1. Trosolwg

Mae prisio’n faes cymhleth. Os bydd eich prisiau’n rhy uchel, gallech golli’r gwerthiant. Os bydd eich prisiau’n rhy isel, gallech fod ar eich colled yn ariannol. Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o bennu’ch pris a’r gwahanol dactegau prisio y gallech chi eu hystyried.

2. Prisio

Fel rydyn ni wedi’i drafod, prisio ydy un o’r penderfyniadau mwyaf y bydd yn rhaid i chi eu gwneud ynghylch eich busnes. I raddau helaeth, mae’r elw a wnewch chi’n dibynnu ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae cael y pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes.

Mae dwy ffordd o bennu’ch prisiau:

  • cost-a-mwy
  • pris sy’n seiliedig ar y farchnad

Cost-a-mwy

Gyda’r dull hwn, rydych chi’n adio holl gostau cynhyrchu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau, llafur, pecynnu ac ati. Yna, rydych chi’n adio canran ar ben y gost fel elw i chi.

Pris sy’n seiliedig ar y farchnad

Gyda’r dull hwn (sydd hefyd yn cael ei alw’n prisio sy’n seiliedig ar werth), rydych chi'n amcangyfrif beth mae'r cwsmer yn debygol o dalu am eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth, yn seiliedig ar brisiau cystadleuwyr.

Defnyddiwch y templed pennu my mhrisiau (MS Word 13kb) i sefydlu'r prisiau ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth. Rhestrwch y tactegau y byddwch yn eu defnyddio wrth brisio.

3. Prisio cost-a-mwy

Gyda’r dull hwn o bennu pris, rydych chi’n adio holl gostau cynhyrchu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau, llafur, pecynnu ac ati. Yna, rydych chi’n adio canran ar ben y gost fel elw i chi.

Mae nifer o fusnesau sy’n dechrau’n canolbwyntio ar brisio cost-a-mwy. Mae’n gymharol syml i gyfrifo hyn ac mae maint yr elw’n gyson.

Fodd bynnag, fel rydyn ni wedi’i drafod, mae nifer o ffactorau eraill yn effeithio ar benderfyniadau prisio.  Dyma rai o anfanteision prisio cost-a-mwy:

  • nid ydy hyn yn ystyried lefel y galw am eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth
  • nid ydy hyn yn ystyried pa mor sensitif ydy’ch marchnad i brisiau – a pha mor barod ydy cwsmeriaid i dalu mwy o bosib
  • os ydy'ch costau’n uchel o’u cymharu â chostau’ch cystadleuwyr, efallai y gwelwch chi fod eich pris hefyd yn anghystadleuol
  • mae dyrannu gorbenion yn aml yn fympwyol a gall hynny ystumio prisiau
  • nid ydy hyn yn ystyried y ddelwedd rydych chi'n ceisio'i chreu a'r safle yn y farchnad rydych chi'n anelu ato

4. Prisio sy’n seiliedig ar y farchnad

Mae'r dewis arall i brisio cost-a-mwy yn canolbwyntio ar faint mae cwsmeriaid yn barod i'w dalu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddeall faint o werth mae cwsmeriaid yn ei roi ar eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth. Rhaid i chi hefyd ddeall eich marchnad a chyflwr yr economi.

Dyma rai o enghreifftiau o brisio sy’n seiliedig ar y farchnad:

  • byddai rhywun yn talu mwy am laeth o’r siop leol fach yn hwyr yn y nos na fydden nhw'n ei dalu am yr un cynnyrch mewn archfarchnad fawr, am fod hynny’n fwy hwylus yr adeg hynny o’r nos
  • gall cynnyrch sydd ag enw brand fod yn llawer drytach na rhywbeth tebyg sydd heb ei frandio, oherwydd mae pobl am fod yn berchen ar y brand neu am fod yn gysylltiedig â'r brand
  • mae rhai pobl yn talu pris premiwm am y ffasiwn neu’r teclyn diweddaraf am eu bod am fod yn un o’r rhai cyntaf i’w cael
  • gall hyn fod ar sail fyd-eang, ond gallai hefyd fod mewn cyd-destun lleol, er enghraifft, “unig gyflenwr x yng Nghaerfyrddin”
  • mae pris darlun gan arlunydd poblogaidd yn dibynnu ar y gwerth y mae rhywun yn ei roi ar waith yr artist hwnnw, a faint o bobl eraill sydd hefyd yn dymuno cael yr un llun – unwaith eto, gall cysylltiad lleol gael dylanwad mawr yn y sefyllfa hon
  • gall tocynnau ar gyfer digwyddiad chwaraeon neu gyngerdd pop fod am bris uchel os oes mwy o gwsmeriaid posib na nifer y seddi sydd ar gael
  • os ydy’ch busnes mewn dinas, gallech bennu prisiau uwch na phetaech mewn lleoliad gwledig. Mae hyn oherwydd efallai fod cwsmeriaid posib yn y ddinas yn ennill mwy o arian, ac felly, byddai ganddyn nhw fwy i’w wario


