1. Crynodeb

Mae'n bwysig sicrhau bod eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth ar gael yn y lle iawn ar yr adeg iawn a bod ei ansawdd yn iawn hefyd. Mae'r adran hwn yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen ichi eu hystyried wrth ddarparu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth i'ch cwsmer.

2. Y Lle Iawn a'r Amser Iawn

Beth yw disgwyliadau'ch cwsmeriaid a beth fyddai orau ganddyn nhw o ran ymhle, pa bryd, sut a pha mor aml y byddan nhw'n prynu cynnyrch neu wasanaethau fel eich rhai chi?

Yn union fel sy'n wir am brisio, mae ymhle neu sut y gall pobl gael eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth yn dweud llawer am ei ansawdd a'i 'statws'.

Gadewch inni edrych ar ychydig o enghreifftiau:

Os ydych chi'n gwerthu eitemau o safon uchel am bris uchel, mae siop foethus neu fanwerthwr arbenigol ar-lein yn fwy priodol na'r archfarchnad leol.

Os ydych chi'n gwerthu ar lein, mae pa mor gyflym a rhwydd yw defnyddio'ch gwefan yn gosod disgwyliadau'r cwsmeriaid.

Ac os bydd peintiwr ac addurnwr yn cyrraedd mewn fan fudr heb ysgol a dim ond un brwsh paent, bydd yn cael ei weld mewn ffordd wahanol iawn i rywun sy'n dechrau'r job mewn oferôl trwsiadus a glân ac sydd â'i offer ei hun i gyd yn barod.

Meddyliwch hefyd am yr iaith y byddai'n well gan eich cwsmeriaid ei defnyddio. Ydyn nhw'n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg neu iaith arall? Yng Nghymru, er enghraifft, ydyn nhw'n ffafrio busnesau sy'n cynnig gwasanaeth dwyieithog neu sy'n mynd at ei gwaith mewn ffordd ddwyieithog - o ran eu harwyddion, taflenni, ar eu gwefan, neu'n syml drwy ddefnyddio ychydig o eiriau Cymraeg wrth gyfarch?

Darganfyddwch fwy am nodau ac anghenion eich cwsmeriaid Cymraeg gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

3. Dewis eich system ddosbarthu

Yr allwedd i ddewis sut mae dosbarthu eich cynnyrch neu'ch gwasanaethau yw gwybod ymhle mae'ch cwsmeriaid.

Nesaf, edrychwch ar y dewisiadau sydd ar gael. Cofiwch ofyn am yr hyn y mae'ch cwsmer yn ei ddisgwyl, yn ogystal â'r goblygiadau o ran costau, storio a chludo.

Gofynnwch y 3 chwestiwn hyn i chi'ch hun:

  • allwch chi weithio gartref, oes angen swyddfa arnoch chi neu oes angen ichi fynd i adeiladau’ch cwsmeriaid?
  • oes angen ichi ddod wyneb-yn-wyneb â'ch cwsmeriaid neu allwch chi ddefnyddio'r rhyngrwyd, y ffôn a gwasanaethau o bell megis cynadledda fideo?
  • fyddwch chi'n cludo'ch cynnyrch yn uniongyrchol i'ch cwsmer neu'n defnyddio trydydd parti megis cyfanwerthwr neu werthwr canol o fath arall?
  • oes gennych chi dîm o bobl dan fasnachfraint neu gymdeithion, neu a allech chi ddefnyddio cynllun parti?
  • ydy'ch busnes yn gweithredu'n llwyr neu'n rhannol ar-lein?
  • pa wasanaethau dosbarthu y bydd angen ichi eu defnyddio - gwasanaeth post, gwasanaeth cludo neu'ch fflyd cerbydau eich hun?
  • pa ddelwedd mae'ch siop, eich ffatri, eich swyddfa neu'ch gwefan yn ei chyfleu?
  • ddylech chi ystyried defnyddio cyflenwyr neu ddosbarthwyr o Gymru?
  • ydy'ch pecynnu'n adlewyrchu tarddiad y cynnyrch, diwylliant Cymru neu ddiwylliannau eraill - o ran iaith,  delweddau neu liw?

Defnyddiwr y templed dewisiadau dosbarthu (MS Word 11kb) hwn i benderfynu ymhle mae'ch cwsmeriaid a beth yw'r ffordd orau o'u cyrraedd.

 

Nesaf: Hyrwyddo'ch busnes