1. Crynodeb

Ar ôl ichi benderfynu a dethol eich ymgeisydd, mae nifer o bethau y mae'n rhaid ichi eu hystyried cyn ichi eu cyflogi. Bydd y adran hon yn eich tywys drwy'r broses benodi.

2. Paratoi ar gyfer eich gweithiwr newydd

Ar ôl ichi benderfynu a dethol eich ymgeisydd, cysylltwch ag ef/ hi i ddweud beth yw eich penderfyniad. Mae'n beth da cysylltu dros y ffôn gyntaf a rhoi gwybod eich bod am anfon llythyr yn cadarnhau'r cynnig ac yn egluro'r telerau cyflogi.

Dylai'r llythyr ddatgan eto fanylion penodol y swydd ynghyd â'r telerau a'r amodau, y dyddiad dechrau ac unrhyw gamau y mae angen i'r ymgeisydd eu cymryd, er enghraifft, llofnodi a dychwelyd ffurflen i dderbyn y cynnig.

Dylech gynnwys unrhyw amodau penodol, er enghraifft, os yw'r swydd yn dibynnu ar lwyddo mewn arholiad neu gael geirdaon boddhaol.

Gwnewch yn siŵr bod yr ymgeisydd yn gwybod eich bod yn gofyn am eirdaon a gofynnwch am eu caniatâd penodol i fynd at eu cyflogwr presennol.

Mae'n beth arferol penodi gweithiwr newydd am gyfnod prawf, tri mis fel rheol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu gwneud y gwaith. Dylech gynnwys gwybodaeth am hyn yn eich llythyr cynnig.

NODYN PWYSIG: hyd yn oed yn ystod cyfnod prawf, bydd gan weithiwr hawliau statudol a rhaid ichi gydymffurfio â'r rhain.

Cael geirdaon a gwiriadau eraill

Dylech gynnwys disgrifiad swydd gyda'ch cais am eirdaon. Fe'ch cynghorir hefyd i ofyn cwestiynau penodol, perthnasol a fydd yn help ichi gael rhagor o wybodaeth am allu'r ymgeisydd. Peidiwch â gofyn am wybodaeth bersonol nac am farn bersonol y canolwr am yr ymgeisydd. Efallai mai'r cyfan y bydd ei angen fydd ffurflen syml yn cadarnhau'r dyddiadau cyflogi a sgiliau penodol.

Dyma'r adeg hefyd pan ddylech chi wneud unrhyw wiriadau eraill sydd eu hangen. Er enghraifft, os nad yw'n frodor Prydeinig, dylech sicrhau bod gan yr ymgeisydd yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, neu os yw gyrru yn rhan o'r swydd, dylid cadarnhau bod ganddo drwydded yrru, neu os yw'r swydd yn golygu gweithio gyda phlant neu bobl agored i niwed, dylid cynnal archwiliad gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

3. Beth i'w wneud pan fydd eich gweithiwr newydd yn dechrau gweithio

Ar ôl i'r ymgeisydd dderbyn y swydd, bydd yn rhaid ichi baratoi ei gyfer a llunio rhaglen gynefino.

Cynefino yw dod yn gyfarwydd â'ch busnes a setlo yn y swydd. Bydd rhaglen gynefino dda yn creu argraff gyntaf gadarnhaol a bydd yn gwneud i'r gweithiwr newydd deimlo fel petai croeso iddo ac yn ei baratoi i gyfrannu'n llawn.

Mewn busnes bach, mae'r rhaglen gynefino'n debygol o fod yn un anffurfiol. Y nod yw gwneud gweithwyr newydd yn gyfarwydd â'r gweithle, a rhoi gafael iddyn nhw ar eich arferion gweithio ac ar unrhyw agweddau penodol a allai effeithio arnyn nhw. Yn benodol, fe ddylech eu gwneud nhw'n ymwybodol o unrhyw ofynion ynglŷn â thân ac iechyd a diogelwch er mwyn iddyn nhw allu gweithio mewn amgylchedd diogel heb fod yn agored i unrhyw berygl diangen neu heb iddyn nhw beryglu unrhyw rai o'u cydweithwyr neu bobl eraill sy'n ymwneud â'r busnes.

Gwnewch yn siŵr bod lle iddyn nhw a threfnwch yr offer hanfodol, gan gynnwys desg, ffôn, cyfrifiadur a nwyddau swyddfa hanfodol. Dangoswch y cyfleusterau sylfaenol ac esboniwch beth yw patrwm arferol y diwrnod gwaith - amserau a'r trefniadau arferol ar gyfer egwyl a chinio ac ati.

Cyflwynwch y gweithiwr newydd i bobl allweddol yn y sefydliad a'r tu allan iddo, a rhowch fanylion y sawl y dylen nhw gysylltu ag ef os bydd angen unrhyw help neu os bydd angen holi rhywbeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig os mai dyma'ch gweithiwr cyntaf ac mai dim ond chi, perchennog y busnes sydd yn y busnes ar wahân i'r gweithiwr.

Mae'n bosib y bydd y rhaglen gynefino'n digwydd dros gyfnod, ond mynnwch sgwrs â'r gweithiwr newydd bob dydd i ateb unrhyw gwestiynau ac i feithrin perthynas weithio adeiladol.

Defnyddiwch y templed hwn i'ch atgoffa am y pethau allweddol i'w cynnwys mewn rhaglen gynefino (MS Word 11kb)

Gweld sut allech chi gynnig sesiwn cynefino lwyddiannus gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

 

Nesaf: Cyflogi eich gweithiwr cyntaf - materion cyfreithiol