1. Crynodeb

Pan fyddwch chi’n dechrau busnes, mae angen ichi benderfynu a fyddwch chi am redeg y busnes fel Masnachwr Unigol, Partneriaeth neu Gwmni Cyfyngedig. Y maen prawf pwysig wrth wneud penderfyniad yw atebolrwydd ariannol personol, er bod goblygiadau eraill i’w hystyried. Mae’r adran hon yn tynnu sylw at fanteision ac anfanteision bod yn gwmni cyfyngedig ac mae’n amlinellu’r cyfrifoldebau cyfreithiol.

2. Beth yw Cwmni Cyfyngedig?

Pan fyddwch yn dechrau busnes, mae angen ichi benderfynu ar statws cyfreithiol eich busnes. Gall fod yn Fasnachwr Unigol, yn Bartneriaeth neu’n Gwmni Cyfyngedig. Y maen prawf pwysig wrth wneud y penderfyniad yw atebolrwydd ariannol personol – er bod goblygiadau o ran faint o dreth ac Yswiriant Gwladol rydych chi'n ei dalu hefyd, yn ogystal â'r cyfrifon rydych chi'n eu cadw, y ffordd rydych chi'n cymryd elw o'r busnes a'r ffordd rydych chi'n gwneud penderfyniadau ynghylch rhedeg y busnes.

Os ydych chi’n fasnachwr unigol neu’n bartneriaeth, rydych chi, yn bersonol, yn atebol am holl ddyledion y busnes. Mae hyn yn golygu, petai’r busnes yn methu, fe allech chi wynebu methdaliad personol os yw dyled y busnes yn sylweddol ac os nad ydych chi’n gallu ei thalu. Mae sefydlu cwmni cyfyngedig yn cynnig gwarchodaeth rhag hyn.

Efallai y byddwch chi’n penderfynu sefydlu’ch busnes fel cwmni cyfyngedig o’r dechrau, neu fe allech chi ddewis newid statws cyfreithiol eich busnes wrth iddo dyfu ac ymsefydlu.

Mae cwmni cyfyngedig yn endid cyfreithlon ar wahân, ac felly mae’n gyfrifol, ar ei ben ei hun, am bopeth y mae’n ei wneud.  Mae arian y cwmni’n cael ei gadw ar wahân i arian personol y perchnogion.

Mae hyn yn sicrhau mwy o ddiogelwch i’r perchnogion a chyfranddalwyr eraill nad ydyn nhw’n atebol am ddyledion y cwmni.

Rhaid i gwmni cyfyngedig gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae’r wybodaeth lawn ar gael ar wefan Companies House.

Os hoffech wybod am sut i fod yn gwmni cyfyngedig ac ystyriaethau cyfreithiol eraill, edrychwch ar y cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

3. Manteision bod yn gwmni cyfyngedig

Mae yna nifer o fuddion yn gysylltiedig â dod yn gwmni cyfyngedig.

  • Fel yr esboniwyd yn barod, y prif fudd yw’r sicrwydd ariannol sy’n deillio o fod yn gwmni cyfyngedig. Cyn belled â bod y busnes yn cael ei weithredu’n gyfreithlon ac o fewn telerau'r Ddeddf Cwmnïau, nid yw asedau personol cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr cwmni cyfyngedig mewn perygl, petai’r cwmni’n rhoi’r gorau i fasnachu.  Mae cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr yn atebol am eu buddsoddiad eu hunain yn unig, a dim mwy.
  • Mae yna fanteision o ran treth ac Yswiriant Gwladol. Er enghraifft, mae elw cwmni’n ddi-dreth hyd at werth penodol – trowch at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gael gwybod beth yw’r gwerthoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae modd rhannu elw cwmni fel difidendau rhwng cyfranddalwyr, ac ar hyn o bryd, nid yw Yswiriant Gwladol yn berthnasol i daliadau difidend, felly mae hynny'n lleihau eich atebolrwydd treth ymhellach. Hefyd, mae manteision treth posib i’r rheini sy’n dymuno cadw eu harian yn y busnes neu mewn cynllun pensiwn.

