1. Trosolwg

Mae Cyfrif Elw a Cholled yn dangos perfformiad ariannol eich busnes dros gyfnod penodol. Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi’n defnyddio hwn i wirio’ch cyfrifiadau ar gyfer treth ac mae buddsoddwyr posib yn ei ddefnyddio er mwyn deall sut mae’r busnes yn perfformio.  Mae’r adran hwn yn esbonio’r Cyfrif Elw a Cholled yn fanwl ac yn rhoi enghraifft i chi o Gyfrif Elw a Cholled.

2. Cyfrif Elw a Cholled

Mae Cyfrif Elw a Cholled yn tynnu cyfanswm eich costau o gyfanswm eich gwerthiannau ac yn dangos y llinell waelod i chi – a yw eich busnes wedi gwneud elw neu golled ar ddiwedd y cyfnod (12 mis fel rheol).

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi’n defnyddio’r wybodaeth yn y Cyfrif Elw a Cholled i wirio’ch cyfrifiadau ar gyfer treth a’ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4. Mae perchnogion, cyfranddalwyr a darpar fuddsoddwyr yn ei ddefnyddio hefyd i ddeall sut mae’r busnes yn perfformio.

Mae gwahaniaethau allweddol rhwng Cyfrif Elw a Cholled a rhagamcan llif arian:

Mae’r cyfrif Elw a Cholled yn seiliedig ar incwm a gwariant am gyfnod penodol. Mae hyn yn golygu ei fod yn cynnwys gwerthiannau rydych chi wedi anfonebu amdanyn nhw, ond efallai nad ydych chi wedi cael eich talu eto, a’r costau a’r treuliau nad ydych chi wedi’u talu eto.

Mae hefyd yn cynnwys costau annirweddol fel drwg-ddyledion a dibrisiad ac mae hefyd yn ystyried stoc wrth gau (gan y bydd y stoc wrth gau’n cael ei gwerthu yn ystod y cyfnod nesaf).

Nid yw tyniadau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cynnwys mewn Cyfrif Elw a Cholled. Nid yw Cyfrif Elw a Cholled yn cynnwys TAW ar werthiannau na chostau.

Efallai y byddai’n help i chi lwytho’r enghraifft hon i lawr a’i (MS Word 49kb).

3. Rhagamcan Gwerthiannau

Dyma enghraifft o Gyfrif Elw a Cholled:

Blodau Blodeuwedd – Cyfrif Elw a Cholled – Blwyddyn sy’n dod i ben ar 31/12/2012

Gwerthiannau  
Gwerthiannau £75,000
Cost Gwerthiannau £26,250
Elw Gros £48,750
Gorbenion a Chostau Gweithredu  
Cyflogau £5,500
Rhent £7,200
Yswiriant £600
Trydan / Nwy £1,000
Papurau, Argraffu a Phostio £750
Costau modur £2,000
Ffôn a’r Rhyngrwyd £600
Ffioedd proffesiynol £500
Offer £7,000
Marchnata £2,000
Cyfanswm gorbenion a chostau gweithredu £27,150

                             

Elw Net Blodeuwedd am y cyfnod yw £21,600 cyn treth.