Rheoli eich arian

Deall y pethau sylfaenol

Rhan hanfodol o redeg busnes llwyddiannus yw gofalu am eich arian. Os rhowch chi'r rhifau at ei gilydd yn y ffordd iawn, byddan nhw'n rhoi darlun manwl i chi ac yn adrodd straeon am eich busnes. Mae’r adran hwn yn esbonio beth sy'n gysylltiedig â rheoli arian ac mae’n cyflwyno’r datganiadau ariannol sylfaenol i chi.

Rhagamcan llif arian

Mae eich llif arian yn dangos faint o arian sy'n dod i mewn i'r busnes a faint sy'n mynd allan bob mis. Mae’n arf cynllunio a rheoli allweddol ar gyfer y busnes. Mae’r adran hwn yn esbonio’r rhagamcan llif arian yn fanwl, yn dangos i chi sut mae creu rhagamcan llif arian a sut mae ei ddefnyddio i gynllunio a rheoli’ch busnes.

Cyfrif Elw a Cholled

Mae Cyfrif Elw a Cholled yn dangos perfformiad ariannol eich busnes dros gyfnod penodol. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi’n defnyddio hwn i wirio’ch cyfrifiadau ar gyfer treth ac mae buddsoddwyr posib yn ei ddefnyddio er mwyn deall sut mae’r busnes yn perfformio.  Mae’r adran hwn yn esbonio’r Cyfrif Elw a Cholled yn fanwl ac yn rhoi enghraifft i chi o Gyfrif Elw a Cholled.

Rhagamcanu Gwerthiannau

Mae rhagamcan gwerthiannau’n rhan bwysig o gynllunio busnes. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’ch rhagamcan llif arian ac i gyllidebu’n effeithiol.  Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ddulliau o ragamcanu, yn dangos sut mae paratoi’ch rhagamcan gwerthiannau a sut mae cyfrifo’ch pwynt adennill costau.

Y Fantolen a chymarebau

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau mwyaf defnyddiol i’ch busnes.

Treth Ar Werth (TAW)

Treth Ar Werth (TAW) yw treth ar drafodion a godir am werthu nwyddau a gwasanaethau. Mae’r adran hwn yn esbonio pwy sydd i fod i dalu treth ar werth a sut mae ei chyfrifo.

Rheoli arian yn effeithiol

Mae pwysigrwydd rheolaeth ariannol dda yn cael ei bwysleisio yn y adran hwn, a thynnir sylw at elfennau allweddol rhedeg ochr ariannol eich busnes. Mae rhestr wirio yn y canllaw hwn i’ch helpu i reoli’ch arian yn effeithiol.

Cadw golwg ar eich materion ariannol

Rhan hanfodol o gadw busnes llwyddiannus yw gofalu am eich materion ariannol. Os rhowch chi'r rhifau at ei gilydd yn y ffordd iawn, byddan nhw'n rhoi darlun manwl ichi ac yn adrodd stori am eich busnes. Mae'r adran hwn yn adolygu prif elfennau rheoli ochr ariannol y busnes.