1. Trosolwg
Mae rhagamcan gwerthiannau’n rhan bwysig o gynllunio busnes. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’ch rhagamcan llif arian ac i gyllidebu’n effeithiol. Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ddulliau o ragamcanu, yn dangos sut mae paratoi’ch rhagamcan gwerthiannau a sut mae cyfrifo’ch pwynt adennill costau.
2. Rhagamcanu Gwerthiannau
Mae rhagamcan gwerthiannau’n rhan bwysig o gynllunio busnes. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’ch rhagamcan llif arian ac i gyllidebu’n effeithiol, yn ogystal â gosod amcanion gwerthu ar gyfer yr hyn mae angen i chi ei gyflawni bob dydd, bob wythnos neu bob mis.
Fel rheol, mae rhagamcanu gwerthiannau’n cael ei wneud yn flynyddol.
Mae 3 dull sylfaenol o ragamcanu gwerthiannau ar gyfer busnesau newydd:
- seiliedig ar y farchnad – yn seiliedig ar ganlyniadau’ch ymchwil i’r farchnad
- seiliedig ar adnoddau – yn seiliedig ar faint allwch chi’i gynhyrchu
- seiliedig ar werth – yn seiliedig ar beth mae’n rhaid i chi ei werthu er mwyn gwneud elw
3. Rhagamcan sy’n seiliedig ar y farchnad
Byddwch wedi cael gwybodaeth werthfawr ar ôl i chi wneud ymchwil i’r farchnad, a hynny am bwy yw’ch cwsmeriaid, faint o gwsmeriaid sydd yna, faint maen nhw’n debygol o’i wario a pha mor aml maen nhw’n debygol o brynu. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddechrau amcangyfrif faint allech chi ei werthu bob mis.
Mae angen i chi edrych ar beth mae'ch cystadleuwyr yn ei wneud hefyd. Sut mae’ch amcangyfrifon chi’n cymharu â busnesau tebyg o ran maint?
Cofiwch wneud nodyn o ffactorau eraill sy’n effeithio ar werthiannau fel tymhorau, tueddiadau a ffasiwn, newidiadau o ran pris a faint o incwm gwario sydd ar gael, yn ogystal â beth mae’r cystadleuwyr yn ei wneud.
Byddwch yn realistig wrth amcangyfrif.
Er enghraifft, os ydych chi’n agor gwely a brecwast gyda lle i wyth o bobl, ac mae’ch ymchwil yn dangos y byddai darpar gwsmeriaid yn gwario £30 yr un ar gyfartaledd ar bob ymweliad, gallwch amcangyfrif y byddai uchafswm eich gwerthiannau’n £240 y dydd (8 o bobl x £30 yr un).
Fodd bynnag, uchafswm yw hyn, os yw pob gwely’n llawn ac os yw pob cwsmer yn gwario £30.
Nawr, edrychwch ar beth mae’ch cystadleuwyr yn ei wneud – pa mor llawn yw eu gwely a brecwast nhw, ac a yw hyn yn newid ar wahanol ddyddiau o’r wythnos?
Os ydych chi’n amcangyfrif eu bod yn llawn 75% o’r amser, newidiwch eich amcangyfrif i £180 (£240 x 75%).
Efallai hoffech chi newid y ffigur hwn ar gyfer gwyliau a'r haf neu'r gaeaf i gael rhagamcan cywirach.
4. Rhagamcan sy’n seiliedig ar adnoddau
Mae’r dull hwn o ragamcan gwerthiannau’n edrych ar sut gall cyfyngiadau ar adnoddau yn eich busnes ddylanwadu ar y gwerthiannau gallwch chi’u cyflawni. Bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys arian, offer, amser a phobl.
Yn ein henghraifft flaenorol, mae perchennog y gwely a brecwast wedi’i gyfyngu gan nifer y gwlâu, ei allu i ddelio ag wyth o westeion, a phryd mae ar agor.
Os ydych chi’n rhedeg busnes gweithgynhyrchu, mae faint allwch chi ei gynhyrchu’n dibynnu ar ba mor hir y gallwch chi redeg eich peiriannau, faint o staff sydd gennych chi a faint o ddeunyddiau crai y gallwch chi fforddio’u prynu.
Os yw eich busnes yn darparu gwasanaeth, mae faint o amser cynhyrchiol sydd gennych chi’n cyfyngu arnoch chi.
Tarwch olwg ar y cyfyngiadau o ran adnoddau yn eich busnes, a chofiwch am y rhain pan fyddwch chi’n paratoi’ch rhagamcan gwerthiannau.
5. Rhagamcan sy’n seiliedig ar werth
Mae’n bwysig gwybod beth yw’r ffigurau yn eich busnes, a’u deall. Mae’r dull hwn o ragamcan gwerthiannau’n edrych ar faint y mae angen i chi ei werthu er mwyn talu eich costau i gyd, gan gynnwys eich gorbenion. Dyma’ch pwynt adennill costau.
Os bydd eich gwerthiannau’n is na’ch pwynt adennill costau, bydd eich busnes yn colli arian ac ni fydd yn gwneud elw.
6. Cyfrifo'ch pwynt adennill costau
Y pwynt adennill costau yw'r pwynt lle bydd eich costau a'ch incwm yn gyfartal. Mae unrhyw beth rydych chi’n ei werthu sy’n uwch na’r pwynt adennill costau’n elw i chi.