Fodd bynnag, os oes llawer iawn o gystadleuaeth am eich cynnyrch yn y ddinas, efallai y bydd yn rhaid i chi bennu prisiau is, tra gall busnesau gwledig, heb fawr o gystadleuaeth, godi mwy.

Dyma sut mae pennu’ch prisiau gan ddefnyddio prisio sy’n seiliedig ar y farchnad:

  1. Edrychwch beth ydy prisiau’ch cystadleuwyr. Rhaid i chi ddeall beth ydy eu strategaeth gwerthu, felly rhaid i chi ddarganfod pa gynigion arbennig sydd ganddyn nhw, a ydyn nhw'n cynnig disgowntiau tymhorol, neu a ydyn nhw'n cadw rhai prisiau'n isel er mwyn ceisio gwerthu pethau eraill.

  2. Deall eich cwsmeriaid. Adolygwch eich ymchwil i’r farchnad a sefydlwch ble, pryd, pam, sut a sawl un maen nhw’n ei brynu. Pa gynhyrchion neu wasanaethau mae eich cwsmeriaid yn credu sy’n cynnig y gwerth gorau, a pham?

  3. Cyfunwch y wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu am gynhyrchion eich cystadleuwyr a barn eich cwsmeriaid, a sefydlwch feincnod ar gyfer eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth.

Awgrymiadau a gair i gall ar gyfer pennu prisiau

Peidiwch â chodi’r un faint â'ch cystadleuwyr heb gyfrifo’ch costau’ch hun yn gyntaf a gwneud yn siŵr y gallwch chi wneud elw.

Os nad ydych chi’n siŵr, mae bob amser yn syniad da gosod eich prisiau’n uwch. Mae’n haws eu gostwng na'u codi wedyn.

Cofiwch, mae pris isel yn aml yn golygu safon a gwasanaeth gwael ym marn y cwsmeriaid.

Yn olaf, byddwch yn barod i ostwng eich prisiau os na fyddwch chi’n cyflawni’r gwerthiant a ragwelir neu os ydy’ch llif arian o dan bwysau.

5. Prisio gwahaniaethol

Er eich bod nawr wedi pennu’ch pris, mae’n bosib y byddwch chi’n penderfynu y bydd o fudd i chi addasu’ch prisiau i wahanol gwsmeriaid a gwahanol amgylchiadau. Prisio gwahaniaethol ydy’r enw ar hyn.

Dyma rai enghreifftiau o brisio gwahaniaethol y gallech chi ystyried eu defnyddio:

  • galw tymhorol: mae gwyliau’n ddrytach yn yr haf neu yn ystod gwyliau cyhoeddus pan fydd mwy o alw
  • sianel ddosbarthu: efallai fod gennych chi wahanol brisiau ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu ar-lein i’r rhai sy'n cael eu gwerthu drwy ddosbarthwyr neu siopau mawr
  • gall pris cynhyrchion mewn siop fferm fod yn wahanol i’r cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu drwy’r archfarchnad leol
  • cyfrifon allweddol: mae’n bosib y byddwch chi’n negodi pris gwahanol â chyfrif cenedlaethol fel cadwyn archfarchnad fawr
  • amrywiadau rhanbarthol: gall prisiau mewn tref lan môr fechan fod yn wahanol i brisiau mewn dinasoedd mawr
  • swm: efallai y byddwch chi’n cynnig disgownt i gwsmeriaid sy’n prynu symiau mawr
  • amseru: gall plymar godi pris uwch am gael ei alw allan mewn argyfwng a gall argraffydd godi mwy am ddarparu gwasanaeth cyflym

Pryd bynnag y byddwch chi’n defnyddio prisio gwahaniaethol, cofiwch, rhaid i chi allu cyfiawnhau’r gwahaniaeth yn y pris.

6. Gwahanol dactegau prisio

Efallai y bydd adegau pan fydd ffactorau ar wahân i gostau neu werth cydnabyddedig yn dylanwadu ar brisio. Mae modd defnyddio prisio tactegol i gyflawni amcanion penodol.

Ystyriwch rai o'r tactegau prisio hyn - mae pob un yn cael effaith wahanol ar faint rydych chi'n ei werthu ac ar eich elw.

  • gwerth anarferol (odd value) - poblogaidd ym maes manwerthu, pan fydd pris cynnyrch yn £9.99 yn hytrach na £10, gyda’r nod o greu argraff dda ar gwsmeriaid darbodus
  • colled er mwyn ennill - pan fyddwch chi’n gwerthu rhai cynhyrchion ar golled er mwyn i chi ennill cwsmeriaid newydd. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio’r dacteg hon gyda chynhyrchion sy’n cael eu prynu’n aml, fel bara neu ffa pob, gyda’r nod o gael pobl i ddod i’r siop. Mae’n bosib y byddwch chi’n dewis cynnig cynnyrch ar golled i brynwyr tro cyntaf, gan gynyddu’r pris ar gyfer pryniadau dilynol
  • sgimio prisiau - pan fyddwch chi’n gwerthu cynnyrch newydd am bris uchel i gwsmeriaid y mae’n “rhaid iddyn nhw ei gael” ar y dechrau. Bydd y pris yn cael ei ostwng unwaith y mae’r galw cychwynnol wedi’i fodloni
  • prisio’n isel -dyma’r gwrthwyneb i sgimio prisiau ac mae’n cynnwys cyflwyno cynnyrch am bris isel a chael cynifer o gwsmeriaid â phosib cyn i’r gystadleuaeth ddal i fyny. Mae hyn yn helpu i greu cyfran marchnad a gall hefyd ddatblygu teyrngarwch brand
  • disgowntio - tacteg beryglus i’w defnyddio’n rhy aml, ond un sy’n gallu bod yn effeithiol os ydych chi am gynyddu gwerthiant yn y tymor byr neu wobrwyo cwsmeriaid ffyddlon
  • bwndelu - mae hyn yn golygu cynnig nifer o gynhyrchion gyda’i gilydd fel bwndel, fel rheol am bris is na phetaent yn cael eu prynu fesul un. Er enghraifft, bwndel cyfrifiadur, argraffydd a meddalwedd, neu becyn bwrdd syrffio a siwt wlyb. Mae hyn yn ddefnyddiol er mwyn gwerthu cynhyrchion ategol neu gysylltiedig, ac mae modd defnyddio hyn os oes gennych chi ormod o unrhyw eitem mewn stoc neu ar gyfer eitemau sy’n araf yn gwerthu


Os ydych chi’n darparu gwasanaeth, gall bwndelu fod yn arf defnyddiol gan ei fod yn atal y cwsmer rhag negodi cyfradd fesul awr. Gallwch fwndelu nifer o wasanaethau at ei gilydd, er enghraifft, ymgynghori a mentora, neu gynnig cyfuniad o wasanaeth a chynnyrch, er enghraifft, bwndel cegin cyflawn - cynllunio a dylunio, gwerthu'r unedau cegin a gosod a ffitio.

Telerau talu

Mae telerau talu ac opsiynau talu’n rhannau pwysig o’ch strategaeth brisio. Mae’n bosib y bydd buddion mawr i chi a’r cwsmer, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn deall faint mae’r gwahanol opsiynau’n ei gostio i chi o ran gweinyddu.

Gan ddibynnu ar natur eich busnes, efallai y byddech chi’n ystyried:

  • gofyn am dâl ymlaen llaw, un ai’n rhannol neu’n llawn
  • gofyn am flaendal, yna rhandaliadau
  • ofyn am dâl ar ôl cwblhau

Treth Ar Werth (TAW)

Os ydych chi’n fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, rhaid i chi godi TAW ar y gyfradd briodol am y nwyddau a’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu. Cofiwch gynnwys TAW pan fyddwch chi’n cyfrifo'ch prisiau. Dywedwch yn glir wrth eich cwsmeriaid a ydy'ch prisiau’n cynnwys TAW neu beidio.

Mae manylion llawn am y trothwyon TAW cyfredol ar gael ar wefan HMRC.

Am ragor o wybodaeth gweler ein canllaw Rheoli’ch Arian.

 

Nesaf: Sut y gallaf oroesi hyd nes y bydd fy musnes wedi ymsefydlu