Sylwch: dim ond syniad o’r manteision treth ac Yswiriant Gwladol posib sydd yma. I gael gwybodaeth fanwl a chyfredol ac i gael gwybod am eich amgylchiadau personol, mynnwch air â’ch cyfrifydd neu’ch cynghorydd ariannol.

  • Yn aml, mae cyflenwyr a chwsmeriaid yn teimlo’n hyderus os ydych chi’n gweithredu fel cwmni cyfyngedig, ac mae hyn yn gwella hygrededd y busnes. Cofiwch fod yn well gan rai sefydliadau mwy beidio â delio â busnesau nad ydynt yn gyfyngedig.
  • Nid yw'r costau sydd ynghlwm â rheoli a gweithredu cwmni cyfyngedig, yn enwedig y trethi a’r ffioedd cyfrifo, yn llawer uwch na’r costau ar gyfer busnes nad yw’n gyfyngedig. Yn wir, mae newidiadau mewn deddfwriaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gostau llawer is yn hyn o beth. 

Cofiwch ddilyn cyngor eich cyfrifydd ynghylch y costau ar gyfer eich busnes.

  • Mae ffurfio cwmni cyfyngedig yn un ffordd o ddiogelu enw busnes. Does dim modd i ddau gwmni cyfyngedig fod â’r un enw, felly does dim siawns o ddrysu rhwng gwahanol fusnesau. Hefyd, mae modd diogelu enw’ch cwmni am gyfnod amhenodol, hyd yn oed os nad yw eich cwmni’n weithredol am gyfnod hir.
  • Gall fod yn haws sicrhau arian fel cwmni cyfyngedig, yn enwedig gan fanciau neu gyfranddalwyr.
  • Ac os bydd y busnes yn cael ei werthu, mae’n haws ei drosglwyddo i berchennog newydd drwy werthu cyfranddaliadau.

4. Anfanteision bod yn gwmni cyfyngedig

Er bod nifer o fanteision i ddod yn gwmni cyfyngedig mae yna rai anfanteision hefyd.

  • Mae cost ynghlwm â ffurfio cwmni cyfyngedig. Er nad yw’r gost yn uchel iawn, mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei hystyried.
  • Mae ’na reolau mwy cymhleth a chaeth ynghylch y cyfrifon a chadw llyfrau ar gyfer cwmni cyfyngedig.  Er enghraifft, rhaid i’r cwmni baratoi cyfrifon blynyddol, gan gynnwys mantolen a datganiadau ariannol eraill. Os byddwch chi’n dewis gwneud hyn eich hun, mae goblygiadau o ran amser. Fel arall, os ydych chi’n cyflogi rhywun neu’n gofyn i’ch cyfrifydd ei wneud i chi, mae goblygiadau o ran cost.
  • Rhaid ffeilio cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn, a bydd y rhain ar gael yn gyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gall pobl eraill weld crynodeb o’ch cyfrifon, gan gynnwys y rhai sy’n cystadlu â chi.

Rhaid ichi hefyd ffeilio cyfrifon, cyfrifiadau treth gorfforaeth a threth cwmni gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi bob blwyddyn.  Gall eich cyfrifydd helpu gyda hyn, ond bydd cost ynghlwm.  

Byddwch yn ymwybodol o’r amseroedd ffeilio llym ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r posibilrwydd o gael cosbau ariannol a chosbau eraill os na fyddwch chi’n ffeilio ar amser.

Mae goblygiadau cyfreithiol i gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig, fel y nodir yn y Ddeddf Cwmnïau.

Mae’r elw’n eiddo i’r cwmni, nid y cyfranddalwyr (perchnogion). Mae hyn yn golygu na allwch chi, fel y perchennog, dynnu arian o’r busnes pan fyddwch chi’n teimlo fel gwneud hynny – mae yna gyfyngiadau a chanlyniadau o ran treth.

Os ydych chi’n gyfranddaliwr, gall y cwmni dalu difidend i chi, cyn belled â bod gan y cwmni ddigon o elw – cofiwch, rhaid rhannu’r elw rhwng y cyfranddalwyr i gyd, a gall hyn leihau'r swm y byddwch chi’n ei gael.

Mae’n bosib i chi gael cyflog fel cyfarwyddwr (gweithiwr cyflogedig). Gall y cwmni ad-dalu treuliau busnes i chi hefyd os ydych chi wedi gwario’ch arian eich hun, ond byddwch yn ymwybodol o’r goblygiadau treth yn y maes hwn.

