1. Crynodeb

Anghofiwch geisio gwerthu i bawb. Yn hytrach, rydych chi am werthu i bobl rydych chi'n gwybod y byddan nhw am brynu’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth. Mae'r adran hwn yn help ichi ganolbwyntio ar bwy yw'ch cwsmeriaid delfrydol tebygol.

2. Adnabod eich cwsmer

Mae gwybod pwy yn union yw eich cwsmeriaid targed yn fantais enfawr i unrhyw fusnes. Yn hytrach na mynd ati i dargedu pawb, canolbwyntiwch yn ofalus ar gwsmeriaid penodol. Drwy wneud hyn, byddwch chi'n osgoi gwastraffu arian ar bobl sydd byth yn mynd i brynu gennych chi.

Bydd angen ichi ganolbwyntio ar y bobl hynny sydd eisoes wedi dangos diddordeb yn y math o gynnyrch neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu cynnig a'r bobl hynny sydd â'r arian i’w prynu.

Mae'n beth da creu darlun o'ch Cwsmer Delfrydol - sef yr un sydd fwyaf tebygol o brynu.

3. Fy Nghwsmer Delfrydol

Mae creu darlun o'ch cwsmer delfrydol yn beth sydd yn wir yn werth ei wneud. Dechreuwch drwy ofyn cwestiynau ichi'ch hun a defnyddio'r atebion i adeiladu'ch gwybodaeth am bwy yw'r cwsmer hwn.

Bydd y cwestiynau y bydd angen ichi ofyn ichi'ch hun yn amrywio dipyn a dibynnu ar ai i'r farchnad defnyddwyr rydych chi'n gwerthu ynteu ydych chi'n gwerthu i fusnesau eraill.

Yn y farchnad defnyddwyr, byddwch chi fel rheol yn gwerthu'n uniongyrchol i un person. Yn y farchnad busnes i fusnes, fe all fod yn fwy cymhleth a sawl person yn ymwneud â'r broses, ac weithiau, bydd y prosesau prynu'n fwy ffurfiol. Ond cofiwch, byddwch chi'n dal i werthu i bobl go iawn, nid dim ond i fusnes dienw.

Dyma ychydig o gwestiynau ichi eu hystyried i'ch helpu i gychwyn arni.

Os ydych chi'n gwerthu i ddefnyddwyr:

  • pwy ydyn nhw?  - eu hystod oedran, eu rhyw, eu lleoliad, eu dewis iaith?
  • beth sy'n eu denu, eu diddordebau, eu hobïau ac ati?
  • o le y byddan nhw'n cael gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau tebyg i'ch rhai chi?
  • beth yw'r problemau neu'r rhwystredigaethau mwya y byddan nhw'n eu hwynebu (y gall eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth chi helpu i'w datrys)?
  • pam mae hyn yn bwysig iddyn nhw?
  • ble maen nhw'n siopa?
  • faint o arian sydd ganddyn nhw i'w wario (ar gynnyrch neu wasanaethau fel eich un chi?)

Os ydych chi'n gwerthu i fusnesau eraill:

  • beth yw math, maint, lleoliad y busnes (rydych chi'n gwerthu iddo)?
  • beth yw teitl swydd/disgrifiad y sawl sy'n gwneud y penderfyniadau prynu a/neu yn dylanwadu arnyn nhw?
  • o le y byddan nhw'n cael gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau tebyg i'ch rhai chi?
  • sut maen nhw'n gwneud eu penderfyniadau prynu? - yn uniongyrchol â'r cyflenwyr, drwy gonsortiwm prynu, drwy broses gaffael/dendro ffurfiol ac ati.
  • pwy sy'n eu cyflenwi ar hyn o bryd?
  • beth yw'r broblem maen nhw'n awyddus i'w datrys (y gallwch chi helpu i'w chywiro)?
  • beth yw'r canlyniad maen nhw'n dymuno'i weld?

Defnyddiwch y templed hwn i greu proffil o'ch Cwsmer Delfrydol. Byddwch mor fanwl â phosibl. 

Gwnewch y cwrs BOSS hwn i ddysgu mwy am adnabod nodau ac anghenion eich cwsmeriaid.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Nesaf: Y Lle Iawn a'r Amser Iawn