Adeiladu Tîm

Beth yw Cwmni Cyfyngedig?

Pan fyddwch chi’n dechrau busnes, mae angen ichi benderfynu a fyddwch chi am redeg y busnes fel Masnachwr Unigol, Partneriaeth neu Gwmni Cyfyngedig. Y maen prawf pwysig wrth wneud penderfyniad yw atebolrwydd ariannol personol, er bod goblygiadau eraill i’w hystyried. Mae’r adran hwn yn tynnu sylw at fanteision ac anfanteision bod yn gwmni cyfyngedig ac mae’n amlinellu’r cyfrifoldebau cyfreithiol.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr

Mae swydd cyfarwyddwr yn rhywbeth i’w gymryd o ddifri.  Gall fod yn rôl sy’n rhoi llawer o foddhad ac yn llawn bri, ond gall fod ychydig yn anodd hefyd, ac mae’n bosib y bydd gennych chi rywfaint o gwestiynau. Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ddyletswyddau a chyfrifoldebau bod yn gyfarwyddwr. 

Rôl y cyfarwyddwr

Fel yr esboniwyd eisoes, y cyfarwyddwyr sy'n rhedeg cwmni cyfyngedig a'r cyfranddalwyr sy'n berchen arno ac sy'n ei ariannu. Mae’r canllaw hwn yn edrych ar y gwahanol fathau o gyfarwyddwyr a'r hyn maen nhw'n ei wneud.

Llywodraethu Corfforaethol

Llywodraethu corfforaethol yw’r system ar gyfer cyfarwyddo a rheoli cwmnïau. Mae’r adran hwn yn edrych ar brif feysydd llywodraethu corfforaethol a sut maen nhw’n effeithio ar eich busnes.

Creu bwrdd effeithiol

Mae gweithio gyda bwrdd cyfarwyddwyr yn brofiad newydd i nifer o berchnogion busnesau bach, a gall fod yn her. Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae creu bwrdd effeithiol a sut mae cynnal cyfarfod bwrdd llwyddiannus.

Yn barod i recriwtio?

Cyflogi eich gweithiwr cyntaf yw un o'r camau pwysicaf wrth ichi ddatblygu'ch busnes. Mae'n gyfrifoldeb mawr ac yn gam pwysig i unrhyw fusnes. Mae'r adran hon yn sôn am oblygiadau recriwtio i'ch busnes ac mae'n dangos beth yw manteision recriwtio da a beth yw cost gwneud pethau'n anghywir.

Camau allweddol y broses recriwtio

Fe all y broses recriwtio fod yn ddychryn i fusnesau bach. Maen nhw'n poeni ei bod hi'n broses gymhleth ac y byddan nhw'n wynebu anawsterau ar hyd pob cam o'r ffordd. Mae'r adran hon yn eich tywys drwy gamau allweddol y broses recriwtio ac yn helpu i sicrhau bod eich recriwtio'n effeithlon, yn effeithiol ac yn deg. 

Paratoi ar gyfer eich gweithiwr newydd

Ar ôl ichi benderfynu a dethol eich ymgeisydd, mae nifer o bethau y mae'n rhaid ichi eu hystyried cyn ichi eu cyflogi. Bydd y adran hon yn eich tywys drwy'r broses benodi.

Cyflogi eich gweithiwr cyntaf - materion cyfreithiol

Pan fyddwch chi'n cyflogi rhywun am y tro cyntaf, mae nifer o bethau pwysig y mae angen ichi eu gwneud o dan gyfraith y Deyrnas Unedig. Bydd y adran hon yn eich tywys drwy bob un o'r gofynion cyfreithiol hyn.