1. Crynodeb

Mae pennu prisiau’n her. Mae faint o elw rydych chi’n ei wneud yn dibynnu i raddau helaeth ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae pennu’r pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes. Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng costau, pris a gwerth a sut mae'n effeithio ar eich elw.

2. Costau, pris a gwerth

Un o’r penderfyniadau mwyaf mae’n rhaid i chi eu gwneud am eich busnes ydy prisio’ch cynhyrchion neu’ch gwasanaethau. I raddau helaeth, mae’r elw rydych chi'n ei wneud yn dibynnu ar y prisiau rydych chi'n eu codi. 

Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar brisio, gan gynnwys:

• faint mae’n ei gostio i gynhyrchu’ch cynnyrch neu ddarparu'ch gwasanaeth

• beth sy’n digwydd yn eich marchnad

• prisiau’ch cystadleuwyr,
 
• y gwerth rydych chi’n ei roi i’ch cwsmeriaid

Y peth pwysig ydy pennu pris sy’n rhoi'r mwyaf o elw i chi ac sy'n rhoi'r gwerth mwyaf i'ch cwsmeriaid, a hynny ar ôl i chi dalu'ch costau i gyd.
Gadewch i ni edrych ar beth rydyn ni’n ei olygu wrth gost, pris, gwerth ac elw.

Cost = y cyfanswm rydych chi’n ei wario er mwyn cynhyrchu, marchnata a chyflenwi’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth
Pris = cyfanswm yr arian rydych chi’n ei dderbyn am gyflenwi’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth
Gwerth = yr hyn mae’ch cwsmer yn meddwl ydy gwerth eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth iddyn nhw
Elw = yr hyn sydd gennych chi ar ôl pan fyddwch chi wedi tynnu’ch costau o’ch gwerthiannau

Nid dim ond y ffigurau sy’n bwysig wrth brisio. Yn ogystal â deall eich costau mewnol yn dda, rhaid i chi hefyd bennu gwerth eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gyfrifo a phrisio eich cynhyrchion ac ati, yna ewch ati i 'neud y cwrs BOSS hwn i wella'ch dealltwriaeth.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Nesaf: Cyllideb Goroesi Personol