1. Crynodeb
Mae gan bawb bobl sy’n cystadlu yn eu herbyn ac mae'n bwysig gwybod pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei gynnig. Mae'r adran hwn yn help ichi weld pwy sy'n cystadlu yn eich erbyn chi er mwyn ichi benderfynu a allwch chi dderbyn yr her o gystadlu â nhw.
2. Beth mae angen ichi ei wybod?
Y cam cyntaf yw cael gwybod pwy sy'n cystadlu yn eich erbyn chi am amser ac arian eich cwsmeriaid. Ydych chi'n cystadlu'n uniongyrchol drwy gynnig yr un cynnyrch neu'r un gwasanaethau, ynteu a ydyn nhw'n cynnig ffyrdd gwahanol i'ch cwsmeriaid wario'u harian.
Er enghraifft, os ydych chi'n cadw salon trin gwallt, rydych chi'n cystadlu â salons eraill, ac â phobl sy'n darparu gwasanaeth trin gwallt teithiol ond mae'n bosibl hefyd eich bod chi'n cystadlu â therapyddion harddwch, clybiau ffitrwydd neu hyfforddwyr personol sydd hefyd yn gallu helpu'ch cwsmeriaid i edrych a theimlo'n dda.
Mae dadansoddiad cystadleuol da'n dechrau drwy edrych ar natur y gystadleuaeth yn eich math chi o fusnes a sut mae cwsmeriaid i bob golwg yn dewis un darparwr yn hytrach nag un arall.
Ffynonellau gwybodaeth
Gallwch ddod o hyd i lawer iawn o wybodaeth am bobl sy'n cystadlu â chi ar y we. Mae chwilio ar Google ac wedyn edrych ar wefannau'r bobl sy'n cystadlu yn eich erbyn a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn fan cychwyn da.
Wedyn, gwnewch ychydig o ymchwil ar lawr gwlad. Byddwch yn 'siopwr cudd' ac ewch i mewn i siopau, ffoniwch nhw neu rhowch gynnig ar eu siop ar lein. Gwrandewch ar eu sgwrs gwerthu, gofynnwch am restr brisiau a thaflen a sylwch ar sut maen nhw'n gweithio.
Dyma un adeg pan fydd hi'n annhebygol y cewch chi'r holl wybodaeth rydych chi am ei chael. Eich nod fydd deall pa gwmnïau rydych chi'n cystadlu â nhw, sail y gystadleuaeth hon a sut y gallwch chi sefyll ar wahân iddyn nhw.
Defnyddiwch y templed hwn ar gyfer dadansoddiad cystadleuol (MS Word 12kb) i gasglu'r wybodaeth mewn ffordd sy'n help ichi gymharu eich cystadleuwyr yn rhwydd a chyflym.