Fel y gwelwch chi, mae yna fwy o fanteision nag anfanteision i fod yn gwmni cyfyngedig.  Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich sefyllfa’n llawn cyn penderfynu ai dyma'r penderfyniad gorau i chi.

Mae bob amser yn syniad da cael cyngor gan rywun proffesiynol pan fyddwch chi’n penderfynu ar statws cyfreithiol eich busnes.

5. Pwy sy’n berchen ar gwmni cyfyngedig?

Mae perchnogaeth cwmni cyfyngedig yn cael ei rhannu’n rhannau cyfartal, a elwir yn gyfranddaliadau. Cyfranddalwyr, neu aelodau, yw’r bobl neu’r sefydliadau sy’n berchen ar un neu fwy o’r cyfranddaliadau hyn.

Oherwydd bod gan gwmnïau cyfyngedig eu hunaniaeth gyfreithiol eu hunain, nid yw’r perchnogion, yn bersonol, yn atebol am ddyledion y busnes.  Atebolrwydd cyfyngedig sydd gan y cyfranddalwyr – yn gyfyngedig i werth nifer y cyfranddaliadau sydd ganddyn nhw.

Yn wahanol i fasnachwr unigol neu bartneriaeth, nid yw perchnogion cwmni cyfyngedig o reidrwydd yn ymwneud â rhedeg y busnes. Gwaith Bwrdd y Cyfarwyddwyr yw hynny. Gall y perchennog, fodd bynnag, fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni. Mae cyfarwyddwyr hefyd yn cael eu galw’n swyddogion y busnes.

Cyfranddalwyr sy’n berchen ar y cwmni (ac sy’n ei ariannu).

Cyfarwyddwyr sy’n rheoli’r busnes ac maen nhw'n atebol i'r cyfranddalwyr.

Yn aml iawn, yr un bobl yw'r cyfranddalwyr a'r cyfarwyddwyr. Er enghraifft, os ydych chi’n dechrau busnes ar eich pen eich hun, ac yna’n dod yn gwmni cyfyngedig, efallai eich bod yn berchen ar 100% o’r cyfranddaliadau ac yn rhedeg a rheoli’r busnes o ddydd i ddydd hefyd.

Neu, os mai chi yw perchennog y busnes, efallai fod gennych chi rywun arall sy'n ei redeg a'i reoli drosoch chi, ac efallai eich bod yn rhoi neu’n gwerthu cyfranddaliadau iddo yn eich busnes (neu efallai ddim).

Hyd yn oed os mai’r un bobl yw’r cyfranddalwyr a’r cyfarwyddwyr, cofiwch fod gan gyfranddalwyr a chyfarwyddwyr hunaniaeth gyfreithiol wahanol, ac mae ganddyn nhw eu hawliau a’u rhwymedigaethau eu hunain. Gallwch fod yn un person sydd â dwy rôl.

6. Cyfrifoldebau cyfreithiol Cwmnïau Cyfyngedig

Mae gan gwmni cyfyngedig nifer o gyfrifoldebau cyfreithiol:

  • rhaid i’r cwmni fod wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.
  • rhaid ffeilio cyfrifon blynyddol yn Nhŷ’r Cwmnïau.
  • rhaid cyflwyno Ffurflen Flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau.
  • rhaid i’r cwmni gadw Cofrestri Statudol sy’n cofnodi enwau a chyfeiriadau swyddogion a chyfranddalwyr y cwmni.
  • rhaid i’r cwmni roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am unrhyw elw ac incwm trethadwy'r cwmni ar Ffurflen Dreth Cwmni a rhaid iddo fodloni ei holl ddyletswyddau treth (Treth Gorfforaeth, Hunanasesiad, Yswiriant Gwladol, Cynllun TWE, a TAW).
  • rhaid dangos enw llawn y cwmni yn y swyddfa gofrestredig ac ar sieciau, a rhaid i holl bapurau pennawd cwmni ddangos cyfeiriad y swyddfa gofrestredig (a chyfeiriad y busnes os yw hwn yn wahanol) a rhif cofrestru’r cwmni.

 

Nesaf: Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr