin, oherwydd yn y ddwy enghraifft, y cyfan sydd yno yw rhestr o nodweddion.
Nawr, gadewch inni edrych y tu hwnt i'r nodweddion a phenderfynu pa fuddion sydd gan bob un o’r rhain i’w cynnig i'r cwsmer.
Ystyr budd yw rhywbeth sy'n ateb y cwestiwn ym meddwl eich cwsmer "Beth sydd gan hyn i'w gynnig i mi?" Mae'r cwsmer am gael gwybod a oes gwerth iddyn nhw yn yr hyn rydych chi'n ei gynnig.
Er mwyn datgelu buddion eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth, edrychwch ar y nodwedd a gofynnwch ichi'ch hun "Felly beth mae hynny’n ei olygu?" neu ychwanegwch "sy'n golygu bod..." ar ôl y disgrifiad o'r nodwedd.
Gadewch inni weld sut mae hyn yn gweithio yn ein henghreifftiau.
Ffôn Symudol
Nodwedd | sy'n golygu | Budd |
---|---|---|
Dyluniad chwaethus | Mae'r ffôn yn edrych mor dda fe wnaiff i'ch ffrindiau chi ddweud "Waw!" | |
Technoleg deialu clyfar | Mae'n ffordd gyflym a rhwydd i alw pobl a dod o hyd i gysylltiadau, hyd yn oed pan na fyddwch chi'n gwybod y rhif | |
Sgrin Gwydr Gorila 4.3modfedd | Mae'r sgrin yn ddigon mawr i'w gweld yn hawdd a dydy hi ddim yn sgriffio neu'n malu’n deilchion os digwydd ichi ei gollwng |
Gwasanaeth plymio
Nodwedd | sy'n golygu | Budd |
---|---|---|
Rwy'n blymar cymwys a phrofiadol | Rydyn ni wedi gweld y rhan fwyaf o'r problemau sy'n codi ac yn gwybod sut mae trwsio pethau'n gyflym ac yn effeithlon | |
Wedi cofrestru gyda Gas Safe | Yn gymwys i weithio'n ddiogel ac yn gyfreithlon ar gyfarpar nwy ac fe gewch chi dystysgrif i esbonio’r gwaith sydd wedi'i wneud | |
Ar-alw 24 awr | Felly, waeth faint o'r gloch yw hi, ddydd neu nos, os oes gennych chi broblem, fe ddown ni |
Gallwch weld sut mae'r buddion hyn yn fwy pwerus o lawer na dim ond datgan y nodweddion
Ffordd rwydd o gofio'r gwahaniaeth rhwng nodweddion a buddion yw bod nodweddion yn dweud a buddion yn gwerthu.
Defnyddiwch yr ymarfer ymarfer troi nodweddion yn fuddion (MS Word 12kb) hwn i edrych ar nodweddion eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth a'u troi'n fuddion i'ch cwsmer.
3. Beth sy'n eich gosod chi ar wahân?
Yn ogystal ag esbonio'r buddion i'ch cwsmer, rydych chi am sicrhau bod eich cwsmer yn deall sut rydych chi'n wahanol i'r bobl sy'n cystadlu â chi. Wedi'r cyfan, mae'r rhan fwyaf o'r busnesau'n debyg i fusnesau eraill yn eu marchnad - ychydig iawn sy'n unigryw.
Felly beth sy'n eich gosod chi ar wahân?
Fe elwir hyn yn Bwynt Gwerthu Unigryw (USP).
Dydy dod o hyd i'ch USP ddim yn beth hawdd. Rhaid ichi roi eich hun yn esgidiau'ch cwsmeriaid. Gofynnwch ichi'ch hun: Beth maen nhw eisiau'i gael mewn gwirionedd?
Beth y gallwch chi ei ddweud a fydd yn denu eu sylw?
(Efallai y byddech chi hefyd am feddwl beth fydd yn eu diflasu a hepgor y pethau hynny!)
Gadewch inni edrych ar ein henghreifftiau eto.
Ffôn Symudol - dywedwch eich bod chi'n dysgu bod eich cwsmeriaid yn teimlo'n rhwystredig iawn pan fydd ffonau'n rhy gymhleth a bod angen cymryd sawl cam er mwyn dod o hyd i fanylion cysylltiad. Felly, efallai mai dyma fyddai eich USP chi:"y ffôn symudol sy'n ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd i'ch cysylltiadau'n gyflym ac yn rhwydd drwy symud eich bys unwaith."
Gwasanaeth Plymio - dywedwch eich bod chi'n dysgu mai'r broblem fwyaf mae pobl yn ei chael yw bod rhaid gadael neges pan fyddan nhw'n ffonio, heb wybod byth a wnaiff y plymar ffonio yn ôl. Felly, efallai mai’ch USP chi fyddai: "yr unig blymar sy'n gwarantu i'ch ffonio chi yn ôl o fewn awr".
Cofiwch, rhaid ichi allu gwireddu honiad eich USP. Peidiwch â gwneud addewidion na allwch chi mo'u cadw."
Syniadau ar gyfer busnesau yng Nghymru
Gan eich bod chi'n fusnes yng Nghymru, un fantais fawr yw'r cyfle i ddefnyddio nodweddion gwahanol Cymru a'r Gymraeg yn eich busnes. Fe allai hyn fod yn uniongyrchol fel rhan o'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth neu yn y ffordd y byddwch chi'n ymwneud â'ch cwsmeriaid neu fel rhan o'ch gweithgarwch hyrwyddo. Fe allech chi ystyried defnyddio cymeriad Cymreig eich busnes yn rhan o'ch USP.
Dyma ambell enghraifft
- fe allai bwyty dynnu sylw at gynnyrch Cymreig lleol yn eu bwydlenni - ac, efallai ysgrifennu eu bwydlenni yn Gymraeg ac yn Saesneg
- fe allai gwesty ychwanegu cyffyrddiadau Cymreig gwahanol i'w décor
- i fusnes sy'n darparu gwasanaeth, fe allai eu USP fod yn darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg
- gallai busnes cynnal cyfrifiaduron gynnig Desg Gymorth Gymraeg a Saesneg
A oes unrhyw gyfleoedd y gallech chi eu hystyried ar gyfer eich busnes?
4. Beth rydych chi'n ei wneud?
Un o'r pethau mwyaf anodd i fusnes newydd ei wneud yw esbonio'n gyflym ac yn gryno beth mae'n ei wneud. Bydd rhywun yn gofyn ichi "Beth rydych chi'n ei wneud?" ac yn sydyn rydych chi'n straffaglu i ddod o hyd i'r geiriau iawn neu'n dechrau rhoi disgrifiad hirwyntog sy'n mynd rownd y byd. Nid yw'r naill ymateb na'r llall o help.
Mae gallu crynhoi agweddau unigryw eich busnes a'r cynnyrch neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig mewn ffordd sydd o ddiddordeb i bobl yn hollbwysig er mwyn llwyddo.
Dyma dempled syml i'ch helpu.
- Rwy'n (gwneud hyn)
- i (eich cwsmer delfrydol)
- er mwyn iddyn nhw (y budd neu'r canlyniad i'r cwsmer).
Gadewch inni weld sut mae hyn yn gweithio yn ein dwy enghraifft.
Ffôn Symudol:
- Rwy'n gwerthu ffonau symudol
- i bobl sydd â llawer o gysylltiadau ac sydd am eu ffonio'n gyflym ac yn rhwydd
- heb orfod bod yn arbenigwr technegol er mwyn dod o hyd i'w manylion.
Gwasanaeth Plymio
- rwy'n blymar prysur
- sy'n gweithio yn ardal Caerdydd
- ac rwy’ bob tro'n gwarantu cysylltu â phobl sy'n galw o fewn awr.
Defnyddiwch y templed hwn i ateb y cwestiwn. Beth rydych chi'n ei wneud? (MS Word 12kb)
Os nad ydych wedi edrych ar y cwrs BOSS hwn o'r blaen am Farchnata eich busnes newydd, yna efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi nawr.
(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).
Nesaf: Adnabod Eich Cwsmer