1. Trosolwg

Mae pwysigrwydd rheolaeth ariannol dda yn cael ei bwysleisio yn y modiwl hwn, a thynnir sylw at elfennau allweddol rhedeg ochr ariannol eich busnes. Mae rhestr wirio yn y adran hwn i’ch helpu i reoli’ch arian yn effeithiol.

2. Rheoli arian yn effeithiol

Rhan hanfodol o redeg busnes llwyddiannus yw gofalu am eich arian. Mae cael set dda o ffigurau’n rhoi darlun manwl i chi o’r busnes ac yn eich galluogi i wneud penderfyniadau ystyrlon ar sail gwybodaeth.

Hyd yn oed os oes gennych chi gyfrifydd a/neu rywun sy’n cadw llyfrau, eich cyfrifoldeb chi, fel perchennog y busnes, yw gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy’n digwydd gyda’ch arian er mwyn i chi allu cadw pethau dan reolaeth.

Dyma restr wirio i’ch helpu i reoli’ch arian yn effeithiol:

  • paratowch gyllideb gadarn a realistig
  • cadwch gofnodion clir a chywir, gan eu diweddaru’n rheolaidd (byddai unwaith yr wythnos yn ddelfrydol). Cofiwch, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol, ac mae hefyd yn eich helpu i gadw pethau dan reolaeth yn eich busnes
  • cadwch bob anfoneb, cyfriflen banc a derbynneb sy’n ymwneud â’r busnes
  • adolygwch eich llif arian bob wythnos. Cofiwch, ni fyddwch wedi cwblhau gwerthiant nes byddwch chi wedi derbyn taliad
  • tarwch olwg ar eich cyfrif banc a’ch arian bob dydd
  • gwnewch yn siŵr bod eich telerau busnes yn glir a bod eich cwsmeriaid yn ymwybodol ohonyn nhw
  • anfonebwch cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau
  • rhowch flaenoriaeth i fynd ar drywydd pobl sy’n hwyr yn talu
  • ymatebwch ar unwaith os nad ydych chi’n perfformio cystal â’r disgwyl. Mae’n well cadw pethau dan reolaeth a gofyn am help yn fuan.

Defnyddiwch y templedi hyn i greu’r datganiadau ariannol allweddol ar gyfer eich busnes. 

Nesaf: Cadw golwg ar eich materion ariannol