1. Crynodeb

Pan fyddwch chi'n cyflogi rhywun am y tro cyntaf, mae nifer o bethau pwysig y mae angen ichi eu gwneud o dan gyfraith y Deyrnas Unedig. Bydd y adran hon yn eich tywys drwy bob un o'r gofynion cyfreithiol hyn.

2. Cyflogi eich gweithiwr cyntaf - materion cyfreithiol

Pan fyddwch chi'n cyflogi rhywun am y tro cyntaf, mae 5 peth pwysig y mae angen ichi eu gwneud o dan gyfraith y Deyrnas Unedig.

1. Penderfynu faint i'w dalu iddyn nhw. Rhaid ichi dalu'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol fan leiaf i'ch gweithiwr. Mae'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol yn dibynnu ar eu hoedran ac ar ai prentis ydyn nhw. Mae'r holl wybodaeth am gyfraddau presennol y Lleiafswm Cyflog ar wefan hwn

2. Gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r hawl gyfreithlon i weithio ichi. Rhaid ichi sicrhau bod gan eich gweithiwr yr hawl gyfreithlon i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os na fyddwch chi'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon, fe allech chi orfod talu cosb sifil neu fod yn agored i erlyniad troseddol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn GOV.UK

3. Cael yswiriant cyflogwr. Mae angen ichi gael yswiriant atebolrwydd cyflogwr cyn gynted ag y byddwch chi'n dechrau cyflogi. Rhaid i hyn eich gwarchod am o leiaf £5 miliwn a rhaid iddo ddod gan 'yswiriwr awdurdodedig'.

4. Cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a thalu i'ch gweithiwr. Bydd angen ichi gofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel cyflogwr, gwneud unrhyw ddidyniadau (Cyfraniadau Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol) a rhoi datganiad cyflog i'ch gweithiwr). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae llyfr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi 'Employing someone for the first time' ar gael i'w lawrlwytho yn GOV.UK

5. Anfonwch fanylion y swydd, gan gynnwys telerau ac amodau, ar ffurf ysgrifenedig, i'ch gweithiwr. Os ydych chi'n cyflogi rhywun am fwy na mis, bydd angen ichi roi datganiad cyflogi ysgrifenedig iddyn nhw o fewn eu 2 fis cyntaf.

6. Mae'n bosib lawrlwytho templed ar gyfer datganiad cyflogi ysgrifenedig

Mae manylion llawn pob un o'r gofynion cyfreithiol hyn ac agweddau eraill ar gyflogi staff ar gael ar wefan GOV.UK.

3. Iechyd a Diogelwch

Mae gennych chi gyfrifoldebau fel cyflogwr hefyd o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Dyma rai o'r agweddau pwysicaf y mae'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw:

  • Asesu'r risgiau yn y gweithle. Rhaid ichi asesu'r risg i iechyd a diogelwch gweithwyr a phobl eraill y gallai eich busnes effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn berthnasol i bob busnes, ni waeth faint o weithwyr rydych chi'n eu cyflogi.
  • Ystyried y gofynion cymorth cyntaf yn eich gweithle a gwneud yn siŵr bod gennych chi aelodau ar eich staff sydd wedi cael eu hyfforddi'n briodol.
  • Cymryd camau i sicrhau nad yw sylweddau peryglus yn achosi perygl yn y gwaith.
  • Cofnodi damweiniau yn y gweithle, yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Gwneud yn siŵr fod gan weithwyr unrhyw offer gwarchodol sydd ei angen arnyn nhw.
  • Pan fydd gan eich busnes bump gweithiwr neu ragor, bydd angen ichi baratoi datganiad iechyd a diogelwch ysgrifenedig.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu adnoddau a chyngor am ddim ar bob agwedd ar iechyd a diogelwch yn y gwaith. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan HSE.

4. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn agweddau pwysig yn y gweithle. Gadewch inni edrych ar ychydig o ddiffiniadau a'r gwahaniaethau rhwng cydraddoldeb ac amrywiaeth:

CYDRADDOLDEB

  • trin pawb yn deg ar sail angen yr unigolyn
  • deddfwriaeth yn sail i'r cysyniadau
  • gofyn i fusnesau roi cyfle perthnasol a phriodol i bawb gymryd rhan, datblygu a dringo
  • gofyn i unigolion ymddwyn yn unol â pholisi'r busnes

AMRYWIAETH

  • gwahaniaeth yw hanfod amrywiaeth
  • mae pawb yn wahanol
  • mae'r gwahaniaethau hynny'n cynnwys hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred, profiadau bywyd a gwaith, addysg a statws cymdeithasol-economaidd
  • mae rhai gwahaniaethau'n amlwg, eraill ddim
  • mae gofyn inni i gyd roi gwerth ar bawb fel unigolyn

Mae amrywiaeth yn golygu cydnabod, er bod gan bobl bethau'n gyffredin â'i gilydd, eu bod nhw hefyd yn wahanol mewn llawer ffordd. Mae cydraddoldeb yn golygu y dylai pawb, ni waeth am y gwahaniaethau sydd rhyngddyn nhw, gael yr un hawl i gael gwaith, a phan fyddan nhw mewn gwaith, y dylen nhw gael cyflog cyfartal a'r un cyfle i gael hyfforddiant ac i ddatblygu.

Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 ym mis Hydref 2010 i symleiddio'r gyfraith ynglŷn â gwahaniaethu, gan ei gwneud yn haws i gyflogwyr ac unigolion ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau.

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr am swyddi ar sail hil, rhyw, anabledd, beichiogrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, statws priodasol neu oedran.

Mae rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gael ar wefan hwn. 

Chewch chi ddim gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr na'u diswyddo oherwydd euogfarnau sydd wedi 'darfod' o dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. Mae rhai mathau o swyddi wedi'u heithrio, er enghraifft y rheini sy'n ymwneud â gwaith gyda phlant.

Fel y trafodwyd eisoes, o dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid ichi sicrhau bod gan ddarpar weithwyr yr hawl gyfreithlon i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n bwysig hefyd bod unrhyw fusnes sy'n recriwtio staff yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Dylid trin unrhyw wybodaeth mewn ceisiadau, CVs a geirdaon gan weithwyr blaenorol yn gwbl gyfrinachol. Dylech gadw CVs am chwe mis rhag ofn i ymgeiswyr a wrthodwyd gwyno ac wedyn, rhaid cael gwared â nhw'n ddiogel.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau yn y gyfraith gyflogaeth a chyfreithiau eraill sy'n effeithio ar eich busnes.

Mae ACAS yn rhoi diweddariadau rheolaidd am gyfraith gyflogaeth ar eu gwefan.