1. Crynodeb

Llywodraethu corfforaethol yw’r system ar gyfer cyfarwyddo a rheoli cwmnïau. Mae’r adran hon yn edrych ar brif feysydd llywodraethu corfforaethol a sut maen nhw’n effeithio ar eich busnes.

2. Llywodraethu Corfforaethol

Llywodraethu corfforaethol yw’r system ar gyfer cyfarwyddo a rheoli cwmnïau. Mae’n delio’n bennaf â’r berthynas rhwng gwahanol rannau cwmni - y cyfarwyddwyr, y bwrdd a'r cyfranddalwyr, ac mae'n bodoli i wneud yn siŵr bod cwmnïau'n gweithredu mewn ffordd deg, gyfiawn a phriodol.

Tryloywder ac atebolrwydd yw elfennau pwysicaf llywodraethu corfforaethol da. Mae hyn yn golygu:

  • bod y cwmnïau’n darparu gwybodaeth o ansawdd da, ar amser
  • bod gan y cwmni broses o lunio penderfyniadau sy’n glir ac yn gredadwy
  • bod y cyfranddalwyr yn ystyried y wybodaeth sy’n cael ei darparu’n briodol ac yn gwneud penderfyniadau ystyriol.

Mae gan y Deyrnas Unedig rai o’r safonau llywodraethu corfforaethol gorau yn y byd. Mae Cod Llywodraethu Corfforaethol y Deyrnas Unedig yn nodi arferion da sy’n rhoi sylw i faterion fel cyfansoddiad ac effeithiolrwydd y bwrdd, rôl pwyllgorau’r bwrdd, rheoli risg, cydnabyddiaeth a pherthynas â chyfranddalwyr.

Mae llywodraethu corfforaethol yn ymwneud yn bennaf â chwmnïau mawr, cyhoeddus, ond mae’n gwneud synnwyr i fusnesau bach fod yn ymwybodol o’r egwyddorion a mabwysiadu arferion da o ran y ffordd maen nhw’n cael eu rhedeg.

Er nad oes gan fusnesau bach fyrddau mawr yn gyffredinol, na grwpiau helaeth o gyfranddalwyr, mae ganddyn nhw fuddsoddwyr neu amryw o bartneriaid busnes sydd â diddordeb sylweddol yn llwyddiant a thwf y cwmni.  Mae rhoi dull llywodraethu corfforaethol cadarn ar waith yn dangos bod gan y cwmni ddiwylliant o dryloywder a thegwch a'i fod yn cynnal busnes mewn dull moesegol ac atebol.

Bydd y cwrs BOSS hwn yn eich helpu i ddeall mwy am Lywodraethu Corfforaethol.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

3. Sut mae rhoi llywodraethu corfforaethol ar waith yn eich busnes

“Nid yw’r un cwmni’n rhy fach i orfod poeni am lywodraethu corfforaethol cadarn.” Jeremy Copp

Mae llywodraethu corfforaethol yn ymwneud yn bennaf â chwmnïau mawr, cyhoeddus, ond mae’n gwneud synnwyr i fusnesau bach fod yn ymwybodol o’r egwyddorion a mabwysiadu arferion da o ran y ffordd maen nhw’n cael eu rhedeg. Dyma ambell air i gall ar gyfer eich busnes.

Mynnwch wybodaeth

Gwybodaeth sylfaenol am egwyddorion hanfodol llywodraethu corfforaethol yw’r cam cyntaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio i’ch holl randdeiliaid pam mae eich busnes bach chi wedi dewis dilyn yr egwyddorion hyn.

Mapiwch strwythur presennol y busnes a dychmygwch sut rydych chi’n bwriadu datblygu

Yn y bôn, siart o’r sefydliad yw hwn, sy’n dangos y strwythur o ran rolau ac adrodd, yn ogystal â diffinio’r cyfrifoldebau a thynnu sylw at y meysydd pwysig yn eich busnes.

Datblygwch broses neu ddogfen weithdrefn ar gyfer pob gweithgaredd

Mae cael proses sylfaenol a dogfennau gweithdrefn yn arfer dda. Gall hyn fod ar gyfer sut mae ateb y ffôn i gwblhau archebion ac ymateb i ymholiadau cwsmeriaid. 

Sefydlwch fwrdd ymgynghorol

Grŵp gwirfoddol o bobl heb unrhyw hawliau cyfreithiol yw bwrdd ymgynghorol, sy’n mentora ac yn cefnogi’ch busnes. Dewiswch bobl rydych chi’n eu hadnabod ac rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, ac sydd â diddordeb yn eich helpu chi a’ch busnes i lwyddo. Rhowch wahoddiad iddyn nhw i rannu eu profiadau a’u syniadau, gan gynnig taro goleuni ar bethau a bod yn glust wrthrychol i’ch cynlluniau datblygu.

Cyflwynwch god ymddygiad

Mae hwn yn disgrifio'r ymddygiad, y cyfrifoldebau, y camau gweithredu neu'r agweddau sy'n ofynnol gan y bobl hynny yn eich busnes. Gall roi arweiniad ar sut mae gweithredu neu ymateb mewn gwahanol sefyllfaoedd busnes ac mae’n sicrhau bod pawb yn deall y gwerthoedd sy’n sail i’ch busnes.

Pennwch amcanion a datblygwch strategaeth

Mae cael amcanion ysgrifenedig a chynllun ar waith yn rhoi cyfeiriad i fusnes. Mae hefyd yn sicrhau bod pawb sydd ynghlwm â’r busnes yn ymwybodol o’r hyn sy’n ofynnol ac yn gweithio tuag at yr un canlyniadau.

Mapiwch gynllun ar gyfer adroddiadau ariannol cyson

Nid yn unig y mae gwybod pryd, ymhle a sut mae arian yn cael ei wario neu ei ddyrannu’n arfer dda, mae hefyd yn ffordd o ddal pobl yn atebol am eu gweithredoedd ac mae’n ffordd o hyrwyddo tryloywder y busnes.

Paratowch ar gyfer yr annisgwyl

Mae cael cynlluniau ar gyfer delio ag unrhyw beth annisgwyl yn lleihau dryswch a'r amseroedd ymateb os bydd rhywbeth yn digwydd. Mae cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu chwim yn golygu bod pethau'n digwydd yn gyflym, felly byddwch yn barod a gwnewch yn siŵr bod gennych chi gynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau cadarnhaol a negyddol.

Polisïau agored ar gyfer cyflog a buddion

Mae bod yn agored ac yn glir ynghylch sut mae gweithwyr cyflogedig yn cael eu gwobrwyo yn lleihau problemau posib.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y diweddaraf am dueddiadau’r diwydiant a chyfraith lywodraethu

Talwch sylw i’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas er mwyn aros ar flaen y gad o ran ymddwyn yn deg ac yn foesegol.

Os ydych chi’n ceisio datblygu’ch busnes yn sylweddol, yn chwilio am gymorth ar gyfer eich cynlluniau buddsoddi neu’n chwilio am ffordd o gynnal busnes mewn ffordd fwy moesegol, tryloyw a theg, dilynwch arferion gorau llywodraethu corfforaethol.

Defnyddiwch y templed hwn i ystyried pob un o’r meysydd llywodraethu corfforaethol yn eich busnes (MS Word 14kb)

 

Nesaf: Creu bwrdd effeithiol