Cyllid

Costau, Pris a Gwerth

Mae pennu prisiau’n her. Mae faint o elw rydych chi’n ei wneud yn dibynnu i raddau helaeth ar y prisiau rydych chi’n eu codi, felly mae pennu’r pris yn iawn yn hanfodol i lwyddiant eich busnes.  Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng costau, pris a gwerth a sut mae'n effeithio ar eich elw.

Cyllideb Goroesi Personol

Er mwyn i’ch busnes oroesi, rhaid i chi gael digon o arian i dalu am eich holl gostau sefydlu, costau rhedeg y busnes a chael digon i chi fyw arno hefyd. Mae’r adran hwn yn edrych ar sut mae pennu’ch cyllideb bersonol ar gyfer byw.

Deall Costau

Y cam cyntaf wrth bennu prisiau ydy sefydlu’ch costau. Mae’r adran hwn yn eich helpu i ddeall y gwahanol fathau o gostau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg eich busnes.

Costio eich cynnyrch neu wasanaeth

Nawr eich bod chi wedi nodi faint mae’n ei gostio i ddechrau a rhedeg eich busnes, gallwch weld faint mae’n ei gostio i chi gynhyrchu’ch cynnyrch neu i ddarparu’ch gwasanaeth. Mae’r adran hwn yn mynd â chi drwy’r broses o gostio’ch cynnyrch, costio’ch gwasanaeth neu gostio ar gyfer manwerthu. 

Prisio

Mae prisio’n faes cymhleth. Os bydd eich prisiau’n rhy uchel, gallech golli’r gwerthiant. Os bydd eich prisiau’n rhy isel, gallech fod ar eich colled yn ariannol. Mae’r adran hwn yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o bennu’ch pris a’r gwahanol dactegau prisio y gallech chi eu hystyried.

Sut y gallaf oroesi hyd nes y bydd fy musnes wedi ymsefydlu?

Gall gymryd nifer o fisoedd cyn y bydd busnes newydd yn broffidiol ac yn gwneud arian dros ben. Mae'n bosibl y bydd angen ffynonellau amgen o incwm arnoch yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed os bydd hynny ond i gwmpasu eich treuliau. Os bydd eich busnes yn gwneud elw, mae'n bosibl y byddwch am ei ail-fuddsoddi i helpu eich busnes i ddatblygu.

Canfod Cyllid

Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae’n adnodd cyllid yma i helpu.