Er mwyn cyfrifo’ch pwynt adennill costau, rhaid i chi wybod beth yw:
1. cyfanswm y costau sefydlog / gorbenion am y flwyddyn
2. costau uniongyrchol fesul uned a’r
3. pris gwerthu fesul uned disgwyliedig
Er enghraifft:
Cyfanswm Costau Sefydlog - £10,000
Costau Uniongyrchol fesul uned - £2
Pris Gwerthu Uned - £6
Cyfrifwch y cyfraniad y mae pob uned yn ei wneud i gyfanswm y costau sefydlog drwy dynnu’r Costau Uniongyrchol fesul uned (£2) o’r Pris Gwerthu Uned (£6).
Pris Gwerthu – Costau Uniongyrchol fesul uned £6 - £2 = £4
Nawr, rhannwch gyfanswm y costau sefydlog (£10,000) â’r cyfraniad fesul uned (£4). Bydd hyn yn dweud wrthych chi faint o unedau y mae’n rhaid i chi eu gwerthu er mwyn cyrraedd y pwynt adennill costau.
Costau Sefydlog ÷ Cyfraniad uned = unedau (Pwynt adennill costau)
£10,000 ÷ £4 = 2,500 o unedau (Pwynt adennill costau)
Ar gyfer busnesau gwasanaeth, defnyddiwch y pris gwerthu fesul awr yn hytrach nag unedau, a thynnwch unrhyw gostau uniongyrchol fesul awr.
Defnyddio'r pwynt adennill costau i ragamcanu gwerthiannau
Yn ein henghraifft ni, mae’n rhaid i’r busnes werthu 2,500 o unedau i adennill costau.
Os bydd yn cynhyrchu mwy na 2,500 o unedau, bydd yn gwneud elw, llai na 2,500 o unedau, a bydd ar ei golled.
Rhaid i’r rhagamcan gwerthiannau fod yn uwch na 2,500 uned i wneud elw.
Mae gwybod beth yw’ch pwynt adennill costau’n eich helpu i ddadansoddi beth mae’n rhaid i chi ei werthu ac mae’n golygu y gallwch chi gynllunio i gyflawni hynny.
Yn yr enghraifft hon, os tybiwch chi fod 250 o ddiwrnodau gwerthu bob blwyddyn (5 diwrnod yr wythnos dros 50 o wythnosau) rhaid i chi werthu 10 uned bob dydd er mwyn adennill eich costau. Nawr gallwch asesu pa mor realistig yw hyn.
7. Creu’ch rhagamcan gwerthiannau
Rhaid i ragamcan gwerthiannau fod mor gywir a dibynadwy â phosib. Fel rheol bydd yn cynnwys y tri dull sy’n cael eu trafod yn y modiwl hwn. Dylai fod y rhagamcan gorau o’r hyn all ddigwydd.
Os byddwch yn amcangyfrif eich gwerthiannau’n rhy isel, ni fyddwch yn gallu talu’ch costau. Os byddwch chi’n amcangyfrif yn rhy uchel, efallai na fydd gennych chi ddigon o gyfalaf gweithio i dalu am eich gofynion ariannol.
Gall nifer o wahanol ffactorau ddylanwadu ar werthiannau. Er enghraifft, y tymhorau, gwyliau, y tywydd, digwyddiadau arbennig, ffasiwn, gweithgareddau cystadleuol, ymgyrchoedd hyrwyddo gwerthiant, prisiau, gallu cynhyrchu a thelerau talu. Er nad oes gennych chi reolaeth dros rai o’r rhain, mae 2 faes y mae’n rhaid i chi eu hystyried.
- gwerthiannau ar y dechrau – mae’n annhebygol iawn y byddwch chi’n dechrau gwerthu o’r diwrnod cyntaf. Byddwch yn realistig pan fyddwch chi’n paratoi’ch rhagamcan gwerthiannau. Rhowch amcan o ba mor hir y bydd yn ei gymryd i chi ennill eich cwsmer cyntaf, a pha mor gyflym y bydd eich busnes yn datblygu
- y tymhorau – meddyliwch yn ofalus sut bydd yr adeg o’r flwyddyn yn effeithio ar eich busnes. Mae hyn yn wahanol ar gyfer pob math o fusnes. Er enghraifft, mae plymar yn debygol o gael mwy o waith brys yn y gaeaf a bod yn weddol dawel yn yr haf. Gall therapydd harddwch, ar y llaw arall, ddisgwyl cael mwy o bobl yn dod i gael trin eu traed yn yr haf a mwy'n dod i gael triniaeth ar gyfer eu dwylo yn ystod y gwyliau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y tymhorau wrth ragamcanu'ch gwerthiannau
Mae modd defnyddio’r wybodaeth yn eich rhagamcan gwerthiannau i lunio’ch rhagamcan llif arian. Tarwch olwg ar eich rhagamcan llif arian yn rheolaidd, gan gymharu’ch sefyllfa go iawn â’ch rhagamcan. Fel hyn, gallwch wneud yn siŵr nad ydych chi’n gorwario a gallwch fod yn barod i ymateb ar unwaith petai angen. Mae creu graff gwerthiannau’n syniad de, er mwyn eich atgoffa o’ch perfformiad.
Defnyddiwch yr ymarfer hwn i gyfrifo rhagamcan gwerthiannau enghreifftiol. Gallwch ei ddefnyddio fel templed ar gyfer eich busnes eich hun.
Defnyddiwch hyn yn creu ymarfer eich gwerthiant rhagolwg (MS Word 12kb) i weithio allan rhagolwg enghraifft gwerthiant. Gallwch ei ddefnyddio fel templed ar gyfer eich busnes eich hun.
Nesaf: Y Fantolen a Chymarebau